Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Aberaeron

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Aberaeron
Canol tref Aberaeron Paratoi at yr Å´yl
Lona Brierley, Cyfarwyddwr Cerdd Gŵyl Deucanmlwyddiant Aberaeron yn sôn am yr holl waith o drefnu a pharatoi at yr ŵyl sy'n cael ei chynnal rhwng 28 Gorffennaf a 4 Awst 2007.

"Dechreuodd y gwaith ar gynllunio Gŵyl Aberaeron 2007 nôl yn 2003. Ers Gorffennaf 28ain 2006, mae'r Swyddfa Docynnau yn Neuadd Goffa Aberaeron wedi bod ar agor, a chefais y fraint o fod yn gyfrifol amdano.

"Erbyn hyn, hon yw Swyddfa Gofrestredig Aberaeron 2007 Cyf, ac wedi tyfu'n ganolbwynt y dathlu. Fe synnech chi faint o ymholiadau diddorol, doniol a dryslyd sydd wedi dod ar ein cyfer ni, ac nid yn unig am y digwyddiadau!

"Lluniwyd rhaglen yr Ŵyl i gynnig rhywbeth at ddant pawb. Mae'n dathlu diwylliant, hanes, treftadaeth a cherddoriaeth Aberaeron. Mae'r talent cyfoethog, y mwyafrif ohono yn cysylltu'n agos â'n cymuned, yn eithriadol, ac rydym yn hynod falch o'r perfformiadau rhagorol a glywch chi.

"Dyma'r tro cyntaf i Aberaeron gynnal digwyddiad mor enfawr. Y bwriad yw darparu cyfrwng i arddangos talent lleol i gynulleidfa eang, a braf yw cofnodi bydd ffrindiau hen a newydd, o'r ardal leol ac o dramor, yn medru mwynhau'r Å´yl.

"Un o'r pethau pwysicaf i gofio yw nad digwyddiad bach di-nod yw hwn ynghanol y dref - mae tocynnau wedi'u gwerthu mor bell i ffwrdd ag Awstralia, Hong Kong a'r Unol Daleithiau.

"Ar hyd y ffordd, rydym wedi profi ystod eang o heriau, o gynllunio a gosod y llwyfan mawr i drafod y toiledau a sbwriel! Mae'r holl brofiad wedi bod yn werth chweil, gyda llawer o chwerthin a pheth dagrau, ond yn bennaf rhai llon yn hytrach na lleddf!

"Wrth i Ŵyl y Deucanmlwyddiant agosáu, mae pethau'n dechrau prysuro a phoethi! Mae nwyddau'n cyrraedd bron bob dydd erbyn hyn, ac mae'r trefnu yn mynd yn ei flaen yn weddol dda - ambell broblem, ond hyd yn hyn, wedi'u datrys yn gyflym. Braf yw cael y cyfle i helpu pobl, rhoi gwybodaeth iddynt am y digwyddiadau, a cheisio lledu'r brwdfrydedd heintus!

"Felly, dewch yn llu i ddathlu gyda'n gilydd - bydd yn wythnos i'w chofio."

Lona M. Brierley
Cyfarwyddwr Cerdd yr Å´yl
Gorffennaf 2007

  • Digwyddiadau dathlu 200 yn Aberaeron

  • Lluniau dathlu'r deucanmlwyddiant


  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

    Sylw:




    Mae'r Â鶹ԼÅÄ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.



    Digwyddiadau
    Trefi
    Radio Cymru
    Lluniau


    About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý