Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Frenhines yn cyflwyno gwobr i enillydd Dyddiadur Dydd Mercher
Roedd heddiw yn ddiwrnod prysur iawn yma , ond yn ddiwrnod diddorol iawn achos roedd ymwelwyr wedi dod o bob man i Lanelwedd oherwydd yr ymweliad Brenhinol.

Wnes i gwrdd â phobl o Wlad Pŵyl ac America oedd wedi dod i'r Sioe yn arbennig i weld y Frenhines. Roedden nhw'n aros yn Lloegr ar eu gwyliau ac wedi clywed am yr ymwelydd Brenhinol ac felly penderfynu dod draw i Lanelwedd.

Roedd na dipyn o ffws a chyffro gan bod Y Frenhines a Dug Caeredin yma, wnes i ddim cwrdd â hi yn bersonol ond roedd hi yng Nghylch y Gwartheg yn cyflwyno gwobrau pan o'n ni yno yn ffilmio.

Er mai diwrnod mawr y Cobiau Cymreig oedd hi yn y sioe heddiw, lot mwy o logio siots camera o wartheg oedd hi i fi eto. Yng Nghylch y Gwartheg o'n i am ran helaeth o'r bore - lot mwy o ddom da a phen ôlau!

A dweud y gwir falle eich bod chi wedi fy ngweld i ar y teledu heddiw. Roedd criw ffilmio'r rhaglen ddigidol sy'n fyw ar S4C drwy'r dydd o'r sioe, yn ffilmio linc byw yng Nghylch y Gwartheg. R'on i'n canolbwyntio gymaint ar y clipboard yn fy llaw, heb i fi sylweddoli, mi wnes i gerdded reit o flaen y camera ac yn syth i mewn i lwmpyn o ddom da! A hynny yn fyw ar y teledu. Cywilydd! Mae gen i un trainer wen ac un trainer frown nawr.

Ma' heddi di bod yn ddiwrnod amrywiol iawn mae'n rhaid dweud. Gafon ni gyfle i wylio cystadlaethau'r ffermwyr ifanc - y tug of war a chystadleuaeth Seren Wîb (Stars In Their Eyes.) Roedd y rhai enillodd o Went yn dynwared The Darkness - r'on nhw wir yn dda.

Ges i glonc 'da Merched y Wawr pnawn 'ma hefyd - r'odd rhaid aros am ddwy awr i Sulwyn Thomas gyrraedd i wneud eitem, felly bues i'n yfed te a bwyta Ginger Snaps gyda'r menywod draw ar eu stondin nhw!

Dim ond diwrnod arall i fynd, ond cyn hynny mae amser am noson arall o joio. Mynd i'r YFC Dance ym mhentref y bobol ifanc heno, ond bydd rhaid codi eto bore fory am 5.30 y bore am ddiwrnod arall o waith cyn mynd adre'! Jyst gobeithio wna' i ddim cwympo i gysgu dros fy mowlen o Coco Pops eto bore fory, fel wnes i bore 'ma!

Hwyl am y tro, dewch nôl fory i ddarllen y cofnod olaf o'r dyddiadur!

Owain LlÅ·r



0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹ԼÅÄ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý