麻豆约拍

Explore the 麻豆约拍
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

麻豆约拍 麻豆约拍page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Atyniad
Cefndir hyfryd a sgyrsiau ystwyth
  • Adolygiad Hafina Clwyd o Atyniad gan Fflur Dafydd. Cyfrol Medal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Abertawe 2006. Y Lolfa 拢6.95


  • Fum i erioed ar Enlli ond yr wyf yn 'nabod nifer sydd yn taeru mai dyma baradwys Cymru ac 芒nt yno am seibiant a llonydd a chatharsis bob hyn a hyn.

    Clawr y llyfr Er cymaint yr hoffwn gael tipyn o seibiant a llonydd a chatharsis, nid i Enlli yr awn gan nad wyf yn hoff o deimlo bod fy nhraed mewn cyffion.

    Hynny yw, bod y cwch i fynd yn 么l i'r tir mawr yn dibynnu ar y gwynt.

    Er hynny i'r fan hon yr aeth Fflur Dafydd am gyfnod byr fel awdur preswyl ac y mae'n rhaid ei bod wedi cael budd a maeth oherwydd esgorodd ar gyfrol fechan hyfryd tu hwnt a enillodd iddi'r Fedal Ryddiaith yn Abertawe eleni.

    Gwasgu'n noeth
    Daeth y w锚n gyntaf pan ddarllenais y dudalen gyntaf pan fo Cadi a Leri ac Alys a Sinsir yn ofni na fyddai yno ddigon o ddynion, "Rhai y medrech chi eu gwasgu'n noeth yn erbyn wal gerrig dan y lloer".

    Os yw'n swnio'n erotig mae hefyd yn swnio'n boenus.

    A beth bynnag, yr hyn a glywais i ar hyd y blynyddoedd oedd mai un o'r manteision mawr oedd y diffyg dynion ac mai mynd yno i ddianc rhagddynt yr oedd fy ffrindiau.

    Chwilio am gwm tawelwch heb angen golchi tr么ns a gwneud bwyd yn ddiddiwedd. Rhywbeth hollol wahanol oedd yn corddi Alys a Leri a'r gweddill.
    Ieuenctid a hormonau er enghraifft.

    Yr ynys ei hun
    Prif gymeriad y gyfrol yw Ynys Enlli ei hun. Mae'r ynys yn debyg iawn i D欧'r Brawd Mawr. Hynny yw, y mae'n cynnwys nifer o gymeriadau sydd yn medru bod yn ddigon od ac yn mynd ar nerfau ei gilydd.

    Oherwydd ar yr ynys y mae yna Nikki a Lea ac Imogen.
    Dylanwad yr ynys ar y bobl sydd yno yw'r thema.

    Yr anhawster mwyaf i mi oedd bod yna gymaint o gymeriadau a bod yn rhaid mynd yn 么l o hyd ac o hyd i weld pwy oedd pwy a pham yr oeddynt yn rhygnu ar ei gilydd.

    Ond os oeddwn yn cymysgu rhwng yr holl drigolion ac ymwelwyr pwy fedr anghofio Justin a Lucinda.
    Dyma ddychanu ardderchog.

    Cyfryngis o Gaerdydd ydyn nhw - Justin yno i ffilmio'r bywyd a Lucinda'r cynhyrchydd.

    Yr ydym wedi adnabod pobl fel hyn; oriog a hunandybus, dim llychyn o ddiffuantrwydd yn perthyn iddynt. Ac yn llawn angst.

    A'r peth mwyaf doniol yw iaith Lucinda wrth gwrs - Wenglish go iawn, iaith lyfis yr ydym yn gyfarwydd ag o.

    Wedi llwyddo
    Mae Fflur wedi llwyddo i greu cefndir hyfryd ac y mae ei sgyrsiau'n ystwyth ac yn llifo fel triagl.

    Mae hi hefyd yn ysgrifennu'n farddonol iawn. (dim syndod o gofio pwy yw hi). Yn wir medrai tudalennau cyfain fod yn vers libre.
    Dyma ichi ddarn sydd yn farddoniaeth:-

    Porthmeudwy, porthi'r meudwy.
    a'r meudwy'n borthladd.
    Dos i fyny'r allt,
    Cadwa i'r chwith,
    a gwylia eto am yr arwydd sy di torri'n ei hanner.

    Porthmeudwy. Yn bownsio'n 么l ac ymlaen
    rhwng tafod a thaflod,
    heb yr un ystyr,
    ond yn llawn delweddau.

    Mae ganddi ddawn arbennig i ysgrifennu tafodiaith. Rhywbeth y mae ambell awdur a llawer actor yn methu ei wneud.

    Mae ganddi hiwmor hefyd. Mae hi mewn un lle'n dychanu colofnwyr.

    'Colofn? Dwyt ti ddim yn un o'r rheina sy'n sgrifennu am dy 诺r a dy blant a dy gi a dy blydi fabi gobeithio. Wy'n casau rheina...ddoe bues i a'r plant yn ...bla bla bla - a gesi di byth beth ddigwyddodd a beth ma hynny'n ddeud am ein cymdeithas ni heddiw ac am foesoldeb... ....efalle mai petha arwynebol felly ydy pob colofn, yn y b么n.'

    Felly dyna fy rhoi fi yn fy lle.
    A'i mam!

  • Gweler Gwales

  • Cysylltiadau Perthnasol
  • Holi Fflur Dafydd yn yr Eisteddfod (Oriel luniau)

  • Adolygiad Glyn Jones


  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r 麻豆约拍 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 脙垄 ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆约拍 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 麻豆约拍 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy