Â鶹ԼÅÄ

The Curious Case of Benjamin Button

Pitt a Blanchett

The Curious Case of Benjamin Button

Amser ar ein dwylo

12ATair  seren

Adolygiad gan Glyn Evans

Actorion: Brad Pitt, Cate Blanchett, Taraji P Henson, Hared Harris a Tilda Swinton.

Cyfarwyddo: David Fincher.

Sgrifennu: Wedi ei sylfaenu ar stori fer gan F Scott Fitzgerald.

Hyd: 166 munud.

I un y mae T H Parry-Williams yn un o'i hoff feirdd dydi'r syniad o 'fyned yn iau wrth fyned yn hÅ·n' ddim yn un dieithr.

'Nôl yn 1928 yr oedd o'n canu:

Ac eto, gwych fyddai geni dyn
Yn hen, a'i iengeiddio wrth fynd yn hÅ·n

A'i gladdu'n faban ar ben ei daith
 llonder sych yn lle tristwch llaith."

A hithau'n 2009 dros 81 o flynyddoedd wedyn wele Brad Pitt yn gwneud hynny'n union mewn sinemâu ar hyd a lled y byd:
"Yn myned yn iau wrth fyned yn hÅ·n."

Stori fer

Ond er mai ffansi Syr T H Parry-Williams yn ei gerdd Dau Hanner a'm hanfonodd i, i weld The Curious Case of Benjamin Button, go brin i'r bardd o Rhyd-ddu groesi meddwl Brad Pitt na'r cyfarwyddwr, David Fincher, wrth iddyn nhw fynd ati i roi'r ffilm 'amserol' hon at ei gilydd.

Yn wir, stori fer a sgrifennwyd gan y llenor Americaidd, F Scott Fitzgerald, yn 1922 oedd eu ffynhonnell hwy.

Fel stori ddigri y cyflwynodd Fitzgerald hi ond ni chredech chi mo hynny o weld y ffilm gan mai prin iawn yw'r enghreifftiau o hiwmor yn y cynhyrchiad hir ac araf hwn sydd ag 13 o enwebiadau Oscar wrth ei enw.

Ac os oes unrhyw degwch yn yr hen fyd yma fe ddylai ennill pob gwobr sydd ar gael yn yr adran 'Ffilm rhy hir o bob dim rheswm".

Na, i feddwl mai ffilm yn ymwneud ag amser yw hon y mae hi yn gwbl afresymol o hir o ran amser a rhywun yn teimlo'i hun wedi heneiddio yn go arw yn ystod ei dwy awr a thri chwarter o hyd.

Ac i feddwl bod stori Fitzgerald yn un y gellid ei darllen mewn rhyw ddeng munud go lew!

Syml a difyr

Mae'r cysyniad sylfaenol yn un syml a difyr.
Man cychwyn y stori yw ysbyty yn New Orleans yn 2005 lle mae merch ifanc (Julia Ormond) yn cadw gwylnos wrth wely angau ei mam hen a bregus, Daisy, (Cate Blanchett) tra bo rhyferthwy Corwynt Katrina yn ysgwyd yr adeilad i'w seiliau.

Yn ystod ei gwylnos mae'n darllen o ddyddiadur, sydd yng ngofal ei mam, wedi ei gadw gan Benjamin Button sy'n adrodd hanes rhyfeddol ei fywyd yn cael ei eni yn faban sy'n arddangos arwyddion corfforol rhywun yn ei bedwar ugeiniau.

A chroen ei wyneb yn hen a chrebachlyd a'i gorff wedi ei ystumio â gwynegon mae Benjamin mor hyll mae ei dad yn ei gipio o'r ysbyty - lle bu farw'r fam wedi'r geni - a gadael y baban ar risiau cartref henoed sy'n cael ei redeg gan Queenie (Taraji P Henson) sy'n ymroi i ofalu'n dyner ac yn famol drosto.

Er mawr ryfeddod mae'r baban, wrth heneiddio yn iengeiddio nes dod, ymhen hir a hwyr, yn Brad Pitt golygus cyn crebachu'n ôl yn faban diamddiffyn unwaith eto gyda'r syniad o ail blentyndod yn dod yn rhan real iawn o'i henaint.

Hynt bywyd

Dyw hi ddim yn broses gyflym dilyn y blynyddoedd o noson y geni yn 1918 drwy ddyddiau'r cartref a gofal Queenie, gweithio ar dynfad dan gapteniaeth Gwyddel meddw (Jared Harris), affêr gyda Saesnes briod ym Moscow (Tilda Swinton) a charwriaeth fawr ei fywyd gyda dawnswraig bale o'r enw Daisy (Cate Blanchett) y mae'n ei chyfarfod gyntaf pan yw hi'n blentyn ac yntau'n henwr o faban yng nghartref Queenie.

Canol eu bywydau

Maes o law mae'r ddau yn ail gyfarfod tua chanol eu bywydau pan ydynt yn taro ar rywbeth fel yr un oed - un ar ei ffordd i fyny'r blynyddoedd a'r llall ar y ffordd i lawr - ac yn wynebu'r cwestiwn;

"Fyddi di'n dal i fy ngharu i pan ydw i'n hen a chrebachlyd," o'i safbwynt hi.
Ac a "fyddi di'n dal i ngharu i pan ydw i'n ifanc ac yn blorog?" o'i safbwynt yntau.

Sgwrs sy'n un o'r ychydig enghreifftiau o hiwmor yn y llusgfa faith sydd wedi ei britho â gwirebau yn cael eu llefaru'n bregethwrol:

"Cara tra gelli di."
"Does dim yn para byth."
"Rhaid iti fyw y bywyd sydd raid iti ei fyw."
"Fe elli di dyngu a rhegi am ffawd ond pan ddaw hi'n amser y diwedd mae'n rhaid iti ollwng dy afael."
"Mae'n fwriad inni golli y rhai a garwn: pa ffordd arall fyddem ni'n gwybod pa mor bwysig ydyn nhw."

A mwy.

Heb os, mae'r cysyniad gwreiddiol o fyned yn iau wrth fyned yn hÅ·n, er nad yn un newydd, yn un digon difyr a phe byddai'r ffilm wedi cyfyngu ei hun i archwilio hwnnw a pherthynas Benjamin a Daisy yn hytrach nag ymestyn yn saga deuluol o faintioli Beiblaidd byddai wedi bod ar ei hennill.

Ond methu mae'r ffilm a gwneud iawn â'r syniad hwnnw wrth droi yr hyn a alwodd Scott Fitzgerald "y stori ddoniolaf a sgrifennwyd erioed" yn epig drymlwythog.

Anfwriadol ddoniol

Ond anfwriadol yw un o'r pethau mwyaf doniol yn y ffilm sef y modd y mae'r holl gymeriadau yn derbyn mor ddi-gwestiwn yr hyn sy'n digwydd i Benjamin - gan ei gynnwys ef ei hun.

Pe digwyddai'r peth yn go iawn does bosib na fyddai wedi peri mwy o syndod a rhyfeddod nag a wnaeth yma.

Yn wir, cyfyngwyd pob syndod i'r teitl.
Ac i'r ffordd y mae Brad Pitt yn cael ei weddnewid yn ystod ei daith o fabandod henaidd i fabandod bachgenaidd. Mae gweddnewidiad corfforol yn wyrthiol diolch i'r dechnoleg sy'n awr ar gael i gyfarwyddwyr.

T H Parry-Williams

Ond, i feddwl bod hon yn ffilm sy'n ymwneud ag amser, wnaethon nhw ddim mo'r defnydd gorau ohono. Mae rhywun yn tybio i Parry-Williams roi mwy inni gnoi cil arno yn ei ffordd fachog ei hun mewn cerdd wyth llinell Amser lle mae'n sôn mai rhywbeth yw Amser sy'n:
"gadael i bawb yn ei dro / ddirywio a darfod a mynd o go"

"Y drindod anegni," chwedl yntau, sy'n dangos "nad yw/ Bywyd yn ddim ond bustachu byw".

Yr union beth y cymer The Curious Case of Benjamin Button ddwy awr a thri chwarter i'w ddweud!

A gwneud i rywun deimlo'n hen iawn wrth wneud hynny.


Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.