Â鶹ԼÅÄ

Michael Sheen - Midnight in Paris

Michael Sheen yn y ffilm

14 Hydref 2011

12Pedair seren allan o bump

  • Y Sêr: : Owen Wilson, Rachel McAdams, Michael Sheen a Marion Cotillard.
  • Cyfarwyddo: Woody Allen.
  • Sgrifennu: Woody Allen.
  • Hyd: 94 munud

Llwyddiant arall i Sheen

Adolygiad Lowri Haf Cooke

p>Ar ôl cydweithio'n lled lwyddianus â'r Cymry Anthony Hopkins a Naomi Watts yn You Will Meet a Tall Dark Stranger y llynedd, penderfynodd Woody Allen gastio Cymro arall, Michael Sheen, yn ei ffilm orau ers blynyddoedd, Midnight in Paris.

Er na apwyntiwyd y seren o Bort Talbot i'r brif ran, Gil, llwyddodd i ddisgleirio fel Paul - darlithydd deallus sy'n llwyddo i gipio calon oriog Inez, a chwareir gan Rachel McAdams (Mean Girls, The Notebook, The Time Traveller's Wife)- sef cariad go iawn Mr Sheen ers cwblhau'r ffilm.

Fel nifer o rannau gwrywaidd ffilmiau'r Auteur o Efrog Newydd, mae gan gymeriad Paul acen stacato Americanaidd yn null Woody Allen ei hun ac ar ôl chwarae cyfres o rannau hynod hoffus lle cafodd actio yn ei acen gynnes Gymreig, mae'n braf cael adrodd iddo ddarbwyllo'n llwyr fel yr Americanwr pedantig ond carismataidd sy'n mynd dan groen y gwyliwr- a Carla Bruni!

Llwyddai Paul i gynddeiriogi gwraig yr arlywydd gan i Allen gastio Bruni - sy'n adnabyddus fel model a chantores - fel tywysydd amgueddfa sy'n arwain y criw o Americanwyr o amgylch gerddi Rodin, gan gynnwys y darlithydd, sy'n mynnu ei chroesddweud.

Ac mewn tro sy'n cystadlu â "Marshall McLuhan moment" ysbrydoledig Annie Hall, llwydda arwr y ffilm i ddysgu gwers i'r siwd nawddoglyd yng nghwmni Madame Sarkozy.

Y mae'r stori ei hun yn dilyn hanes awdur sgriptiau ffilm Hollywood o'r enw Gil (Owen Wilson) sydd yn teithio i Baris yng nghwmni ei ddyweddi Inez , er mwyn cael ei ysbrydoli i orffen ei nofel fawr.

Ar ôl rhai dyddiau yng nghwmni arwynebol Inez a'i rhieni cyfoethog - sy'n aelodau balch o'r Tea Party gweriniaethol - a'i ffrindiau ffroenuchel Paul a Carol, y mae Gil yn dyheu am bach o lonydd i fwynhau Paris ar ei liwt ei hun, felly â am dro a chanfod dinas bur wahanol am hanner nos.

I'r Dauddegau

Fel yn achos cymeriad Gill Sheperd (Jeff Daniels) yn ffilm gynharach Woody Allen, The Purple Rose of Cairo, caiff Gil ei drawsgludo dros dro i gyfnod cwbwl wahanol, y Dauddegau disglair, a chyfnod euraidd yn hanes Paris, lle caiff gwrdd â chyfres o eiconau llenyddol ac artistig, gan gynnwys F Scott Fitzgerald a'i wraig Zelda, Gertrude Stein, Pablo Picasso, Luis Bunuel a Salvador Dali - a'i arwr mawr, Ernest Hemingway.

Wrth ddychwelyd i'r byd hudolus hwn yn ddeddfol bob hanner nos, sylweddola ei fod yn syrthio mewn cariad ag awen hudolus i Picasso, Adriana (Marion Cotillard), merch sydd yn difaru na chafodd brofi cyfnod euraidd y La Belle Epoque ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg - sefyllfa sy'n gwneud iddo sylweddoli nad oes pwynt hiraethu am gyfnod a fu ond gwneud y mwyaf o'i gyfnod ei hun tra bo ganddo'r cyfle.

Yn wahanol i'w gyfres o ffilmiau cymharol aflwyddiannus yn Llundain, llwydda Woody Allen i ail gipio'r awen a brofodd mor llwyddiannus iddo ym Marcelona ar gyfer Vicky Cristina Barcelona, wrth ddangos Paris ar ei mwyaf disglair.

Mae'n debyg y byddai gan y puryddion Ffrengig ddigon i'w ddweud yn erbyn dehongliad breuddwydiol yr Americanwr o'r "Ddinas o Oleuadau", heb sôn am bresenoldeb anachronistaidd yr holl eiconau hyn.

Ond mae'n amlwg o'r montage agoriadol - yn dilyn diwrnod ym mywyd y ddinas gyda golygfeydd o'r Seine, y Sacre Cour, y Notre Dame, a'r Champs Elysees a'r cyfarwyddo celfyddydol fod Allen ei hun wedi mopio'n lân â Pharis ac i'r ffilm gynrychioli prosiect chwerw felys gan iddo ef ei hun wrthod gwahoddiad i fynd i fyw yno yn ystod y Chwedegau.

Er bod Owen Wilson yn ddewis anarferol i'r brif ran Woody Allenaidd y tro hwn mae'n gwmni hamddenol a hoffus iawn ar hyd y siwrne.

Serch ei lwyddiant anferthol mewn comediau fel Wedding Crashers, You, Me and Dupreea chyfres Meet the Parents mae'n debyg i'r pwysau mawr arno arwain at broblemau iechyd meddwl go ddwys y llynedd, sydd wedi'i arwain i ddewis rhannau mwy personol a chwyrci, a phrosiectau ar y cyd â'i ffrind mawr (a'i gyd-sgwennwr ar Rushmore a The Royal Tennenbaums) Wes Anderson, gan gynnwys Moonrise Kingdom gydag Edward Nortion a Bruce Willis, fydd allan yn 2012.

Llwyddiant arall

Yn achos Michael Sheen, y mae Paul yn gymeriad cynorthwyol llwyddiannus arall i ychwanegu at restr faith o berfformiadau ffilm a wnaeth argraff fawr ar nifer yn Hollywood.

Rhaid aros tan fis Tachwedd i'w weld yn dychwelyd i'r gyfres Twilight, fel y fampir, Aro, yn rhan gyntaf Breaking Dawn, ac yn portreadu Tommy Atkins yn addasiad hirddisgwyliedig Amit Gupta o Resistance gan Owen Sheers.

Yn y theatr, fodd bynnag, bydd yn chwarae Hamlet yn y Young Vic rhwng Hydref 28 a Ionawr 21, yng nghynhyrchiad Ian Rickson o ddrama fawr Shakespeare.

O gofio i'w gynhyrchiad o The Passion ym Mhort Talbot dros benwythnos y Pasg eleni ennill clôd rhyngwladol, does dim rhyfedd fod y gwybodusion eisoes yn glafoerio wrth ddisgwyl gweld "digwyddiad theatrig y flwyddyn".

A fydd yn haeddu'r fath ddisgrifiad? Cawn weld ddiwedd Hydref.


Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.