麻豆约拍

Explore the 麻豆约拍
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

麻豆约拍 麻豆约拍page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Llyfr y Flwyddyn 2007 - hepgor dau
Dau lyfr o bwys ddim yn addas medd y beirniaid
Eleni nid yw dau o'r llyfrau mwyaf trawiadol a gyhoeddwyd yn ystod y flwyddyn yn cael eu cynnwys o gwbl yn y rhestr o ddeg o lyfrau Cymraeg gorau'r flwyddyn!

Wrth gyhoeddi rhestr fer hir Llyfr y Flwyddyn 2007 yng Nghaerdydd ac yn Ninbych nos Wener, Mawrth 2, 2007, dywedodd y beirniaid na allent gynnwys Cydymaith Caneuon Ffydd gan Delyth Morgans na chyfrol Cledwyn Fychan yn olrhain hanes y blaidd yng Nghymru ar y rhestr.

Torri allan
"Eleni, roedd dau lyfr da iawn yn cael eu torri allan o'r gystadleuaeth. Mae Cydymaith Caneuon Ffydd gan Delyth Morgans yn werth ei gael ar bob aelwyd ddiwylliedig, ond cyfeirlyfr ydyw, nid llyfr i'w ddarllen o glawr i glawr.

"Roedd Galwad y Blaidd gan Cledwyn Fychan yn apelio'n fawr iawn atom, ond y mae rhannau helaeth o'r gyfrol honno hefyd yn gyfeiriadol," meddir mewn beirniadaeth gyfansawdd a luniwyd gan John Rowlands, Elinor Jones a Gwion Hallam.


Y mae hyn eisoes wedi anniddigo ambell un fel ag y gwnaeth penderfyniad ddwy flynedd yn 么l i beidio ag ystyried hunangofiannau ar gyfer y gystadleuaeth y tro hwnnw.

Mewn lle anodd
Ond mae beirniaid Llyfr y Flwyddyn wedi hen arfer 芒 chwynion yngl欧n a'r sefyllfa bron yn amhosib y maent yn cael eu gosod ynddi o orfod dewis allan o amrywiaeth mor eang o lyfrau ddeg llyfr ar gyfer y rhestr hir ac wedyn tri ar gyfer rhestr fer ac wedyn y gyfrol fuddugol a fydd yn ennill 拢10,000.

Yn eu sylwadau eleni dywed y tri:
"Fe ellid dadlau nad yw hon yn gystadleuaeth deg o gwbl," meddir.

"Roeddem yn gorfod mesur a phwyso llyfrau a berthynai i gategor茂au cwbl wahanol i'w gilydd. Sut y mae modd cymharu cyfrol o farddoniaeth a llyfr o feirniadaeth?

"Buasai wedi bod yn llawer haws dewis Nofel y Flwyddyn, er bod hynny hefyd yn anodd.

"Fe ddywedwyd o'r blaen - ac fe ddywedir eto - bod angen mwy nag un gystadleuaeth: un ar gyfer ffuglen, un ar gyfer barddoniaeth, un ar gyfer beirniadaeth, a beth am hunangofiannau, cofiannau a llyfrau hanes?

"Wedi dweud hynny, onid yr ehangder yma - a'r amrywiaeth yng nghategor茂au'r llyfrau - yw un o'r pethau sy'n gosod y gystadleuaeth yma ar wah芒n i aml i gystadleuaeth debyg.

Symud a chyffroi
"Ac os mai chwilio am 'Lyfr Cymraeg y flwyddyn' yw'r n么d - onid yw'n bosib i gyfrol o farddoniaeth neu gofiant, i gyfrol academaidd neu nofel 'boblogaidd' godi i'r safon hwnnw ym meddwl y beirniaid.

"Llyfr y flwyddyn yw'r llyfr - beth bynnag ei fwriad neu ei fath - sydd wedi symud a chyffroi a chyfoethogi bywyd y darllenwr (neu'r beirniaid) fwyaf," meddir.

Anos fyth?
Ac yn wyneb y sylwadau hynny bydd rhai darllenwyr yn ei chael yn anos fyth deall sut y gellir cyfiawnhau hepgor dau lyfr mor arbennig a Cydymaith Caneuon Ffydd o'r rhestr hir.

  • Cliciwch YMA i ddarllen sylwadau'r beirniaid yn gyflawn.

  • Cliciwch YMA i weld y rhestr a darllen am y llyfrau.

  • Cliciwch YMA i weld lluniau o'r noson yn Ninbych.

  • Cysylltiadau Perthnasol
    Cydymaith Caneuon Ffydd
    Galwad y Blaidd


    cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r 麻豆约拍 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 脙垄 ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆约拍 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 麻豆约拍 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy