Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
ffilm

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
»Cylchgrawn
Llyfrau
Theatr
Ffilm
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý


Cwcw (2008)
Ennill gwobr - ond yn siomi

Tair seren allan o bump

Y Sêr
Eiry Thomas, Rhys Richards, Aneirin Hughes

Cyfarwyddo
Delyth Jones

Sgwennu
Delyth Jones

Hyd
165 munud

  • Adolygiad Lowri Haf Cooke

    Cwcw oedd yr unig ffilm Gymraeg yng ngŵyl ffilm a cherddoriaeth ryngwladol Soundtrack, a gynhaliwyd yng Nghaerdydd rhwng Tachwedd 26 a 29 2008 ac roeddwn i'n llawn brwdfrydedd i'w gweld hi am sawl rheswm.

    Ennill gwobr
    Yn un peth, roedd y cynhyrchiad eisoes wedi ennill gwobr y Ffilm Ryngwladol Orau yng Ngŵyl Ffilmiau De Affrica yn gynharach eleni ac mae'n cynnwys sgript gan sgwenwraig dalentog iawn a pherfformiadau gan rai o actorion gorau Cymru.

    Yn anffodus, profiad hynod siomedig fu gwylio'r ffilm sy'n dilyn brwydr un sgwenwraig i dorri'n rhydd o hualau ei pherthynas â'i gŵr alcoholig, ond efallai'n fwy penodol, o ddryswch ei meddwl ei hun.

    Yn wir, gellir ystyried "yr hunan" yn bedwerydd cymeriad yn y cynhyrchiad sgitsoffrenig hwn am Jane Jones (Eiry Thomas), sy'n gweithio ar gyfres sebon o'r enw Dr Gareth ac yn briod â'r actor alcoholig Sam Llywelyn (Rhys Richards) sy'n chwarae'r meddyg teulu arwrol hwnnw.

    Sychu'n grimp
    Mae ffynnon greadigol Jane wedi sychu'n grimp, diolch yn bennaf i'w pherthynas dreisgar â'i gŵr ac yn dilyn un digwyddiad dychrynllyd, mae hi'n rhedeg i ffwrdd gydag enaid hoff cytun, John Jones (Aneirin Hughes) - optegydd sydd hefyd wedi dyheu erstalwm am ddihangfa.

    Dilynwn ymdrechion y ddau i ail-greu eu hunain ym mhentref delfrydol Iêt y Bompren, hi fel Martha Olivia - meddyg esgyrn y traed gyda grymoedd iachusol - ac yntau fel y saer coed Morgan Oliver!

    Er i'r ddau lwyddo i fyw'r ffantasi hon yn eu bwthyn perffaith am gyfnod buan iawn y daw cwmwl du o'r gorffennol dros eu llawenydd ar ffurf meddyg teulu newydd, gan ddrysu Jane/Martha ymhellach.

    I ganol hyn oll, teflir dehongliadau o gyfryngis Caerdydd a'u dyheadau ystrydebol o fyw yn y wlad; cyfeiriadau cyson at nawddsant awduresau trasig, Virginia Woolf (hoff sgwenwraig Jane) a chwestiynu parhaol ynglŷn â'r gwahaniaeth rhwng celwydd a ffantasi.

    Peri dryswch
    Yr hyn sy'n peri dryswch yw nad yw'r cynhyrchiad fel pe byddai'n gwybod yn iawn pa fath o ffilm yw hon i fod - pwynt, yn wir, a godir gan y prif gymeriad ei hun.

    Nid yw'n siŵr iawn â phwy y dylai'r gwyliwr uniaethu - ef neu hi.

    Mae traean cynta'r ffilm yn canolbwyntio ar y ddeuoliaeth rhwng byd delfrydol yr opera sebon a realiti dychrynllyd y profiad o fyw gydag alcoholig ac mae'n rhaid dweud i'r rhan hon lwyddo'n aruthrol i hoelio'r sylw a pherfformiad Rhys Richards fel yr actor slic sydd yn alci sick yn ysgubol o dda.

    Tanlinella'r pwynt nad oes synnwyr yn perthyn i alcoholiaeth, nac ychwaith i brofiad y partner, sydd yn aml yr un mor ddibynnol ar y claf ag yw yntau arno ef/hi.

    Giamocs geiriol
    Mae Eiry Thomas hefyd yn chwarae ei rhan fel y sgwenwraig ddryslyd ag ofn marwol o'i gŵr i'r dim, ond erbyn inni gyrraedd man canol y ffilm - y cyfnod ffantasiol o fyw breuddwyd sy'n graddol suro wrth i "realiti" darfu ar y ddelfryd- mae giamocs geiriol y sgript yn drysu'r gwyliwr yn llwyr yn hytrach na'i hudo ymhellach.

    Ceir anawsterau pellach wrth i'r gyfarwyddwraig geisio dod â'r prif gymeriad yn ôl i'w realiti ei hun a thrwy hynny gynnig diweddglo pendant.

    Ond yma hefyd cynigir rhestr arteithiol o faith o ddewisiadau ac erbyn imi weld y geiriau gobeithiol, "Something Wonderful is About to Happen" bu bron imi lafarganu mewn rhyddhad pan ddilynwyd hynny gan ddiwedd y ffilm.

    Colli pob cydymdeimlad
    Yr hyn a'm cythruddodd i fwyaf ac a wnaeth imi golli pob cydymdeimlad â'r prif gymeriad, oedd y tindroi geiriol a thuedd nawddoglyd y sgript i ailadrodd athronyddu metaffisegol Jane/Martha hyd syrffed, fel petai'n cymryd yn ganiataol na fyddai'r gwyliwr cyffredin yn deall beth yw "baich y sgwennwr".

    Ar un pwynt yn y ffilm, ar ôl i Jane gael y sac gan ei chynhyrchydd, Gordon (Wynford Ellis Owen), mae hi'n mynnu mai'r unig reswm y mae e'n parhau i ddyrchafu Dr Gareth fel prif gymeriad perffaith y gyfres gawslyd yw am ei fod yn ymgorfforiad o'i super-ego ei hun.

    Fondue Rhyw a Deinasors
    Mae'n werth nodi mai Delyth Jones a gafodd gymaint o glod am sgrifennu a chynhyrchu'r gyfres swreal Fondue, Rhyw a Deinasors ar S4C rai blynyddoedd yn ôl sydd yma'n cyfarwyddo ei sgript ffilm ei hun - a hynny am y tro cyntaf.

    Golygfa o'r ffilm Mewn sesiwn cwestiwn ac ateb wedi'r dangosiad dywedodd iddi dreulio pum mlynedd o'i bywyd yn gweithio ar y cynhyrchiad hwn - o'r sgwennu cychwynnol i'r cyfnod ôl-gynhyrchu.

    Yn dilyn hyn, dywedodd yr actor Aneirin Hughes mai profiad pur anghyffredin yw cael holi'r awdur ar gynhyrchiad arferol ac felly roedd hi'n braf cael troi at y sgwenwraig gyfarwyddwraig pan oedd ganddo unrhyw gwestiynau am y cymeriad.

    Gorffennodd trwy ddweud yn ysgafn mai'r unig beth negyddol am hynny oedd na chafodd wneud unrhyw newidiadau i'r cymeriad.
    Mae gen innau ofn bod hynny'n dweud cyfrolau.

    Llwyddiannau eraill
    Does gen i ddim gwrthwynebiad i ffilm sydd yn meiddio herio confensiynau, neu'n chwarae â'r syniad traddodiadol o genre. Yn wir, does gen i ddim gwrthwynebiad ychwaith i sgwennwr yn sgwennu ffilm am y broses arteithiol (ar adegau) o sgwennu.

    Cynigodd The Shining, er enghraifft, astudiaeth hynod lwyddiannus o ddylanwad melltigedig writer's block ar un awdur a'i deulu, ac roedd Adaptation yn ffilm wefreiddiol gan yr awdur Charlie Kaufman am helyntion sgwennwr sgriptiau o'r enw Charlie Kaufman.

    A dydw i ddim yn collfarnu penderfyniad Delyth Jones i blethu geiriau Virginia Woolf â stori un awdures wrth iddi frwydro i ganfod ei llais ei hun, nac ychwaith i gynnig dehongliad dewr o effeithiau alcoholiaeth ar berthynas.

    Ond mi ydw i'n cwestiynu i ba raddau mae na le i gynnwys yr holl elfennau hyn mewn un ffilm.

    Apelio at bwy?
    Mae'n gas gen i feirniadu ffilm Gymraeg, yn enwedig un gan awdur mor greadigol ond mae Cwcw ymhell o fod yn ffilm lwyddiannus.

    Mae iddi syniadau diddorol, actorion cryf, cerddoriaeth hyfryd gan John Hardy ac ambell olygfa wirioneddol wych - heb sôn am berlau o linellau - ond fel cyfanwaith mae'n codi cwestiwn pwysig; at bwy mae'r ffilm yma'n mynd i apelio?

    Wel, ac eithrio ambell i sgwenwraig rwystredig ar opera sebon boblogaidd, does gen i ddim syniad!


  • Cymraeg
    A Way of Life
    Big Nothing (2006)
    Cannes
    Cwcw (2008)
    Cymru Ddu - y gyfres deledu
    Cymru Fach (2008)
    Ffilmiau Cymru ddoe
    Ffilmiau Steddfod
    Gavin and Stacey
    Gwobr i ffilm ganpunt
    Gwyl Fflics 2007
    Gŵyl Cymru Ddu
    Gŵyl Ffilm Caerdydd 2006
    Hope Eternal
    Martha Jac a Sianco - y ffilm
    Mela
    Milltir sgwar arwyr ffilm
    Oed yr Addewid
    Pictiwrs yn y Pyb yn gafael
    Pobl ifainc yn mentro
    Powerless
    Powerless
    Shorts in Colour
    Siôn a Siân
    Sleep Furiously
    Snow Cake
    Spiderman Cymraeg
    The Edge of Love
    The Edge of Love
    Y Lleill
    Yr Ymwelydd
    Zan Boko
    £500,000 i animeiddio
    cyffro
    '1408' (2007)
    'Rush Hour 3' (2007)
    'We Own The Night' (2007)
    Die Hard 4.0 (2007)
    Déjà Vu (2006)
    30 Days of Night (2007)
    4: Rise of the Silver Surfer (2007)
    Aliens Vs Predator: Requiem (2008)
    Around the World in 80 Days
    Assault on Precinct 13
    Australia
    Batman Begins
    Beowulf
    Blood Diamond
    Casino Royale
    Casino Royale
    Casino Royale (2006)
    Casino Royale 2006
    Cellular
    Changeling (2008)
    Children of Men (2006)
    Derailed
    Eastern Promises
    Eastern Promises (2007)
    Fantastic Four
    Fracture (2007)
    Harry Potter and The Order of the Phoenix (2007)
    Harry Potter and the Order of the Phoenix (2007)
    Harry Potter and the Prisoner of Azkaban
    History of Violence
    Indiana Jones and the Kingdom of the Crystal Skull (2008)
    Iron Man (2008)
    King Arthur
    King Kong - 2005
    Mission Impossible III (2006)
    National Treasure
    No Country for Old Men (2008)
    No Country for Old Men (2008)
    Ocean's 13
    Ocean's 13 (2007)
    Ocean's Twelve
    Pirates of the Caribbean - Dead Man's Chest (2006)
    Rambo (2008)
    Red Eye
    Sahara
    Saw II
    Serenity
    Severance (2006)
    Shooter (2007)
    Spider-Man 2
    Spider-Man 3 (2007)
    Star Wars III
    Stormbreaker (2006)
    Superman Returns (2006)
    The Bourne Ultimatum
    The Da Vinci Code (2006)
    The Dark Knight
    The Day After Tomorrow
    The Departed (2006)
    The Golden Compass (2007)
    The Golden Compass (2007)
    The Incredible Hulk (2008)
    The Incredibles
    The Interpreter
    The Kingdom (2007)
    The Legend of Zorro
    The Matador
    The Omen 2006
    Thunderbirds
    Transformers (2007)
    Van Helsing
    Walking Tall
    War (2007)
    White Noise
    comedi
    'Mr Woodcock' (2007)
    Fred Claus (2007)
    St Trinian's (2008)
    A Good Year (2006)
    Bee Movie (2007)
    Bewitched
    Borat:
    Bridget Jones - The Edge of Reason
    Charlie and the Chocolate Factory
    Choke (2008)
    Christmas with the Kranks
    Evan Almighty (2007)
    Evan Almighty(2007)
    Forgetting Sarah Marshall (2008)
    Four Christmases - 2008
    Good Luck Chuck (2007)
    Hairspray
    Herbie: Fully Loaded
    Hitch
    Hot Fuzz (2007)
    I Now Pronounce You Chuck And Larry (2007)
    Just Like Heaven (2005)
    Just My Luck (2006)
    Knocked Up (2007)
    Mean Girls
    Meet the Fockers
    Miss Congeniality 2 - Armed and fabulous
    Monster in Law
    Mr & Mrs Smith
    Mr Bean 2007
    Mr Magnoruim's Wonder Emporuim' (2007)
    Nacho Libre (2006)
    Night at the Museum (Rhagfyr 2006)
    PS I Love You (2008)
    Prime (2006)
    RV: Runaway Vacation (2006)
    Ratatouille
    Robots
    Run, Fat Boy, Run (2007)
    Scooby Doo 2 :
    Shark Tale
    Shrek 2
    Shrek 3
    Slither (2006)
    St Trinian's
    St Trinian's (2008)
    Superbad (2007)
    Talladego Nights: : The Ballad of Ricky Bobby (2006)
    The Devil Wears Prada
    The Dukes of Hazzard
    The Good Night (2008)
    The Hitchhiker's Guide to the Galaxy
    The Nanny Diaries (2007)
    The Simpsons Movie
    The Simpsons Movie
    The Simpsons Movie (2007)
    The Simpsons Movie (2007)
    Wallace and Gromit - The Curse Of The Were-Rabbit
    Wedding Crashers
    Wedding Crashers
    Wedding Date
    Wild Hogs (2007)
    You, Me and Dupree (2006)
    drama
    Abraham's Point (2008)
    Alexander
    Alfie
    Alpha Dog (2007)
    Amazing Grace (2007)
    American Gangster (2007)
    Apocalypto (2007)
    Atonement (2007)
    August Rush
    Babel (2007)
    Basic Instinct 2 (2006)
    Bullet Boy
    Burn After Reading
    Charlie Wilson's War (2008)
    Charlie Wilson's War (2008)
    Che: Part One - 2008
    Collateral
    Crash
    Down in the Valley
    Dreamgirls (2007)
    Elizabeth: The Golden Age (2007)
    Fahrenheit 9/11
    Finding Neverland
    Five Children and It
    Gandhi My Father (2007)
    Good Bye Lenin (2003)
    Harsh Times (2006)
    Howl's Moving Castle
    Hunger (2008)
    I Am Legend (2007)
    I am Legend
    In Bruges (2008)
    In Good Company
    In Prison My Whole Life
    In the Valley of Elah (2008)
    Into the Wild
    Jarhead (2006)
    Jindabyne (2007)
    Kingdom of Heaven
    La Vie en Rose
    Ladies in Lavender
    Lassie (2005)
    Layer Cake
    Lemony Snicket's A Series of Unfortunate Events
    Lions For Lambs (2007)
    Lost in Translation
    Lust, Caution (2008)
    Lust, Caution (2008)
    Maria Full of Grace
    Million Dollar Baby
    Miss Potter (2007)
    Munich (2006)
    Oliver Twist
    Open Water
    PS I Love You (2008)
    Premonition (2007)
    Rendition
    Rescue Dawn (2007)
    Rocky Balboa (2007)
    Snowcake (2006)
    Spanglish
    Take the Lead (2006)
    Taliesin Jones
    The Assassination of Jesse James
    The Bourne Supremacy
    The Boy in the Striped Pyjamas (2008)
    The Chronicles Of Narnia (2005)
    The Constant Gardener
    The Duchess
    The Edge of Love (2008)
    The Exorcism of Emily Rose
    The Illusionist (2007)
    The Lake House
    The Lake House (2006)
    The Last King of Scotland (2007)
    The Libertine
    The Motorcycle Diaries
    The Only Clown in the Village
    The Painted Veil
    The Phantom of the Opera
    The Polar Express
    The Terminal
    The Village
    The Wicker Man (2006)
    United 93 (2006)
    V for Vendetta
    Vera Drake
    W (2008)
    War of the Worlds
    Zodiac
    erthyglau
    'Tad' y Phantom
    Academi Sgrîn Cymru
    Alex Rose
    Cymru Wyddelig Ford
    Der Untergang
    Ffilmio da Demi
    Gwobr i briodferch
    Gŵyl Ffilmiau Ryngwladol Dulyn
    Gŵyl ffilmiau myfyrwyr
    Harry Potter and the Order of the Phoenix
    Holi Matthew Rhys
    Hope Eternal (2008)
    Ioan Gruffudd
    Ioan Gruffudd
    John Roberts Williams - y dyn ffilmiau
    Miss Potter - y cysylltiad Cymreig
    Prinder ffilmiau Cymraeg
    Tystysgrifau ffilm
    Yn yr Oscars


    About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý