Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Eigra Lewis Roberts
Ei nofel Saesneg gyntaf
  • Mae Eigra Lewis Roberts newydd gyhoeddi ei nofel gyntaf erioed yn y Saesneg. Caron Wyn Edwards fu'n holi'r llenor am y fenter newydd hon.

    Mae hi'n un o'n hawduron mwyaf toreithiog a phoblogaidd, mae hi wedi bod yn ysgrifennu ers ei hugeiniau cynnar ac wedi meistroli sawl cyfrwng yn y cyfnod hwnnw - o nofelau fel Rhannu'r Tŷ i addasiadau fel Cês Hana a gyhoeddwyd yn Eisteddfod Eryri a'r Cyffiniau y llynedd.

    O ddramâu teledu a Minafon, un o gyfresi mwyaf poblogaidd S4C erioed, i straeon byrion a'r gyfrol Oni Bai sydd ar Restr Hir Llyfr y Flwyddyn 2006.

    Meistr corn
    Ydi, mae Eigra Lewis Roberts yn feistr corn ar y grefft o ysgrifennu mewn sawl cyfrwng, ac yn awr gall ychwanegu un arall at y rhestr faith.

    Return Ticket yw cyfrol gyntaf yr awdur o Ddolwyddelan yn y Saesneg, er bod ffraethineb y dweud ac esmwythder yr eirfa fel tae wedi bod yn sgrifennu yn yr iaith fain erioed.

    Does ryfedd felly o'i chlywed yn dweud i'r broses o fynd ati i lunio Return Ticket ddod yn eitha' rhwydd iddi hi.

    "Ches i ddim trafferth i'w sgwennu," cyfaddefa Eigra. "Mi ddechreuais i'r frawddeg gyntaf yn Saesneg, ac yn Saesneg y daeth hi. Dwi di trio pob math o gyfryngau dros y blynyddoedd ac i mi, dim ond un cyfrwng arall oedd hyn, dim ond mai'r iaith oedd y cyfrwng y tro hwn," ychwanega.

    Dechrau gyda gweddi
    O'i holi os oedd y broses yn wahanol o'i sgwennu'n Saesneg, ateba,
    Eigra Lewis Roberts "Nag oedd, ddim yn wahanol a dweud y gwir. Roedd y stori a'r hanes yn rhywbeth yr oeddwn i wedi bod eisiau ei sgwennu ers sbel," meddai.

    "Y paragraff agoriadol hwnnw am y weddi,
    'Remember me and my wife,
    Our John and his wife;
    Us four, no more, Amen.'
    oedd y sbardun. Dwi'n cofio dad yn deud honno wrtha i'n blentyn, ac mi dyfodd y nofel o hynny.

    "A thra bo rhai o'r pethau dwi'n sgwennu'n benthyg eu hunain i stori fer, neu ddrama neu beth bynnag, yn Saesneg y daeth hon i mi. Mae hi mor syml â hynny," meddai.

    "Wedi cyfan, y geiriau di'r pethau pwysig yn y dechrau - a'r diwedd sa' hi'n dod i hynny. Ffurfiau allanol ydy'r cyfryngau, geiriau ydy'r deunydd crai" atega drachefn.

    Y Blaenau
    A beth bynnag fo iaith y gyfrol, mae hi'n parhau - fel sy'n wir am holl weithiau Eigra - yn gynhenid Gymreig, ac mae ardal chwarelyddol Blaenau'n elfen barhaus yn y cefndir. Mae hyn yn rhywbeth mae'r awdures yn ei gydnabod a'i gyfaddef yn gyfan gwbl.

    "Yn tyfu i fyny'n y Blaenau, er nad oedd gen i ddim cysylltiad personol â'r chwarel fel y cyfryw, roedd hi wastad yno yn y cefndir.

    "Ac mae Blaenau'n rhyw le fel 'na, fatha sa fo di cael ei gau i mewn, ynghanol y mynyddoedd. Ac yn wir, chydig iawn oedd pobl yn mynd o 'cw'r adeg honno, felly fanno'r oedd rhywun o ddechrau blwyddyn i'w diwedd."

    Ac yn wir, gellir dweud fod sawl agwedd o Return Ticket yn ymdebygu i agweddau o fro ei mebyd.

    Fel â chymaint o'i gwaith, mae cynildeb y dweud yn golygu fod sawl haen i'r geiriau. Yn wir, mae ambell i egin stori fer o fewn y nofel, ac o grafu'r wyneb a chloddio'n ddyfnach mae cyfoeth o emosiynau a theimladau a themâu.

    Awgrymu pethau
    "Dyna dwi wrth fy modd yn ei wneud, awgrymu pethau wrth ysgrifennu, a chael sawl peth yn ffrwtian dan yr wyneb. Os ydy rhywun yn ei mwynhau hi fel mae hi, ar yr wyneb, yna grêt - dwi'n meddwl bod hynny'n andros o bwysig.
    "Ond mae modd darllen yn ddyfnach hefyd a gweld sawl peth amgenach ynddi gobeithio."

    "Dyna i chi'r hanes na efo Llinos Wyn yn byta'r jeli bêbis er enghraifft. Er bod hi'n bwyta eu pennau nhw gyntaf, tra bod Helen yn meddwl ei fod o'n dipyn ffeindiach byta'u traed nhw gyntaf, Llinos Wyn sy'n cael ei dewis i fod yn angal yn nrama'r Nadolig. Rhyw betha' bach fel yna fydda i'n licio eu sgwennu, rhyw betha bach sy'n awgrymu'n gynnil."

    Tynnu ar atgofion
    Mae'r gyfrol yn tynnu ar atgofion hunangofiannol i'r awdures, yn enwedig yng nghyswllt perthnasau'r ferch fach, Helen, y prif gymeriad.

    "Doedd f'ewythr i, fel Uncle Jack y stori, ddim yn dod o'r Blaenau'n wreiddiol a doedd o ddim isio bod yno.

    "Un o Sir Drefaldwyn oedd o, ac yn fanno'r oedd o'n dal isio bod.

    "Dwi'n ei gofio fo cyn ei farwolaeth yn syllu ar lun o'i gartref ar y wal, hen fwthyn bach yn Nhrefaldwyn. Ac roedd gen i fodryb fel Aunt Kate hefyd, dim ond fod darlun llawer mwy eithafol ohoni yn y llyfr."

    Ond er bod elfennau hunangofiannol yn Return Ticket mae ymhell o fod yn hunangofiant.

    "Waeth i bobl Blaenau heb na chwilio amdanyn nhw'u hunain ynddi," meddai Eigra.

    "Dim ond rhyw gnewyllyn, rhyw wreiddyn bach o wirionedd sydd yn y nofel ac er i brofiadau wnaeth ddigwydd go iawn fod yn sbardun i lawer o'r hyn sy'n digwydd ynddi, proses greadigol oedd hi wedyn."

  • Return Ticket gan Eigra Lewis Roberts. Gomer. £7.99.

  • Cysylltiadau Perthnasol
  • Holi Eigra Lewis Roberts

  • Adolygiad o Oni Bai

  • Gwybodaeth am Cês Hana


  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r Â鶹ԼÅÄ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar Â鶹ԼÅÄ Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý