麻豆约拍


Explore the 麻豆约拍

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
1900 - 1913

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



麻豆约拍 麻豆约拍page

Cymru'r Byd
» Canrif O Brifwyl
1900 - 1913
1914 - 1937
1938 - 1955
1956 - 1966
1967 - 1979
1980 - 1999
Radio a Teledu
Ble ar y We

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb

Lleoliad yr Eisteddfod           Lerpwl

Prif Ddigwyddiadau Hanesyddol

  • Cychwyn streic Chwarel y Penrhyn, Bethesda.
  • Streic gweithwyr Cwmni Rheilffordd Cwm Taf.
  • Ethol Keir Hardie ym Merthyr Tudful. Y Toriaid, dan arweiniad Arglwydd Salisbury, yn ennill yr Etholiad Cyffredinol.
  • Rhyddad Ladysmith a Mafeking.
  • Marw Oscar Wilde a John Ruskin.
  • Perfformiad cyntaf Tosca gan Puccini.
  • Rodin yn dangos y cerflyn The Kiss.
  • Monet yn dangos ei lun o lili men dwr.

Archdderwydd             Hwfa M么n

Y Gadair

Testun. Awdl, 'Y Bugail'
Enillydd. Pedrog
Beirniaid. John Morris-Jones
Cerddi eraill. Awdl anfuddugol Eifion Wyn awdl drydedd orau Gwilym Ceiriog*

Blwyddyn

Radio a Teledu

 
 

Ymateb a sylwadau Alan Llwyd

Er i John Morris-Jones ymosod yn ddidrugaredd ar yr Orsedd gan ddweud fod 'Cymdeithas yr Orsedd yn ddi-fudd, a'i graddau'n ddiwerth, oherwydd y rhwyddineb y gollyngir pob annheilyngdod iddi. Derbynnir ymgeiswyr yn aelodau drwy arholiad sydd bum gwaith yn haws nag arholiad isaf Prifysgol Cymru'. Achosodd ei sylwadau rwyg enfawr rhwng y Brifysgol a'r Orsedd. Parhaodd y rhwyg am chwarter canrif a rhagor.

Er gwaethaf ymosodiadau John Morris-Jones ni allai'r Eisteddfod ei anwybyddu. Ac yntau'n ysgolhaig o'r radd flaenaf, yn ieithydd penigamp ac yn arbenigwr ar Gerdd Dafod, ni allai'r Brifwyl wneud hebddo. Bu'n beirniadu cystadleuaeth y Gadair bron bob blwyddyn o droad y ganrif hyd at ei farwolaeth ym 1929, a cheisiodd arwain y canu caeth o'r diffeithwch yr oedd ynddo ar y pryd. Beirniadodd yr awdlau yn y 'Steddfod Genedlaethol am y tro cyntaf yn Eisteddfod Lerpwl, a methodd yn ei ddyfarniad. Enillodd Pedrog y Gadair am awdl ddiflas hir yn nhraddodiad y ganrif flaenorol. Eifion Wyn oedd y gorau yn 么l Tafolog, ond yr ail yn 么l y ddau feirniad arall, ond . Canodd i'r bugail fel gwerinwr syml. 'Roedd awdl Eifion Wyn yn seiliedig ar Gwlt y Werin. Cr锚wr myth y Werin Ddiwylliedig oedd O.M.Edwards, ac 'roedd y ddelwedd o werin ddiwylliedig yn cyd-fynd 么'r ddelwedd o werin orthrymedig wrth i ysbryd Sosialaeth gyniwair drwy'r tir.

* 'Roedd awdl arloesol Eifion Wyn yn llawer gwell awdl na'r awdl fuddugol. Canodd yn ddiriaethol glir, gan ymwrthod 芒'r demtasiwn o droi ei fugail yn weinidog. Bu llawer o feirdd a beirniaid, fel R. Williams Parry, T. E. Nicholas ac E. Prosser Rhys, o'r farn i Eifion Wyn gael cam mawr ym 1900.

Y Goron

Testun. Pryddest, 'Williams Pantycelyn'
Enillydd. Job
Beirniaid.  Iolo Caernarfon, Ben Davies a Glanystwyth (John Hughes)


Y Fedal Ryddiaith                   
Sefydlwyd ym 1937
 
Tlws y Ddrama                        
Cystadleuaeth gynhlaiwyd rhwng 1961 a 1993
 
Tlws y Cerddor                       
Sefydlwyd ym 1990 

Llyfrau perthnasol                  

Dau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd, Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000.



About the 麻豆约拍 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy