Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Rygbi

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru

»

Chwaraeon

±Êê±ô-»å°ù´Ç±ð»å
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
±Êê±ô-»å°ù´Ç±ð»å Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Diweddarwyd: 22 Mawrth 2011

Prydie allan am hyd at wyth mis

Mae gobeithion Tom Prydie o ennill lle yng ngharfan Cymru ar gyfer Cwpan y Byd ar ben oherwydd anaf i'w ben-glin.

Tom Prydie

Bydd asgellwr 19 mlwydd oed y Gweilch yn cael llawdriniaeth yn ddiweddarach yn yr wythnos ar ôl anafu ei ben-glin yn y gêm Cynghrair Magners yn erbyn Glasgow ar 5 Mawrth.

Mae disgwyl iddo fod allan o'r gêm am chwech i wyth mis, sy'n rhoi fawr o obaith iddo fod yn holliach ar gyfer Cwpan y Byd yn Seland Newydd ym mis Medi.

"Mae sgan yn dangos fod Tom wedi rhwygo ei ligament, sy'n cadarnhau'r hyn oeddem yn ei ddisgwyl," meddai ffysio'r Gweilch Chris Towers.

Enillodd Prydie ei gap gyntaf i Gymru y tymor diwethaf yn 18 mlwydd oed a 25 diwrnod, gan fod y chwaraewyr ieuengaf erioed i wisgo'r crys coch.

Sgoriodd gais yn ei ail gêm yn erbyn De Affrica yng Nghaerdydd, ac yna cychwynnodd y ddwy gêm ar y daith i Seland Newydd.

Ond nid yw'r asgellwr wedi chwarae i'r tîm cenedlaethol ers hynny, wrth i George North a Morgan Stoddart gael eu dewis o'u flaen ar gyfer gemau'r hydref a Phencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Bydd gêm nesaf Cymru yn erbyn y Barbariaid ar 4 Mehefin, gyda dwy gêm yn erbyn Lloegr ac un yn erbyn yr Ariannin i ddilyn er mwyn paratoi am Gwpan y Byd.

Mae gofyn i'r hyfforddwr, Warren Gatland, gyhoeddi ei garfan ar gyfer y gystadleuaeth erbyn 22 Awst.

chwaraeon



About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý