Â鶹ԼÅÄ

The Time Traveler's Wife - adolygiad

Bana a McAdams

The Time Traveler's Wife (15)

12ATair seren

  • Y Sêr: Eric Bana, Rachel McAdams.
  • Cyfarwyddo: Robert Schwentke.
  • Sgwennu: Addasiad o nofel Audrey Niffenegger.
  • Hyd: 107 munud

Amseru amherffaith yn peri dryswch

Adolygiad Glyn Evans

Yn yr ysgol ers talwm byddai athrawon yn gwneud eu gorau glas i stwffio i'n pennau ferfau gyda therfyniadau mawreddog fel asaswn, asatit, asasem ac ati a fyddai'n ffurfio geiriau fel canaswn, canasem, canasech canasent ac yn y blaen.

Yr oedd hynny pan oedd bri ar amserau amherffaith a gorberffaith berfau gyda'r naill "yn dynodi bod gweithred neu stad yn parhau ar ryw adeg (ym meddwl y siaradwr) yn y gorffennol" a'r llall yn mynegi rhyw "weithred neu stad a oedd eisoes yn orffennol ar yr adeg y cyfeirir ati neu y meddylir amdani yn y gorffennol".

Gallai'r cyfan fod yn anodd ac yn ddryslyd iawn i hogyn ysgol.

Hyd y gwn i, dydi plant heddiw, ddim yn cael eu dychryn â ffurfiau fel hyn mwy nag ydyn nhw'n cael eu trafferthu â ffurfiau cryno berfau.

Wel, i be pan fo gennym ni ddigonedd o maes a roedds at iws tÅ·?

Beth bynnag, mynd i ddweud oeddwn i; bod yr amserau ymddangosiadol gymhleth a dryslyd hyn yn gliriach na'r grisial cliriaf mewn cymhariaeth â'r syniad o amser yn y ffilm The Time Traveler's Wife.

Yn un o nifer

Mae hi'n un o nifer o ffilmiau diweddar lle mae cymeriad yn pendilio rhwng un amser â'r llall - hanes Benjamin Button ymhlith y diweddaraf.

Mae The Lake House, Message in a Bottle, The Butterfly Effect, Ghost a The Notebook yn aros yn y cof ac yn cymharu â'r Traveler's Wife.

Ac fel y gweddill o ffilmiau'r cywair hwn mae mwy o dyllau na gogor yn y stori hon, eto, ac i'w mwynhau rhaid anwybyddu ac osgoi cwestiynau yn dechrau gyda'r geiriau Pam na fydda hi; Pam nad ydi o, Sut mae o'n . . . ac yn y blaen.

O wneud hynny mae gwledd fach delynegol i'w mwynhau a gadawodd sawl un y sinema wedi eu rhyfeddu a'u cyfareddu gan y stori garu rhwng Henry (Eric Bana) a Clare (Rachel McAdams arbennig o apelgar).

Llyfrgellydd pryderus ei olwg yn Chicago ydi Henry. Heb siafio ers tridiau ac mewn cariad dwfn â Clare.

Gwendid mawr

Ei wendid mawr yw ei fod yn toddi'n ddim o flaen eich llygaid pan yw dan bwysau emosiynol neu mewn gwewyr a chan adael ei ddillad yn swp ar lawr o gwmpas lle byddai ei draed pe bydden nhw'n dal yno mae'n ymddangos mewn 'amser' arall yn gwbl noeth sy'n ei orfodi i dreulio munudau cyntaf ei ymgnawdoliad yn chwilio am rywbeth i'w wisgo.

Yn ffodus - neu'n anffodus gan ddibynnu ar eich chwaeth - mae'r camera bob amser tu ôl iddo pan ddigwydd hynny.

Un o'r rhai y mae'n ymweld â hi yn gyson yn y gorffennol yw merch fechan o'r enw Clare y mae'n cael sgyrsiau maith â hi am ei fywyd yn ei/eu dyfodol.

Oherwydd un o'r rghesymau 'pam nad ydi o' yna, pan yw'n cyfarfod Clare yn ferch ieuanc yn y llyfrgell yn Chicago dydi o ddim yn ei hadnabod ond mae hi'n ei adnabod ef o'i ymweliadau ac yn gwybod y byddan nhw'n priodi rywdro yn nyfodol agos eu presennol fel petai.

Yn ffodus iawn dyw hyn i gyd ddim hanner mor gymhleth ar ffilm ag yw i'w grynhoi ar bapur a dyna pam fydd dim rhaid eich tynnu chi sy'n eistedd yn y cefn mewn dryswch i du blaen y dosbarth ichi gael clywed yn iawn.

Cael plant

Er gwaethaf eu anawsterau amserol - ynteu anamserol? - mae'r ddau ynpriodi ond Clare yn cael trafferth rhoi genedigaeth gan fod i'r babanod yn y groth yr un awch i ddiflannu mewn amser â'r tad.

Er mwyn arbed trafferth a gwewyr i Clare aiff Henry dan y gyllell i atal llif ei had.

Ond, cyfrwys ag yw, mae Clare yn llwyddo i feichiogi trwy garu â Henry o'r gorffennol, cyn iddo gael 'y snip', pan yw ar ymweliad a'i ddyfodol ym mhresennol priodasol y ddau. Dwi'n meddwl.

Bydd y rhai sy'n dal i ddarllen yn synnu nghlywed i'n dweud nawr nad comedi yw The Time Traveler's Wife ond stori garu ddigon dwys ac emosiynol gyda'r dwysedd hwnnw'n cynyddu pan enir merch iddyn nhw sydd wedi etifeddu cynneddf deithiol ei thad.

Bu'r llyfr, pan gyhoeddwyd ef yn 2003, yn un hynod boblogaidd ac er nad oes gan y rhan fwyaf o adolygwyr ffilm fawr i'w ddweud am y fersiwn seliwloid - 'tosh' ydi un gair a ddefnyddir - bydd iddi ei hapêl ymhlith mynychwyr sinema yn gyffredinol a fydd yn ei chael yn anodd iawn peidio ag uniaethu â'r ddau gariad.

Sillafiad

Ac o ie, diau y bydd rhai yn holi i ble yr aeth yr ail 'l' yn y gair Traveller yn y teitl gan dybio, efallai, iddi hithau ddiflannu i rhyw ddyfodol neu orffennol gwyddorol.

Yn hytrach, beied yr hen ffordd Eingl Americanaidd o sillafu am hynny gan ofidio nad yw'r Dyniadon Ynfyd Hirfelyn Tesog yn dal efo ni i ganu ar batrwm Sawl C sydd yng Nghricieth? sawl L sydd yn Traveller?


Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.