Gwyliwch ein ffilm fer i ddysgu mwy am sut mae'r Â鶹ԼÅÄ yn ymateb i'ch adborth.
Ìý
Beth i’w ddisgwyl
Rydym yn cylchredeg eich cwyn gyda sylwadauÌýdros nos i gynhyrchwyr a rheolwyr i’w darllen a’u hystyried. Gwnewch eich cwyn yn ysgrifenedig neu ni allwn sicrhau ymateb. Byddwn yn ymchwilio i unrhyw achosion posibl o dorri safonau, ond ni fyddwn yn ymateb yn fanwl i sylwadau neu farn personol.
Mae barn pobl am ein rhaglenni, penderfyniadau neu bolisïau yn amrywio ond efallai na fyddant yn awgrymu ein bod wedi torri safonau. Er enghraifft, rydym yn ymwybodol na fydd newidiadau munud olaf i’r amserlen yn plesio pawb. Mae’n bosib felly na fydd ein hateb bob amser yr hyn mae rhywun yn ei ddymuno, ond os ydym ar fai byddwn yn ymddiheuro. DarllenwchÌýFframwaith Cwynion y Â鶹ԼÅÄÌýi gael y manylion yn llawn.
Ìý
Sut mae'r Â鶹ԼÅÄ yn gweithredu ar gwynion?
Rydym yn ystyried y materion o fewn cwynion yn erbyn Canllawiau Golygyddol y Â鶹ԼÅÄ, safonau disgwyliedig Ofcom ac ymchwil cynulleidfa. Os ydym ar fai byddwn yn cymryd y camau angenrheidiol os bydd angen i atal Ìýyr un peth rhag digwydd eto. Mae Bwrdd Safonau Golygyddol y Â鶹ԼÅÄ yn adolygu’r cwynion bob mis ac yn adrodd yn ôl i Fwrdd y Â鶹ԼÅÄ ar gyfer canllawiau golygyddol, prosesau cydymffurfiaeth a pholisiau eraill y Â鶹ԼÅÄ.
A yw nifer y cwynion yn gwneud gwahaniaeth?
Nac ydy. Rydyn ni bob amser yn pryderu os ydy pobl yn cwyno, ond yr hyn sy'n bwysig yw a wnaeth y ÌýÂ鶹ԼÅÄ weithredu yn anghywir. Os felly byddwn yn ymddiheuro, ac os ddim byddwn yn ceisio egluro yn ein ymateb. Os oes eraill yn cwyno am yr un mater, bydd ein ymateb yr un fath. Os ydym yn dod dan bwysau gan lobïau neu'r wasg rydym yn amddiffyn ein hannibyniaeth a'n safonau golygyddol yn ôl yr angen.
-ÌýY weithdrefn ar gyfer ymchwiliadau a ysgogir gan yr hunan i achosion posibl o dorri safonau golygyddol
-ÌýGweithdrefn ar gyfer cwynion golygyddol trac cyflym
Ofcom
Gwnewch gwyn i’r Â鶹ԼÅÄ yn gyntaf. Efallai y bydd ein rheoleiddiwr Ofcom yn ystyried cwyn dim ond os yw’r Â鶹ԼÅÄ eisioes wedi ymateb yn llawn.Os felly, byddwn yn gadael i chdi wybod sut i gysylltu ag Ofcom. Eithriad i hyn yw pan fydd cwyn am honiad o annhegwch neu honiad o darfu ar eich preifatrwydd (ac nid i neb arall). Gall achosion o’r fath gael eu hystyried gyntaf gan y Â鶹ԼÅÄ neu Ofcom, ond nid gan y ddau ar yr un pryd.Ìý
Camddefnydd o’r gwasanaeth
Byddwn yn gwrtais ac yn barchus â chi, ac o ganlyniad disgwyliwn yr un cwrteisi a pharch yn ôl tuag at ein staff. Os byddwch yn Ìýcamddefnyddio’r gwasanaeth byddwn yn dod a’r cyfathrebu i ben neu yn rhwystro eich defnydd o’r gwasanaeth yn y dyfodol.Ìý