Gan fy mod yn redwr gyda'r cwmni Telesgôp yn gweithio ar raglenni Y Sioe Fawr ar S4C bob nos, rydw i'n cael gweld lot fawr o faes y Sioe, sydd yn wickedond ma'n nhrâd i'n dost ofnadwy erbyn hyn a dim ond diwedd y diwrnod cyntaf yw hi! Rwy'n gweithio gyda'r dyn camera, sy'n lwcus i fod gyda ni. Bu bron iddo fe gael ei fwrw lawr gan darw heddiw! Ond fel na mae hi yn y Sioe - gall unrhywbeth ddigwydd. Mae'r dydd yn dechrau am 7.45 y bore, ac yn swyddogol rwy'n gorffen am 6.30pm, ond sdim dal ar hynny, mae'n dibynnu ar y gwaith ffilmio i ddweud y gwir. Rydw i wedi cael gorffen chydig yn gynt heddiw, a dw i newydd gael cyfle i weld y Kangaroo Kid ar ei fotobeic yn jwmpo dros bedwar people carrier! Agoriad llygad ac arddangosfa gwerth ei gweld. Rwy' wedi bod yn gweithio gyda'r gyflwynwraig Siân Thomas heddiw ac yn ffilmio pencampwriaethau'r gwartheg drwy'r dydd. Buon ni hefyd yn dilyn y Tywysog Charles am tua hanner awr - er nad oedd e'n fodlon rhoi cyfweliadau, buon ni'n cael cwpwl o siotiau a lluniau ohono fe ar gyfer y rhaglen. Un peth da am y swydd yma yw'r amrywiaeth. Buon ni wedyn yn ffilmio eitem yn y babell fwyd gyda'r gogyddes Ena - a ffilmio plât anferth o gakes. Tynnu dŵr i'r dannedd. A sôn am ddŵr - wel, bydd rhaid edrych ar ragolygon y tywydd yn fwy gofalus bore fory. Pan godes i y bore 'ma roedd hi'n braf ac felly fe wisges i grys T a siorts, ond wrth i fi sgrifennu'r dyddiadur yma rydw i'n wlyb sopen. Tua deng munud yn ôl daeth y gawod ryfedda' o law a ges i wlychfa a hanner. O wel, dyna ni, lan i'r Members Tent am beint neu ddau nawr a mlaen i'r dref wedyn i gwrdd â ffrindiau. A phwy a ŵyr beth wedyn .. gewch chi'r hanes fory. Ond bydd rhaid codi yn gynnar eto ar gyfer diwrnod arall o redeg! Mwy o'r sioe bore fory ... Owain Llŷr
|