麻豆约拍

Explore the 麻豆约拍
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

麻豆约拍 麻豆约拍page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Atyniad

  • Adolygaid Glyn Jones o Atyniad gan Fflur Dafydd


  • Dyma'r nofel a enillodd y Fedal Ryddiaith i Fflur Dafydd yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe 2006. Hawdd gweld pam.

    Llwyddodd i droi lle mor ddiflas ag Ynys Enlli yn garnifal o gynnwrf ac emosiwn a hynny sy'n cario'r nofel yn hytrach na phlot.

    Wedi'r cyfan, beth all ddigwydd ar ynys, prin ddwy filltir o hyd?

    Y teitl
    Mewn gair, busnesu mae'r awdures, a chyfaddef neu beidio, mae helbulon pobl eraill yn f锚l ar fysedd pob un ohonom.
    Mae'n rhoi cip sydyn inni, ac rydym ni felly am wybod mwy.

    Credaf mai dyma arwyddoc芒d teitl y nofel, Atyniad.
    Cawn ein 'hatynnu' at y cymeriadau fel caiff y cymeriadau eu 'hatynnu' at yr ynys.

    Ond peidiwch disgwyl darlun neis, neis, o'r ynys hon ychwaith. I'r gwrthwyneb.

    Aeth yr awdures ati i rwygo'r darlun o'r ynys ugain mil o saint yn garpiau.

    Rhaid canmol ei dychymyg a'i gwreiddioldeb.
    Mae Enlli'r nofel hon yn ynys o ddiawledigrwydd a gwallgofrwydd.

    O'r dudalen gyntaf un mae awyrgylch sinistr lle gallwn deimlo'r tensiwn rhwng y cymeriadau.

    Cloddio
    Wrth i'r ynyswyr helpu'r archeolegwr gloddio, yn ddiarwybod i bob un ohonynt, maent yn cloddio'n ddyfnach i'w bywydau eu hunain.

    Mae pobl yn gorffen 芒'u cariadon, yn canfod rhai newydd, yn ffraeo, cenfigenu a chas谩u.

    Caiff mantelli'r unfed ganrif ar hugain eu diosg i ddangos y natur ddynol yn ei holl gymhlethdod cyntefig.

    I ganol hyn daw awdures breswyl ifanc sy'n gobeithio canfod symbyliad i ysgrifennu ond yn magu dim ond cariad at yr archeolegydd diflas sy'n ddigon hen i fod yn dad iddi, ac amheuon am y bywyd a adawodd ar 么l ar y tir mawr.

    Diddorol yw sylwi nad enwir yr awdures breswyl ond y sonnir amdani yn y person cyntaf.
    Ai s么n amdani'i hun mae Fflur Dafydd?

    Dryslyd braidd yw'r dechrau gyda chymeriadau'n cael eu taflu i'r nofel un ar 么l y llall pan ddylai llenor gyflwyno cymeriadau i'w gynulleidfa yn lle eu hau fel hadau dros bob man.
    Cyfrais o leiaf un ar ddeg ohonynt yn y bennod gyntaf!

    O un i'r llall
    Hoffaf y ffordd y mae'r stori yn gwibio rhwng y trydydd person a'r person cyntaf - mae'n newid braf ac yn gyfle inni weld yr ynys mewn ffordd ychydig yn wahanol.

    Hoffaf hefyd y ffordd y bu i'r awdures ganolbwyntio ar ddarlunio cymdeithas, ac osgoi'r demtasiwn i ganolbwyntio ar unigolyn.

    Mae'r arddull hefyd yn effeithiol. Mae'n syml a dealladwy ond yn frith o ddisgrifiadau cyfoethog.

    "Roedd y ffenestri'n gloywi gyda chynhesrwydd teuluol," meddai am y fferm.
    Neis te?

    Diwedd siomedig
    Does gen i fawr o feddwl o'r diwedd - pennod o athronyddu dibendraw.

    Does dim tro yn y gynffon.
    Does dim digwyddiad cyffroes.
    Mae'r stori'n gorffen wrth i'r cymeriadau adael yr ynys.

    Credaf hefyd y collwyd cyfleon i greu cynnwrf, fel pan gaiff Justin Bowen ei dwyllo i adael yr ynys.
    Digwydd hyn mewn brawddeg neu ddwy, a minna'n edrych ymlaen at ffeit go dda.

    Er mai nofel i ferched yw hon gyda'i chariad a'i chyfrinachau, mwynheuais innau hi'n fawr fel nofel i swatio o flaen t芒n gyda hi ganol gaeaf.

    Clawr y llyfr Un peth bach arall - y clawr.

    Argraffu'r teitl ac enw'r awdur heb brif lythyren - rhywbeth sy'n d芒n ar fy nghroen ac yn hen arferiad gwirion y byddai'n well inni hebddo.


  • Darparwyd y cyfraniad hwn fel rhan o Gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng 麻豆约拍 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008

    Cliciwch i ddarllen adolygiadau eraill dan gynllun Antur Teifi

  • Gweler Gwales

  • Cysylltiadau Perthnasol
  • Adolygiad Hafina Clwyd



  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r 麻豆约拍 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 脙垄 ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆约拍 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 麻豆约拍 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy