Cyflwyniad
- Mae’r ddogfen hon yn amlinellu’r gweithdrefnau y bydd y Â鶹ԼÅÄ yn eu mabwysiadu ar gyfer ymchwiliadau a ysgogir gan yr hunan i achosion posibl o dorri safonau golygyddol.Ìý Ìý
- Mae’r weithdrefn hon yn cael ei rhoi ar waith yn ôl disgresiwn y Â鶹ԼÅÄ, ac nid oes angen iddi fod yn berthnasol i gŵyn sydd eisoes yn bodoli.
- Ei phwrpas yw sicrhau bod proses ffurfiol ar gael ar gyfer yr achlysuron hynny lle mae sail gref dros gredu bod canllaw neu bolisi’r Â鶹ԼÅÄ wedi’i dorri a bod uwch reolwyr yn credu bod difrifoldeb posibl y drosedd yn cyfiawnhau ymchwiliad ar unwaith y tu allan i broses gwyno ffurfiol y Â鶹ԼÅÄ.
- Gall y toriadau posibl hyn ymwneud nid yn unig â materion sy’n codi ar ôl darlledu neu gyhoeddi’r deunydd dan sylw, ond hefyd â materion sy’n digwydd ar unrhyw gam o’i baratoi
- Ni fwriedir i’r weithdrefn hon osgoi proses gwyno bresennol y Â鶹ԼÅÄ ac ni fydd bodolaeth ymchwiliad mewnol yn rhwystr i achwynwyr os ydynt yn dymuno defnyddio gweithdrefnau presennol i fynegi pryder am unrhyw agwedd ar y Â鶹ԼÅÄ a’i allbwn.Ìý Os digwydd hynny, bydd y rhai sy’n delio â chwynion fel arfer yn aros am ganlyniad yr ymchwiliad a ysgogir gan yr hunan cyn rhoi ymateb o sylwedd.
Ìý
ÌýSut bydd y Â鶹ԼÅÄ yn delio ag ymchwiliad mewnol
- Fel arfer, disgwylir i Is-adrannau Cyfrifol a llunwyr cynnwys gydnabod bod y cynnwys maent wedi’i gynhyrchu yn groes i’r Canllawiau Golygyddol.
- Mewn achosion mwy difrifol (gan ystyried risg i enw da yn ogystal â difrifoldeb y tor-amod posibl), bydd y Cyfarwyddwr Cyffredinol neu’r uwch reolwyr yn cychwyn ymchwiliad i gael ei arwain gan ffigwr golygyddol uwch neu ffigurau y tu allan i’r is-adran dan sylw a/neu gan yr Uned Cwynion Gweithredol.Ìý Gwneir hyn fesul achos a bydd cyfansoddiad y tîm ymchwilio’n dibynnu ar natur yr honiadau, y cynnwys y mae’n ymwneud ag ef a’r arbenigedd sydd ei angen.
- Yn yr achosion mwyaf difrifol, bydd y Â鶹ԼÅÄ hefyd yn ystyried dod â ffigur nad yw’n rhan o’r Â鶹ԼÅÄ i mewn i ymuno ag ymchwiliadau o’r fath neu i’w harwain.
- Bydd ymchwilwyr yn rhoi darlun o’r gŵyn (os oes un) i’r gwneuthurwyr cynnwys perthnasol neu fanylion y tor-amod honedig a chyfle priodol i ymateb (a all fod ar lafar) i’r materion sy’n peri pryder, yn amodol ar y gofyniad i ddod i benderfyniad amserol.
- Bydd ymchwilwyr yn gwneud argymhelliad i’r Cyfarwyddwr Cyffredinol fel Prif Olygydd oni bai fod penderfyniad eisoes wedi’i wneud i ddirprwyo’r awdurdod i’r ymchwilwyr neu ffigur golygyddol uwch arall yn y Â鶹ԼÅÄ.
- Bydd canfyddiadau achosion o dorri’r rheolau golygyddol sy’n deillio o ymchwiliadau a ysgogir gan yr hunan yn cael eu cyhoeddi.