麻豆约拍

Explore the 麻豆约拍
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

麻豆约拍 麻豆约拍page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Galwad y Blaidd
Rhywbeth at eich dant!
  • Adolygiad Glyn Evans o Galwad y Blaidd - Perthynas y blaidd 芒 Chymru dros y canrifoedd gan Cledwyn Fychan. Tud. 304 a mynegai. Cymdeithas Lyfrau Ceredigion Gyf. 拢14.99.


  • Ar bob penllanw llyfrau y mae yna bob amser yr un llyfr yna yr ydych yn fwy awyddus i gael eich dwylo arno na'r un o'r lleill.

    Galwad y Blaidd gan Cledwyn Fychan oedd y llyfr hwnnw i mi Nadolig 2006.
    Clawr y llyfr Cyfrol nobl 拢14.99 gyda chlawr trawiadol sy'n olrhain hanes bleiddiaid yng Nghymru dros y canrifoedd.

    Cyfrol sy'n mynd a ni yn 么l i 'oes yr arth a'r blaidd' fel petai.
    Cyfrol at fy nant i, fel petai, gan imi ymddiddori yn yr anifail rhyfeddol hwn.
    Gyda'r gair blaidd yn elfen mewn dros 200 o enwau lleoedd ar hyd a lled Cymru gadawodd yr anifail ei ddylanwad hyd y dydd heddiw.

    Mae Bleddyn, hefyd, yn parhau'n enw cymharol boblogaidd ar blentyn - a hynny'n beth rhyfedd ynddo'i hun ac yn awgrymu rhyw ddeuoliaeth yn ein hagwedd tuag at yr anifail. Deuoliaeth 芒'i hamlygir yn y gyfrol hon.

    Bwystfil rheibus
    Ar yr olwg gyntaf dyma fwystfil rheibus a'r darlun hwnnw wedi ei liwio gan straeon plentyndod fel y Tri Mochyn Bach a'r Blaidd a Hugan Goch a'r Blaidd.

    Ond mae ochr arall i'r geiniog.
    Tra bu Sant Pedrog ar bererindod saith mlynedd i Wlad yr Iesu a Chaersalem blaidd a fu'n gwarchod y fantell a'r ffon a adawodd ar draeth yng Nghymru cyn camu i'w gwch.

    A phan ddychwelodd dilynodd y blaidd ffyddlon hwnnw y sant a gysylltir 芒 Llanbedrog yn Ll欧n, y Ferwig yn ne Ceredigion a Sant Petroc ger Penfro i'w gartref yng Nghernyw.
    Ac yn eglwysi St Petroc Minor a Padstow yno mae'r blaidd i'w weld wrth ei ochr mewn cerflun.

    Eu henwi'n flaidd
    Prawf pellach fod y blaidd ar un adeg yn anifail i'w edmygu yw i nifer o ddewrion ein cenedl nid yn unig gael eu cymharuag ef ond eu henwi ar ei 么l - Rhirid Flaidd a thri phen blaidd ar ei darian ymhlith y rhai sy'n cael eu crybwyll yma.

    Dywed y llyfr mai Y Blaidd Rhudd, g诺r a anwyd yn Eifionydd oddeutu mil o flynyddoedd yn 么l, yw'r cynharaf y gwyddom amdano i ddwyn yr enw blaidd.

    "Fe'i hadwaenid fel Cillyn y Blaidd Rhudd o Ddunoding [yr hen enw ar Eifionydd ac Ardudwy] neu'r Blaidd Rhudd o'r Gest," meddai Cledwyn Fychan.

    Yr oedd ef yn hen daid i Rhirid a hynny'n awgrymu fod y delweddau hyn yn rhedeg mewn teulu.

    Teyrnged y beirdd
    Ymhellach, talu teyrnged i dywysog fyddai'r hen feirdd wrth ei gymharu 芒 blaidd nid ei ddifr茂o yn ddihiryn fel ag y byddai straeon fel Hugan Goch yn y'i awgrymu.

    "Ni allai'r beirdd dalu teyrnged uwch i unrhyw dywysog o Gymro na'i gyfarch fel blaidd, cadflaidd neu aerflaidd (blaidd brwydr), bleiddiad (ymladdwr fel blaidd), neu dyrnflaidd (math o bastwn 芒 phen pigog, halbert), ac mae'r termau hyn yn britho'u gwaith," meddai.

    Cyn hynny hyd yn oed yr oedd yn gred yn Ffrainc, er enghraifft, fod gwisgo esgidiau o groen blaidd yn gwneud plant cyn gryfed a chyn ddewred 芒'r anifail.

    "Mae'n hysbys hefyd bod rhai o'r Celtiaid yng Ng芒l a fu'n ymladd Iwl Cesar yn gwisgo pennau bleiddiaid ar eu helmedau fel arwydd o'u gwroldeb," meddai Cledwyn Fychan.

    Felly, mae'n ymddangos bod mwy na chynhesrwydd yn perthyn i'r arferiad o wisgo crwyn blaidd.

    Byddai'r Celtiaid hefyd yn croesi c诺n a bleiddiaid i fagu rhyfelgwn.

    Go brin fod amheuaeth nad ymdreiddiodd hyn oll i'r ymwybyddiaeth Gymreig.

    Perthynas anesmwyth
    Ond er yr enghreifftiau o fawrygu ac o edmygu, perthynas anesmwyth fu'r un rhwng dyn a blaidd ac mae s么n yma am y gwahanol ddulliau - ffiaidd a chreulon yn aml - o'u dal a'u difa.

    Gosod darn o gig ar fachyn a'i grogi oddi wrth cangen coeden ryw chwe throedfedd o'r daear fel bod blaidd wrth neidio am y cig yn cael ei ddal gerfydd ei safn ar y bachyn "ac yn dihoeni yno hyd nes i'r heliwr ddod i'w ladd".

    Dull ffiaidd arall - nas crybwyllir yn llyfr Cledwyn Fychan - yng ngogledd America, oedd gosod llafn miniog mewn darn o gig a fyddai'n torri tafod blaidd, wrth iddo lyfu'r abwyd, gan beri iddo waedu i farwolaeth drwy'i dafod.

    Amddiffyn ceirw
    Yr oedd yn anifail y bu erlid mawr arno yng Nghymru hefyd a hynny yn bennaf, yn 么l Cledwyn Fychan, nid am ei fod difa anifeiliaid tyddynwyr cyffredin ein gwlad ond am fod ceirw'r uchelwyr yn ysglyfaeth iddo.

    Tebyg mai eu gorofal hwy o'u ceirw brysurodd ei ddiflaniad.

    Ond yr oedd yn anifail niferus iawn ar un adeg ac mae s么n yma am Edgar, brenin Lloegr , yn hawlio treth o 300 pen blaidd y flwyddyn gan un o frenhinoedd Gwynedd.

    Arwydd o pa mor niferus oedd bleiddiaid yng Nghymru ar un adeg yw'r cyfeiriadau atynt yn bwydo ar gyrff milwyr ar feysydd cad.

    Pan fu farw Owain Gwynedd yn 1170 dywedodd Cynddelw Brydydd Mawr y byddai bleiddiaid yn galaru ar 么l un a'i bwydodd mor dda mewn brwydrau!

    Cyflwyniad i'r maes
    Disgrifir y llyfr fel un "unigryw" gan y cyhoeddwyr ac mae'n wir nad edrychodd neb o'r blaen gyda'r fath ddiddordeb ar berthynas y blaidd a Chymru.

    Gwir, cyflwyniad cyffredinol - byddai'n annheg dweud arwynebol - i'r maes yw Galwady Blaidd ond bydd unrhyw ymchwilydd yn y dyfodol yn ddyledus iawn i Cledwyn Fychan am y gwaith palu cychwynnol hwn.

    Mae ei restr llyfryddiaeth a rhychwant y croesgyfeiriadau ynddo'u hunain i'w hedmygu - bu cribinio helaeth nid yn unig mewn llyfrau pwnc ond mewn hen farddoniaeth a chwedloniaeth.

    Er enghraifft mae dwy bennod yn addysg ynddynt eu hunain; un ar chwedlau yn ymwneud 芒'r blaidd gan gynnwys cyfeiriadau at felidd-ddynion a'r llall ar elfennau yn ymwneud a'r blaidd mewn enwau lleoedd - hyd at 200 ohonynt yng Nghymru - gyda chyfeiriadau map manwl.

    Y blaidd olaf
    Mewn pennod arall olrheinir cyfeiriadau at 'y blaidd olaf' sir wrth sir gan ddod i'r casgliad annisgwyl mai Ynys M么n oedd troedle olaf yr anifail.

    "Pe bai rhywun yn mynd ati i holi trwch y boblogaeth ble yn eu tyb hwy oedd cynefin y bleiddiaid olaf yng Nghymru, mae'n debyg y byddai'r mwyafrif yn dewis rhyw lecynnau anghyfanedd yn Eryri neu fynydd-dir y canolbarth," meddai Cledwyn Fychan gan fynd ymlaen fod rhesymau da i gredu iddynt barhau ar Ynys m么n "hyd ddechrau'r unfed ganrif ar bymtheg".

    Ychwaneger at y trwyth o wybodaeth ddifyr, a'r didoli a dethol o goelion a ffeithiau sy'n gwneud hon yn gyfrol mor ddarllenadwy, ddiwyg 'gyfeillgar' ac y mae gennych gyfrol braf sy'n deyrnged i'r cyhoeddwyr yn ogystal 芒'r awdur.

    Mae'r nodiadau o'r testun ar ymylon dalennau yn arbennig o ddefnyddiol ar gyfer ail chwilio. Mae'r lluniau hwythau yn hyfryd ac yn eu priod le yn y testun.

    Yn wir, yr unig gwyn yw'r penderfyniad i dalfyrru'r troednodiadau cyfeiriadol mynych sy'n gorfodi darllenydd i droi at restr yn y cefn am yr wybodaeth gyflawn.

    Bach iawn o ymdrech fyddai hi i fod wedi cynnwys y ffynonellau yn llawn ar y ddalen - a chymaint o gysur i'r darllenydd.

    Gyda'r llanw mawr o lyfrau Cymraeg clodwiw a ddaeth i'r lan Nadolig 2006 hwn oedd y broc m么r y bum i'n ysu amdano.
    Ni chefais fy siomi ac ni fyddwn yn petruso ei enwi'n llyfr y flwyddyn.

    Cysylltiadau Perthnasol
  • Rhagor am Galwad y Blaidd


  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r 麻豆约拍 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 脙垄 ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆约拍 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 麻豆约拍 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy