Βι¶ΉΤΌΕΔ


Explore the Βι¶ΉΤΌΕΔ

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Βι¶ΉΤΌΕΔ Βι¶ΉΤΌΕΔpage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


llyfr Mihangel Morgan Yr unig
nofel

Fydd yna ha bach i Mihangel yng nghystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn?

Dydd Iau, Mai 11, 2000
Felly pam son am dan gadarn goncrit yn awr a'r llyfr wedi ei gyhoeddi fis Mehefin diwethaf?
Y nofel hon gan Mihangel Morgan ydi'r unig nofel i gyrraedd rhestr fer Gymraeg cystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn. Mae hi'n cystadlu yn erbyn cyfrol o farddoniaeth, Y Llofrudd Iaith, a llyfr yn son am Deulu'r Cilie.

Mae hi'n dda, felly?
Mae'n ddarllenadwy iawn, yn afaelgar ac o eithaf hyd hefyd o fel mae nofelau Cymraeg yn mynd - 286 tudalen. Mi gafodd yr awdur ysgoloriaeth Cyngor Celfyddydau Cymru i'w sgrifennu.

Fel roeddwn i'n dweud - stwff da i'r werin?

Doeddwn i ddim yn meddwl fy mod yn mynd i'w mwynhau nes imi gyrraedd llinell olaf y bennod gyntaf. Dim ond saith gair i'ch gorfodi i'r bennod nesaf. Dydw i ddim yn rhy siwr am y werin ychwaith.

Nid i'r anneallus yn ein plith?
Fel na fyddai Daniel Owen yn dweud.

Ond mae hi yn stori gyffrous?
Mwy gafaelgar na chyffrous ac mae elfen o ddirgelwch hefyd ond cryfder yr awdur yw cymeriadau a chyda'r mwyaf rhyfeddol o'r rheini yw'r un y gellir ei alw yn brif gymeriad, Maldwyn Taflun Lewis.

Cymeriad go frith?
Wel, mae o'n ddarlithydd prifysgol, yn ymddangos ar y teledu'n aml, yn aelod o'r Bwrdd Iaith ac yn lecio cael ei glymu'n noeth a'i chwipio gan butain o'r enw Lois. Ac ers cychwyn y nofel mae ganddo gyfrinach ddu. Ar wahan i hynny, mae o fel pawb arall amwni.

Be sy'n digwydd iddo fo?
Wel, mae disgrifiadau manwl ohono yn llythrennol dan lach Lois. Ac ar y ffordd i Aberdyddgu - does na ddim lleoedd go iawn yn y nofel hon - mae rhywbeth dychrynllyd yn digwydd iddo fo 'sy'n newid cwrs ei fywyd' fel maen nhw'n dweud mewn nofelau.

Mae'r cymeriadau eraill yn barchusach, mae'n siwr?
Yn barchusach efallai ond cyn rhyfedded bob dydd. Antonia - neu Toni - ei wraig yn magu cathod Persian ac wedi dysgu Cymraeg. Mae yna lot o hwyl i'w gael gyda'i chystrawen a'i chamddefnydd hi o eiriau. Pethau fel, "Mae dy Dadi yn hwyr, ble mae? Mae'n bwrw cesail, bydd e'n wlyb dost pan ddod e mewn." a "Tynnu dy gôt ohonot" a "Marwodd Melinda o lid yr ymwybod. . ." Y gorau ohonyn nhw i gyd yw pan ddywed ar adeg claddu am roi'r corff yn y groth yn hytrach na'r gro.

Bydd gwneud hwyl am ben dysgwyr yn ypsetio rhai, does bosib?
Dim ond y mwyaf dihiwmor a phobol sy'n rhoi D fawr yn y gair dysgwr.

Beth am gymeriadau eraill?
Ar yr un trywydd trawodd ar y syniad gwych o gael yr Athro Dedwydd Roberts, pennaeth yr Adran Astudiaethau Celtaidd, University of Wales, Caerefydd, i bupro ei sgwrs gydag ymadroddion Saesneg. Yn wir, mae holl gymeriadau'r adran yn greadigaethau diddorol a dweud y lleiaf. Ac mae eu hymwneud a'i gilydd, y mân gyllill yn y cefn ac ati, yn fwy diddorol fyth.

Mae'r awdur ei hun yn ddarlithydd Prifysgol ?
Ydi.

Tybed faint o'i gydweithwyr fydd yn adnabod eu hunain?
A'i fyfyrwyr hefyd - os ydi myfyrwyr yn darllen nofelau Cymraeg y dyddiau hyn. Mae'r dychan o drafodaethau seminarau yn finiog a brathog iawn.

Oes na enghraifft?
"Ond, metanaratif yw ein hoes ni a rhaid i unrhyw naratif o fewn y metanaratif frwydro a ffrwydro yn erbyn deongliadau mimetig ail-law," meddai un ohonyn nhw.

Mae myfyrwyr ac ysgolheigion yn siarad felna?
Synnwn i ddim. Yr hyn sy'n dychryn rhywun fwyaf yw eu bod nhw'n deall ei gilydd yn siarad felna! Myfyriwr arall dwi'n ei 'hoffi' ydi'r bardd pruddglwyfus.

Y Mihangel Morgan ma'n awdur deheuig am gymeriadau brith felly?
Heb os. Yn atgoffa rhywun weithiau o gardiau post glan môr. Ond mae o'n gallu bod yn dreiddgar hefyd ac yn medru dweud stori'n dda. Mae'n gelfydd iawn yn datblygu'r stori a datgelu'r berthynas rhwng y gwahanol gymeriadau sy'n ymddangos yn gwbl ddigyswllt ar y cychwyn.

Awdur heb ei fai felly?
Ddwedwn i mo hynny. Dydi'r sgrifennu ddim yn gwbwl ystwyth a llithrig bob amser. Mae yna ambell i gymhariaeth glogyrnaidd a gormod o ôl llafur arni fatha "Ei wyneb mor syth â chofgolofn i ryfelwyr y rhyfel byd cyntaf,

Ond fydd yna ha bach i Mihangel?

Leciwn i ddim dweud. Dyna'r broblem. Mae'r tri llyfr yn y gystadleuaeth mor wahanol i'w gilydd mae'n anodd dirnad sut y mae'tr tri beirniad yn mynd i ddod i benderfyniad - cyfrol o gerddi, cofiant teulu a hon.

Be di'r ateb felly?
Y peth syml a chall i'w wneud fyddai cael tair gwobr - gwobr farddoniaeth, gwobr rhyddiaith greadigol a gwobr ar gyfer llyfrau ffeithiol. Byddai hynny'n decach a phawb - gan gynnwys y beirniaid.

Be ddigwyddith felly?
Rydw i'n rhyw amau mai mynd am Teulu'r Cilie wnaiff y beirniaid.

Rhyw fod yn boblogaidd?
Ia debyg. Chware'n sâff. Ac mae honno yn dda

Ond pa un yw dy ddewis di?
Sori, rwyt ti wedi gofyn dy ugain cwestiwn.

dan gadarn goncrit gan Mihangel Morgan. Lolfa. £7.95 Adolygiad Glyn Evans.

Os ydych eisiau ymateb i'r erthygl hon cliciwch isod a gwebostio:
glyn.evans@bbc.co.uk

 
Wythnosau Blaenorol:


Adolygiadau TeleduSteddfod 2003
Lluniau a straeon o Feifod
Adolygiadau Theatr
Theatr

Straeon ac adolygiadau o'r theatr Gymraeg

Adolygiadau Ffilm
Ffilm

Pwyso a mesur ffilmiau o Gymru a'r byd
Llais Llen
Llais Llên

Holi awduron ac adolygu y llyfrau diweddaraf
Y Sin
C2
Cynnwrfa chyffro y SΓ®n Roc Gymraeggyda chriw C2



About the Βι¶ΉΤΌΕΔ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy