麻豆约拍

Explore the 麻豆约拍
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

麻豆约拍 麻豆约拍page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Lloyd George a'r Eisteddfod
Gwleidydd steddfodol
Bu Ioan Mai Evans yn noson lansio Lloyd George a'r Eisteddfod Genedlaethol a Phrifwyliau Bangor a Chaernarfon gan Emyr Price. Gwasg y Bwthyn. 拢10. Dyma ei sylwadau.

Dangos pa mor Gymraeg oedd Lloyd George - dyna ysgogodd yr awdur Emyr Price, i ysgrifennu ei gyfrol werthfawr Lloyd George a'r Eisteddfod Genedlaethol a Phrifwyliau Bangor a Chaernarfon.

Do, mynychodd bob Eisteddfod ond dwy er pan y'i hetholwyd yn AelodSeneddol Bwrdeistrefi Arfon yn 1890.

Cafodd y gyfrol groeso twymgalon ar noson ei lansio yn Galeri Caernarfon gyda'r bywiog Maldwyn Thomas o Wasg y Bwthyn yn llywyddu , a Dafydd Wigley, yn 诺r gwadd.

Iddo ef y cyflwynwyd y gyfrol am ei hir wasanaeth i ran o hen etholaeth Lloyd George.

Cyfnbodau cyffrous
Yn gychwyn i'r dwsin o benodau cawn olwg ar gyfnodau cyffrous Cymru Fydd a'r 麻豆约拍 Rule, gan ein harwain at yr hyn a alwai Lloyd George yn Uchel 糯yl y Werin i fod yn Eisteddfod gwbl Gymreig.

Y tro cyntaf i Lloyd George annerch yn y Brifwyl oedd ym Mangor 1890, er i'r Eisteddfod honno fod yn ddigon helbulus oherwydd ymddygiad yr arch Dori, yr Arglwydd Penrhyn, yn dal yn 么l ei gyfraniad haelionus at gronfa'r Steddfod gan yr ofnai y byddai Lloyd George yn troi'r 糯yl yn achlysur gwleidyddol.

Fel pe na byddai hynny yn ddigon bu yna hefyd helyntion yngl欧n 芒 chastell Caernarfon. Fel y gellid disgwyl cymharol fychan fu cyfraniad Lloyd George yn Eisteddfod Bangor.

Dal yn Seisnig
Bedair blynedd yn ddiweddarach roedd yr Eisteddfod yng Nghaernarfon ac yn dal yn Seisnig gyda'r byddigions yn geffylau blaen.

Er bod cysgodion stadau fel Glynllifon, y Faenol a'r Penrhyn yn drwm ar y trefniadau a'r Saesneg yn amlwg yn iaith cadeirio Elfed, fe ddaeth cyfle Lloyd George pan gafodd annerch y miloedd yn y cyngerdd.

Fel y gellid disgwyl, caed araith ddiflewyn ar dafod yn dadlau fod yr Eisteddfod yn fater o ymffrost i bob Cymro a'r Cymry yn dilyn awen a ch芒n trabo Lloegr yn ymhyfrydu yn ei cheffylau rasio - fel ag yr oedd y Barwn Penrhyn, ac hefyd Sgweiar y Faenol, Assheton Smith, a'i geffylau drudfawr yntau.

Yma y cyfeiriodd Lloyd George at Ymreolaeth i Gymru pan oedd ef ei hunan yn arwain mudiad Cymry Fydd oedd i ragflaenu Senedd i Gymru.

Yn 么l yr awdur dyma pryd yr ymddangosodd Lloyd George fel Pamell Cymru.

ffyrnigrwydd
Y nesaf yw Eisteddfod Bangor 1902 lle yr ymdrinnir 芒 ffyrnigrwydd Lloyd George tuag at ryfel y Boeriaid pan y'i beirniadwyd yn hallt gan ryfel garwyr imperialaidd a hynny, ysywaeth, yn ei etholaeth ef ei hun.

Wedi 'r cyfan dyma pryd y daeth y Gwrthwynebwr Cymreig i fri Prydeinig.

Bu hon yn Eisteddfod a ddangosodd elw sylweddol a diau i awdl fuddugol Ymadawiad Arthur gan Gwynn Jones ddylanwadu ar feddylfryd y Cymry - ac yma y cafodd Lloyd George ei gyfle i roi cyfeiriad i'r feddylfryd honno i fonllefau y tyrfaoedd.

Dangosodd y ffordd ymlaen gan adrodd yr englyn hwn:
Tra craig uwch craig yn crogi - tra c芒n,
Tra cerdd yn Eryri,
Tra nen, heulwen, tra m么r heli,
Hen Walia wen anwylwn hi.

Dan gwmwl rhyfel
Ymlaen a ni at yr Eisteddfod oedd dan gwmwl Rhyfel 1915 ym Mangor. Cyfeiria Lloyd George at y nosweithiau tawel yn ei fwthyn yn Surrey lle y clywai s诺n y magnel yn ergydio mewn digofaint ar feysydd rhuddgoch marwolaeth yn Ffrainc.

Yno deuai ato hen weddi yr Orsedd yn fyw i'w gof, "0, Iesu, nad gamwaith,"

Eisteddfod Mab y Bwthyn, Cynan, y gelwir Eisteddfod 1921 pryd y dadorchuddiwyd y gofgolofn yng Nghaernarfon. Erbyn hyn dywed yr awdur fod Lloyd George yn colli peth o'i boblogrwydd oherwydd torri ar wario cyhoeddus a thorri ei addewid o genedlaetholi y diwydjant glo.

Ton o dristwch
Erbyn 1931 Y Dyrfa gan Cynan rto a ddaeth i'r amlwg yn Eisteddfod Bangor ond bu ton o dristwch oherwydd absenoldeb Lloyd George.

Roedd y cancr yn ymosod arno gan ei adael yn bur wael. Ond fe ddaeth ei ferch, Megan, i gyfleu negeseuon cadarnhaol ei thad i'r miloedd Eisteddfodwyr.

Yr olaf
Prifwyl olaf Lloyd George oedd yr un yng Nghaernarfon 1935 ac yn 么l ei ysgrifennydd preifat, A J Sylvester, dyma pryd y siaradodd hiraf yn y Gymraeg . Yma hefyd y gwahoddodd nifer o feirdd am bicnic yng Nghwm Pennant.

Yn y bennod olaf ond un cawn wybod am "Eisteddfod Radio Ryfeddol Bangor/Caerdydd a'r Dewin wrth y meic 1940."

Yna, yn glo, cawn ddarllen am y Dr William George. Cyfeiria fel y bu i'w ewythr Lloyd George ddweud wrtho yn nyddiau ei ieuenctid mai ei brif ddymuniad oedd bod yn Brifardd Cadeiriol yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Hyfrydwch y gyfrol dra gwerthfawr hon yw'r 77 o luniau perthnasol a phrin.

Llongyfarchion a diolch i Emyr Price, am drylwyredd ei ymchwil i gyfraniad un oedd yn amlwg yn "enaid hoff " iddo.

Hefyd, diolch i Wasg y Bwthyn, Caernarfon, am waith mor gymen.

Gwybodaeth ar Gwales:

Cysylltiadau Perthnasol
Adolygiad gan John Stevenson


cyfannwch


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r 麻豆约拍 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.

Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu L貌rd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
L么n Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Gl芒n i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆约拍 Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 麻豆约拍 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy