Βι¶ΉΤΌΕΔ


Explore the Βι¶ΉΤΌΕΔ

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Βι¶ΉΤΌΕΔ Βι¶ΉΤΌΕΔpage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr llyfr Teulu'r Cilie Cynhaeaf
y Cilie

Antur, rhamant a chyffro un o deuluoedd mwyaf nodedig Cymru

Yr ail o adolygiadau cystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn

Dydd Iau, Mai 4, 2000
Heb amheuaeth, cynhaeaf mwyaf gwerthfawr fferm tri chan erw y Cilie yng Ngheredigion yw y beirdd, llenorion ac arweinwyr a godwyd yno.

Gwir y dywed y Prifardd T. Llew Jones yn ei ragymadrodd i un o'r cyfrolau sydd ar rhestr fer Llyfr y Flwyddyn eleni i "un o'r teuluoedd mwyaf nodedig a fu'n byw yn y Gymru Gymraeg erioed" gael ei godi ar fferm y Cilie.

Cyfrol o fawl, clod a theyrnged i'r teulu hwnnw yw Teulu'r Cilie gan Jon Meirion Jones - un o or-wyrion y penteulu cyntaf.

Y mae'n gyfrol drawiadol nid yn unig o ran cynnwys ond o ran ei golwg hefyd yn gyforiog o luniau diddorol i gydfynd a'r testun.

Pum merch a saith o fechgyn

T.Llew Jones sy'n gosod y cefndir:
"Roedd e'n deulu mawr o ddeuddeg o blant - pump o ferched a saith o fechgyn - i gyd yn epil y gof a'r bardd Jeremiah Jones a'i wraig Mary.
"Aeth dau o'r bechgyn i'r Weinidogaeth a dod yn bregethwyr mwyaf amlwg a phoblogaidd eu dydd. Enillodd un mab Gadair a Choron yr Eisteddfod Genedlaethol a dyrchafwyd tri ohonynt i urdd y wisg wen yng Ngorsedd y Beirdd am eu cyfraniad i farddoniaeth Gymraeg. Enillodd un arall wobr yr 'Academi' am gyfrol o farddoniaeth orau'r flwyddyn. Cyhoeddodd y brodyr rhyngddynt ryw ddeg o gyfrolau o farddoniaeth a rhyddiaith. .
."

Arwydd o natur y cyfnod cychwynnol - troad y ganrif a blynyddoedd cynnar y ganrif hon - yw mai am y saith o fechgyn y mae'r mwyaf o son ac amdanyn nhw yr ydym yn debyg o fod wedi clywed cyn troi at y gyfrol hon.

Y mae Jon Meirion Jones, fodd bynnag, yr un mor ofalus yn rhoi hanes y pum merch oherwydd eu cyfraniad a'u dylanwad hwythau.

Gwraig y Cilie
Yr un mor allweddol a Jeremiah Jones yn hanes sefydlu teulu'r Cilie oedd ei briod, Mary George:

"Ni welwyd ei henw gyferbyn ag un pennill, na chân nac englyn. Hi oedd y llaw fu'n siglo'r crud, hi oedd yn cynghori yn awr yr argyfwng, hi a lywiai'r cwch yn y dymestl," meddai gan fynd ymlaen i ddyfynnu disgrifiad Isfoel, un o'i meibion, ohoni:

"Gwraig araf, gall a chadarn yn ei mater, yn pwyso pob pwnc yn annibynnol ac yn canfod yn bell tu hwnt i syniadau a gweledigaethau gwyllt ei chymar, a phan âi efe dros ben llestri weithiau, un gair o'i heiddo a'i lliniarai fel haul ar ymenyn, ac ni feiddiai ddadlau â hi ar unrhyw bwnc."

Yn Hydref 1889 y cymerodd Jeremiah Jones denantiaeth fferm a oedd yn nodweddiadol o drefn y cyfnod hwnnw o fferm fawr yn ganolbwynt i glwstwr o weithwyr o'i hamgylch.

Manteisia Jon Meirion Jones ar lu o ddyfyniadau a lluniau i gyfleu yn fyw naws a natur cefn gwlad y cyfnod hwnnw yn economaidd, yn gymdeithasol ac yn ddiwylliannol. Er yn ymylu ar fod yn ddarlun rhamanatidd bron o gyd-dynnu, cydweithio a chyd-ddyheu cymunedol nid yw ychwaith yn euog o anwybyddu y caledi.

Ond darlun wedi ei liwio a gwareidd-dra naturiol a ddeilliai o ymddiddori mewn crefydd, diwylliant, llên a chân sydd yma.

Dafad ddu
Nid nad oedd gan fferm y Cilie ei dafad ddu fel petai - ond er iddi grwydro ymhell dros ei therfyn y mae hon hefyd yn ddafad i ymhyfyrdu ynddi yn y pen draw.

Carcharwyd John Tydu Jones, y pumed plentyn, am flwyddyn yng ngharchar Cerfyrddin gyda llafur caled am ymosod, yn dilyn hen ffrae deuluol, ar gymydog, y Capten David Griiffiths a oedd yn cael ei adnabod yn lleol fel Adda'r Tar.

Yr argraff a gawn o'r gyfrol yw iddo gael ei yrru i hyn yn erbyn ei ewyllys.

"Adnabyddid Tydu fel champion of the underdog ac roedd ganddo enw fel 'un a allai edrych ar ei ôl ei hunan'," meddai Jon Meirion Jones.

Gydag ef yr oedd cydymdeimlad y teulu fel y dengys yr englyn hwn ato yng ngharchar gan Isfoel:

O'r carchar anwar yna - datodir
Di, Tydu, o'th rwyma';
Yn nhywyll nos llawenha,
Daw hedd o wado Adda!



Ond dyfynnir Simon, ei frawd arall, yn dweud wrtho: "Oni bai amdanat ti, a beth wnest ti, byddai teulu'r Cilie yn un o'r teuluoedd mwyaf parchus yng Nghymru."

Allan o nythaid o rai lliwgar Tydu, o bosib, oedd y mwyaf lliwgar a rhamantus hefyd ac er gwaethaf gwrhydri a pheth garwedd yn un gyda rhyw geinder arbennig i'w farddoniaeth.

Ef hefyd gafodd y bywyd mwyaf anturus.

Gadael am Ganada
"Cafodd ei garchariad a marwolaeth ei dad gryn effaith arno," meddai Jon Meirion Jones, "Roedd wedi edifarhau ac am symud y sen a ddisgynasai ar y teulu trwy ei gamwedd, a phenderfynodd ymfudo i Ganada. Hwyliodd o Lerpwl ar yr Empress of Canada yn Chwefror 1904, a glaniodd yn Halifax Nova Scotia."

Yno cafodd fywyd llawn cyffro ac antur lle nofiodd drobyllau Rhaeadr Niagra a gwnaeth gais am hwylio dros y rhaeadr mewn casgen hefyd.

O bosib mai'r enwogrwydd mwyaf i ddod i'w ran yno fu cynnwys cwpled ganddo sydd i'w weld hyd heddiw ar fwa mewnol yn y Siambr Goffawdwriaethol yn y Twr Heddwch yn Senedd-dy Canada yn Ottowa i gofio am y rhai a laddwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf:

All's well, for over there among his peers
A Happy Warrior sleeps.


Ymgyrchydd blaengar
Ond yr oedd cyfraniad eraill o'r brodyr yr yn mor drawiadol os nad bob amser mor lliwgar. Yn weinidog yr oedd Fred Jones yn ymgyrchydd blaengar ym maes gwleidyddiaeth iaith. Diddorol darllen amdano yn dweud yn 1930:

"Gwelaf gyfundrefn addysg Seisnig, ac nid oes ond dyrnaid bach o rai mwy diwylliedig na'i gilydd yn darllen dim Cymraeg . . . gwelaf rhyw druth o sylw i'r Gymraeg ar y Βι¶ΉΤΌΕΔ. Ac yna athrawon sydd a'u hiaith yn llaprau yn cael eu hystyried yn ddigon da i'w dysgu. . . Bydd presenoldeb un Sais mewn pwyllgor o bymtheg yn ddigon i droi'r cyfan yn Saesneg. Hynny yw, y mae un Sais a llywodraeth Seisnig tu ôl iddo yn gryfach na gwlad gyfan o Gymry heb lywodraeth Gymraeg y tu ôl iddi."

Ni ellir ond edmygu llafur Jon Meirion Jones yn casglu'r holl ddeunydd ynghyd ar gyfer y gyfrol werthfawr a diddorol hon. Mae o ddiddordeb, wrth gwrs, y tu allan i'w milltir sgwar gan fod dylanwad bois y Cilie yn parhau yn fyw yn y tir a'r disgynyddion yn parhau yn lefain yn nhoes Cymru a Chymreictod - yn wir, byddai cynnwys coeden deuluol gyda'u henwau wedi bod yn ychwanegiad buddiol i'r gyfrol. Mae'n ddiffygiol hebddi.

Peth arall a fyddai wedi ei hwyluso fel cyfrol fyddai mynegai manwl. Anodd deall sut yr ystyriwyd ei chyhoeddi heb un.

O ddiddordeb hefyd fyddai gwybodaeth am gyflwr a pherchenogaeth y fferm heddiw.

Ond dydio'n syndod yn y byd i gyfrol mor ddiddotrol gyrraedd rhestr fer Llyfr y Flwyddyn.

Teulu'r Cilie
gan Jon Meirion Jones. Barddas £11.95

Cliciwch yma am erthygl am un arall o gyfrolau Llyfr y Flwyddyn:


Wythnosau Blaenorol:

Adolygiadau TeleduSteddfod 2003
Lluniau a straeon o Feifod
Adolygiadau Theatr
Theatr

Straeon ac adolygiadau o'r theatr Gymraeg

Adolygiadau Ffilm
Ffilm

Pwyso a mesur ffilmiau o Gymru a'r byd
Llais Llen
Llais Llên

Holi awduron ac adolygu y llyfrau diweddaraf
Y Sin
C2
Cynnwrfa chyffro y SΓ®n Roc Gymraeggyda chriw C2



About the Βι¶ΉΤΌΕΔ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy