Â鶹ԼÅÄ

Shirley Bassey

Shirley Bassey

Y gantores fyd enwog o Tiger Bay.

O Tiger Bay i James Bond a'r Rhestr Anrhydeddau, ychydig iawn o gantorion sydd mor enwog â Dame Shirley Bassey.

Ganwyd hi yn 1937 yn ferch i Eliza a llongwr o Nigeria Henry, a Shirley oedd yr ieuengaf o saith o blant. Ar ôl gadael yr ysgol yn 15 oed, dechreuodd ar ei gyrfa ganu yn 1953 ar y gylchdaith glybiau gweithio dynion a ddefnyddiodd fel ychwanegiad i'w chyflog o ddydd i ddydd mewn ffatri leol. Yn 1955, fe'i gwelwyd gan arweinydd band o'r enw Jack Hylton, gadawodd Caerdydd a symud i Lundain.

Fe ddaeth llwyddiant yn fuan ac ymddangosodd yn 1955 yn rhaglen Nadolig 'Al Read' yn Theatr yr Adelphi.

Yn ystod y pedair blynedd ganlynol daeth llwyddiannau'n llu. Yn 1957 fe gyrhaeddodd ei sengl gyntaf y 10 uchaf sef 'The Banana Boat Song' ac yna caneuon eraill megis 'Kiss Me Honey Honey Kiss Me' ac 'As I Love You', a gyrhaeddodd y brig. Llwyddiant arall oedd y gân 'As Long as He Needs Me' o'r sioe 'Oliver' a phryd hynny y dechreuodd ei pherthynas broffesiynol efo Norman Newll a fu'n allweddol yn ei llwyddiant diweddarach yn y 1960au.

Erbyn hyn roedd hi'n llwyddiannus iawn yn yr Unol Daleithiau a thua'r un pryd y dechreuodd perthynas arall enwog yng nghyrfa Shirley Bassey wrth iddi hi ganu'r gân 'Goldfinger'. Yn yr Unol Daleithiau'n unig fe werthodd y sengl dros filiwn o gopïau. Gofynnwyd iddi ganu dwy gân Bond arall sef 'Diamonds are Forever' a 'Moonraker'.

Roedd y 1970au yn gyfnod llwyddiannus iawn i Shirley gan mai ei halbwm o'r cyfnod 'Something' oedd yr un mwyaf poblogaidd. Roedd hi'n canu caneuon gan nifer o enwau mawr y byd cerdd megis Andrew Lloyd Webber a Tim Rice i Stephen Sondheim. Mae hi wedi ennill disgiau aur ac arian ac hyd yn hyn mae hi wedi treulio dros 300 o wythnosau yn y siartiau. Tipyn o gamp!

Ar ôl cyfnod digon tawel yn ystod y 1980au, fe gynyddodd ei phoblogrwydd eto yn y 1990au. Rhyddhawyd albwm yn cynnwys ei chaneuon gorau a chafodd hit newydd efo'r sengl 'History Repeating' yng nghwmni'r grŵp dawns 'The Propellerheads'. Fe'i gwelwyd ar y rhaglen ddogfen 'Divas' are Forever yn profi nad ydy cyrraedd pen blwydd yn 60 ddim yn rhwystr i lwyddiant ac fe'i gwnaethpwyd yn Dame go iawn gan y Frenhines ym Mhalas Buckingham yn 2000.

Yn fam ac yn nain sy'n caru glamour mae Shirley yn dod yn ôl i Gymru o dro i dro i berfformio, a hi yn bendant oedd yr atyniad mawr yn y cyngerdd i ddathlu agor y Cynulliad a hynny yn ei bae genedigol hi yn 1999. Mae hi'n byw ar lan Môr y Canoldir ond eisoes trefnwyd digon o gyngherddau ac ymddangosiadau at y dyfodol er mwyn sicrhau na fydd y llais hwnnw ddim yn ddistaw.

Mae Shirley yn cydnabod ei bod yn wariwr mawr go iawn! Gall wario £10 - £12,000 ar un tro yn hawdd ar ddillad. Fe gedwir llawer o'i ffrogiau llwyfan mewn stordy arbennig yn Llundain. Gwerthwyd nifer ohonynt yn ddiweddar er mwyn codi arian at ysgoloriaeth arbennig yng Ngholeg Cerdd a Drama Caerdydd ac at elusennau lleol yng Nghaerdydd.


Llyfrnodi gyda:

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth

Artistiaid

A-Z o gerddorion ar wefan Â鶹ԼÅÄ Cymru.

Blwyddyn Gron

Calendr

Misoedd

Calendr yn llawn dyddiadau nodedig ac arferion Cymreig.

Hanes y bêl hirgron o'i gwreiddiau hyd at y Gamp Lawn

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.