Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
adnabod awdur adnabod awdur
Holi Eigra Lewis Roberts
Holi Eigra Lewis Roberts un o brif lenorion Cymru
Enw
Eigra Lewis Roberts

Beth yw eich gwaith?
Awdur

Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
Dysgu am gyfnod byr, yng Nghaergybi, Llanrwst a Dolwyddelan.

O ble'r ydych chi'n dod?
Blaenau Ffestiniog

Lle'r ydych chi'n byw yn awr?
Dolwyddelan

Wnaethoch chi fwynhau eich addysg?
Ar brydiau, ond mae'r hen air sy'n dweud mai ysgol brofiad yw'r un orau yn ddigon gwir.

Beth wnaeth ichi sgrifennu eich llyfr diweddaraf? Dwedwch ychydig amdano?
Yr ysfa sgrifennu sydd bob amser yn rheidrwydd ac yn fwynhad, waeth beth fo'r cyfrwng.
Er bod hanes streic Chwarel y Penrhyn, Bethesda (1900-03) wedi ei gofnodi'n fanwl ym mhapurau newydd y cyfnod, nofel, nid dogfen hanesyddol, yw Rhannu'r Ty. Gyda chymdeithas gyfan yn cael ei rhannu, ni all neb sefyll o'r naill du. Mae'n effeithio ar yr oll o'r cymeriadau. Yn y 'rhannu' hwn, gwelir pobl ar eu gorau a'u gwaethaf, yn ceisio ymdopi nid yn unig â'r frwydr allanol ond â'r frwydr fewnol sy'n bygwth dinistrio gobeithion, perthynas a chyfeillgarwch, am byth.

Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu?
BRYNHYFRYD : 1959
Y LLE I MI : 1965
TŶ AR Y GRAIG : 1966
Y DRYCH CREULON : 1968
CUDYNNAU : 1970
DIGON I'R DIWRNOD : 1974
SIWGWR A SBEIS : 1975
BYD O AMSER : 1976
FE DDAW ETO : 1976
MIS O FEHEFIN : 1980
PLENTYN YR HAUL : 1981
MERCH YR ORIAU MAWR : 1981
RHAGOR O LESTRI TE : 1983
HA BACH : 1985
SEREN WIB : 1986
LLYGAD AM LYGAD : 1988
CYMER A FYNNOT : 1988
KATE ROBERTS : 1994
DYDDIADUR ANNE FRANK : 1996
DANT AM DDANT : 1996
RHOI'R BYD YN EI LE : 1999
BLITS : 2002
MORDAITH AR Y TITANIC : 2002

Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?
Llyfr Mawr y Plant a llyfrau Enid Blyton.

A fyddwch yn edrych arno'n awr?
Byddaf, weithiau.

Pwy yw eich hoff awdur?
Yn Gymraeg, Islwyn Ffowc Elis.
Ar hyn o bryd, yn Saesneg, Margaret Forster a William Trevor.

A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?
Mae sawl un wedi gwneud argraff ond heb ddylanwadu.

Pwy yw eich hoff fardd?
T.H.Parry-Williams, a Gwenallt yn ail agos.

Pa un yw eich hoff gerdd?
'Yr Esgyrn Hyn', T.H.Parry-Williams

Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?
Tybed fy mod i, O Fi fy Hun, Yn myned yn iau wrth fyned yn hyn?

Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
Ffilmiau : Ryan's Daughter; The Killing of Sister George; The Full Monty
Teledu : Fifteen to One; University Challenge; The Premiership ar nos Sadwrn.

Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?
Hoff gymeriad : Rhy niferus i'w henwi.
Cas gymeriad : Lora Ffennig yn Y Byw sy'n Cysgu

Pa ddywediad, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?
'Pam yr wyt yn edrych ar y brycheuyn sydd yn llygad dy frawd, a thithau heb sylwi ar y trawst sydd yn dy lygad dy hun?

Pa un yw eich hoff air?
Heddwch

Pa ddawn hoffech chi ei chael?
Dawn i greu pethau eraill yn ogystal â llenyddiaeth, a'r gallu i ganu.

Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau?
Goddefgar;
Aflonydd
'Workaholic' (does yna'r un cyfieithiad addas)

A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?
Oes, ond mae'n well gen i ei gadw i mi fy hun.

Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi'n ei edmygu fwyaf a pham?
Iesu Grist, oherwydd ei onestrwydd a'i ddewrder.

Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?
Ar hyn o bryd, streic Chwarel y Penrhyn.

Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
Iesu Grist. Sut mae troi'r foch arall?

Pa un yw eich hoff daith a pham?
Yn ôl adra, gan mai yno yr ydw i eisiau bod.

Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd.
Tatws wedi'u ffrio, wy a betys.

Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
Darllen, arlunio, chwarae Scrabble ar y cyfrifiadur a siarad efo'r wyrion.

Pa un yw eich hoff liw?
Yn amrywio yn ôl yr hwyl.

Pa liw yw eich byd?
Amrywiol iawn.

Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?
Deddf fyddai'n sicrhau dyfodol Cymru a'r iaith Gymraeg.

A oes gennych lyfr arall ar y gweill?
Oes, mwy nag un.

Beth fyddai'r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu waith arall?
'Os am wybod pa mor bwysig ydych i'r byd, rhowch eich bys mewn pwll o ddwr a'i dynnu allan. A yw'r twll yn dal yno?'
(Cyfieithiad o ddyfyniad yn un o gyfrolau hunangofiannol Maya Angelou)

i ddarllen am Rhannu'r Ty


Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
adolygiadau
Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu Lòrd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
Lôn Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Glân i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
Sôn amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar Â鶹ԼÅÄ Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý