Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Sioe Frenhinol Cymru
Equos gan Joshua de Lisle Dydd Mawrth yn y Sioe Fawr
Hanes Dydd Mawrth yn Sioe Frenhinol Cymru 2010.

Diwrnod Dau yn y Sioe Frenhinol a mae pethau'n dechrau twymo. Er i'r nefoedd agor yn y bore, parahau i ymgynull ym maes y sioe a wanaeth y dorf.

Ar ddiwedd y dydd ddoe agorwyd Pencampwriaethau Cyneifio'r Byd. Mae'r Pencampwriaethau'n dod a canoedd o gystadleuwyr o 28 o wledydd at eu gilydd gyda'r cyntaf o'r rhagbrofion yn dechrau heddiw am 10 o'r gloch y bore.

Dywedodd Bryan Williams, Prif Steward y Pencampwriaethau, bod y digwyddiad yn "anrhydedd helaeth i'r Sioe Frenhinol," gan gymharu'r proses ymgeisio i'r gemau Olympaidd. Aeth Mr. Williams ymlaen i ychwanegu bod y Gemau'n "newyddion dda i Gymru."

Roedd un cyneifiwr, Nick Denniss o Gilgandra, De Cymru Newydd, Awstralia, yma i gystadlu yn y cyneifio dull traddodiadol gan ddefnyddio llafn yn hytrach na peiriant.

Er ei fod yn cael trafferth ymgyfarwyddo i'r tywydd cymraeg dywedodd ei fod yn edrych ymlaen yn fawr iawn i'r cystadlu gan bwysleisio ei gred ei bod hi'n bwysig trosglwyddo'r dull hynafol yma i'w blant ac i genhedlaethoedd i ddod.

I bobl sy'n mwynhau crefft a diwylliant traddodiadol mae yna lawer mwy i Arddangosfa Greft y Sioe Frenhinol. Mae arddangoswyr proffesiynol a brwdfrydig pob blwyddyn yn llwyddo i arddangos ffrwythau ei llafur gan ddenu llawer o ymwelwyr.

Unwaith eto, y mae Sefydliad y Merched yn mynychu'r Sioe ac mae rhai aelodau o dîm eleni yn falch i ddweud bod eu Cymdeithas wedi bod yma ers y dechrau.

Mae'r awyrgylch tu fewn i'r Neuadd yn groesawgar ac yn gyfeillgar ac mae 'na lawer o nwyddau (a chymeriadau) diddorol i'w cael yno. Ymysg rhain cawn llwyau-caru, mêl, telynnau, crochenwaith, celf a cherfluniau pren.

Er ei fod wedi ei leoli ar ben arall y maes, celf a chreft oedd hefyd y ffocws i fyny gyda'r gof heddiw. Ar ddydd Mawrth gwelwyd dechrau'r beirniadu ar amrwyiaeth o waith-haearn can gynnwys gwarchodwyr tân, cannwyllbrennau a gatiau.

Roedd cystadlu yng nghystadleuaeth 'creu sgidiau ceffyl hefyd yn ei anterth gyda sawl tim o ar draws Prydain yn cymryd rhan.

Wrth i'r ddiwrnod dod i ben, mae meddylion 'nawr yn troi i yfory ac i'r diwrnod y mae llawer yn ystyried yw uchafbwynt yr wythnos sef diwrnod y Cobiau Cymreig. Mae hi'n addo i fod yn ddiwrnod i gofio.



Eich neges

Rhaid cael 'Flash 9' i weld y ticer ar y ddalen hon. Mae cyfarwyddiadau cam wrth gam yma.

Bywyd Bro
Radio Cymru
Lluniau


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý