麻豆约拍

Explore the 麻豆约拍
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

麻豆约拍 麻豆约拍page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Lloyd George a'r Eisteddfod
Adolygiad o gyfrol ddiweddaraf Emyr Price
Adolygiad John Stevenson o Lloyd George a'r Eisteddfod Genedlaethol gan Emyr Price. Gwasg y Bwthyn. 拢10.

Nid gwaith o ysgolheictod mo'r gyfrol hon.
Nid cyfrol bwrdd coffi mohoni chwaith, gan nad yw'n un digon ysblennydd na drudfawr - er bod y pris braidd yn uchel am gyfrol o'r fath.

Clawr y llyfrLlyfr t欧 bach o bosibl - yn yr ystyr ei bod yn gyfrol digon difyr y gellir bodio drwyddi wrth i "enaid gael llonydd" yn yr ystafell fach. Cyfrol ac iddi ambell ffaith flasus a darlun neu gart诺n digon difyr yma ac acw.

Dangos pwysigrwydd
Bwriad y gyfrol, yn 么l y broliant ar ei chefn, yw dangos "pwysigrwydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn hanes ein hareithydd enwocaf un".

Un gymwynas fawr mae'r gyfrol hon yn ei gwneud yw ein hatgoffa am y cyfnod cyn sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru, o bwysigrwydd y Brifwyl i fywyd cyhoeddus - yn wir bywyd gwleidyddol - y Gymru Gymraeg ddosbarth canol.

Mae'n amlwg fod Lloyd George yn wleidydd digon craff a hirben i synhwyro gwerth llwyfan Prifwyl i ddweud ei ddweud ar bynciau mawr y dydd.

Mae'r gyfrol yn tanlinellu'r ffaith mai'r Brifwyl, yn ddiamau, oedd Fforwm Cenedlaethol y Cymru Cymraeg dosbarth canol yn yr oes a fu. Yn hynny o beth, roedd Lloyd George yn cerdded llwybr a droediwyd cynt ac wedyn gan wleidyddion o bob plaid.

Defnyddio'r Steddfod
Yn 1912, bu ymgais yn Eisteddfod Caerfyrddin i sefydlu Plaid Lafur gynhenid Gymreig. Yna, yn 1925, llwyddodd criw o genedlaetholwyr i gychwyn Plaid Genedlaethol Cymru yn ystod Prifwyl Pwllheli.

Cydiodd yr arferiad o ddefnyddio wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol i bwrpas gwleidyddol hyd at ein dyddiau ni.

Difyr tu hwnt, er enghraifft, oedd gwrando ar gyn Gofiadur yr Orsedd, J芒ms Niclas, yn cael ei holi ar raglen y Post Cyntaf am ei gyfnod yn un o swyddi allweddol y Brifwyl.

Datgelodd mai penderfyniad gan nifer o Orseddwyr oedd cymell y Tri G诺r Doeth i fynd i weld yr Ysgrifennydd Cartref, William Whitelaw, i geisio ei ddarbwyllo i gael Margaret Thatcher i newid ei meddwl ar fater Sianel Deledu Gymreig.

Mewn gwagle
Gwendid mawr y gyfrol hon yw adrodd hanes Lloyd George a'i gysylltiad 芒'r Brifwyl, mewn gwagle: heb dalu y nesaf peth i ddim o sylw i'r hyn oedd yn digwydd yn ei fywyd personol na chwaith yn y byd gwleidyddol.

Daeth Lloyd George yn Brif Weinidog ym mis Rhagfyr 1916 ond roedd y flwyddyn ganlynol yn un drychinebus iddo gyda marw ei Wncwl Lloyd ym mis Chwefror 1917 - digwyddiad a fyddai wedi bod fel colli tad iddo.

Enghraifft arall o'r ysgrifennu mewn gwagle yw'r ymdriniaeth o Eisteddfod y Gadair Ddu, eto yn 1917.

Cynhaliwyd Eisteddfod Birkinhead dan gysgod y Rhyfel Mawr oedd erbyn hynny wedi dechrau llyncu bechgyn ifainc Cymru yn ysglyfaeth.

Daeth y Ddeddf Orfodaeth Filwrol i rym yn 1916 ac am y tro cyntaf er 1914, roedd gorfodaeth ar ieuenctid Prydain, bechgyn ifainc fel Hedd Wyn, i ymuno 芒'r Fyddin.

Wrth drafod Eisteddfod Aberwystwyth (1916), mae Emyr Price yn dyfynnu uchafbwynt araith Lloyd George ac mae'r dyfyniad yn dystiolaeth fod Lloyd George wedi defnyddio llwyfan y Brifwyl yn gywrain i swcro cefnogaeth i'r Rhyfel Mawr.

Daeth y Rhyfel yn realiti byw, os dyna'r gair priodol, i deuluoedd aelwydydd ar hyd a lled y Gymru Gymraeg yn ystod y flwyddyn honno.

Tu hwnt i'r Eisteddfod
Yna, y flwyddyn ganlynol, cafodd Hedd Wyn ei ladd.

Does gen i ddim amheuaeth o gwbwl yn fy meddwl i Eisteddfod y Gadair Ddu greu daeargryn ymhell y tu hwnt i'r cylchoedd Eisteddfodol.

Os am gael peth o flas yr effaith a gafodd marwolaeth Hedd Wyn, darllenwch y gyfrol wych Lloffion yr Ysgwrn yn y gyfres Llafar Gwlad dan olygyddiaeth Myrddin ap Dafydd.

Yno, mae'r disgrifiad o daith y tr锚n a ddaeth a'r Gadair Ddu adre i Drawsfynydd yn wefreiddiol gyda phobol yn dod allan yn eu cannoedd i sefyll ger y cledrau yn dystion mud i'r orymdaith ar draws Gogledd Cymru.

Beth oedd ymateb Lloyd George i farwolaeth Hedd Wyn? Be ddwedodd o oddi ar lwyfan y Brifwyl?

Oedd, mi roedd "gwaedd y bechgyn lond y gwynt" ond a glywodd Lloyd George y waedd sy'n fater arall ac os gwnaeth, beth oedd ei ymateb?

Byddai wedi bod yn ddigon hawdd canfod trwy ymchwil a darllen adroddiadau gohebwyr papurau newydd y dydd.

Roedd gohebwyr yr oes honno yn llawer mwy hyddysg yng nghrefft llaw fer nag yw pobol fel fi heddiw!

Ond trist iawn yw nodi mai digon diddim yw'r ymdriniaeth o'r bennod ddramatig honno gydag Eisteddfod Birkinhead yn cael sylw digon llipa yn y gyfrol.

Digonedd o ffeithiau
Dyna dybiwn i yw gwendid y gyfrol hon. Digonedd o ffeithiau - amryw ohonynt yn ffeithiau ddigon difyr - ond y nesaf peth i ddim ddadansoddi.

Hynny fyddai wedi gwneud hon yn gyfrol ysgolheigaidd.

Roedd yn arfer yn Sir F么n erstalwm, fel ym mhob ardal wledig led-led Cymru, i'r criw oedd yn helpu i gario'r cynhaeaf gael eistedd rownd y bwrdd am ginio a the.

Roedd gan ambell i ffarm wrth reswm, well enw na'r lleill am ddarparu tamaid blasus. Roedd gan un fferm yn Llangoed, yn 么l fy nhad, enw arbennig o ddrwg gan fod y wraig yn paratoi bwyd hynod o wael i hogia'r cynhaeaf.

Ar ddiwedd un pryd bwyd, daeth yn amser i'r gras. "Diolch am yr hyn a gafwyd," meddai'r hen 诺r oedd yn cynnig y weddi. "Gobeithio am damaid bach tipyn mwy blasus y tro nesaf."

Dyna'n union yw fy nheimlad i am y gyfrol hon.

Cysylltiadau Perthnasol
Adroddiad yn dilyn noson cyhoeddi'r gyfrol


cyfannwch


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r 麻豆约拍 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.

Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu L貌rd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
L么n Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Gl芒n i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆约拍 Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 麻豆约拍 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy