Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth

Archifau Rhagfyr 2011

Anrheg Nadolig Jonathan Edwards

Vaughan Roderick | 09:55, Dydd Mawrth, 13 Rhagfyr 2011

Sylwadau (11)

Rwyf am roi anrheg Nadolig cynnar i un gwleidydd o Gymru. Jonathan Edwards o Blaid Cymru yw'r gwleidydd hwnnw.

Mewn araith i goffau Llywelyn II yng Nghilmeri dros y Sul galwodd Jonathan ar Lywodraeth Cymru i ddechrau paratoi ar gyfer sefyllfa lle'r oedd etholwyr yr Alban yn pleidleisio o blaid annibyniaeth neu setliad 'devo max' mewn refferendwm. Yn ôl Jonathan mae'r naill ganlyniad neu'r llall bron yn anorfod - ac yn sicr o newid holl natur y wladwriaeth Brydeinig.

Dyma fy anrheg i Jonathan felly. Rwy'n cael ar ddeall bod Llywodraeth Cymru yn dawel fach yn gwneud yr hyn mae'n galw amdano gan hyd yn oed ystyried pynciau fel enw a baner gwladwriaeth a fyddai ond cynnwys Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Yn y cyd-destun hwn mae'n werth bwrw golwg ar Carwyn Jones ym Mhrifysgol Aberystwyth rhai wythnosau yn ôl. Yn y ddarlith honno fe osododd Carwyn dri maen prawf ar gyfer datganoli pellach i Gymru. Dyma nhw.

A fyddai'n gwella bywydau pobol Cymru?

A fyddai'r gost yn ormodol?

A fyddai'r effaith ar y Deyrnas Unedig yn gyfyngedig?

Mae nifer, gan gynnwys Jonathan Edwards, wedi ymosod ar sylwadau Carwyn gan ddweud ei bod yn dangos diffyg uchelgais a gweledigaeth. Mae'n ddealladwy bod aelod o Blaid Cymru yn credu hynny ond yng nghyd-destun gwleidyddiaeth y Blaid Lafur y mae angen dadansoddi'r hyn yr oedd Carwyn yn ei ddweud.

Mae hi bron yn ystrydeb erbyn hyn i ddweud bod holl hanes y broses ddatganoli yng Nghymru yn ymwneud a gwahaniaethau barn mewnol Llafur. Dyw hynny ddim yn golygu nad yw'r peth yn wir.

Mae'n ymddangos i mi bod Carwyn yn ceisio gwneud dau beth yn Aberystwyth. Yn gyntaf roedd am roi addewid i'w blaid y byddai agwedd Llywodraeth Cymru tuag at ddatganoli pellach rhwng nawr a refferendwm yr Alban yn bwyllog a gofalus. Yn ail roedd yn rhybuddio'r blaid y byddai rhaid cael newid sylfaenol yn y setliad cyfansoddiad pe bai'r Albanwyr yn pleidleisio o blaid 'Devo Max'. Awgrym Carwyn yw y gallai hynny olygu rhywbeth yn debyg i Ddeddf yr Alban,1998 gyda barnwraeth annibynol i Gymru. Nid ar chwarae bach y bydd darbwyllo'r Blaid Lafur Gymreig ynghylch hynny.

Dyw e ddim yn gwbwl eglur o ddarlith Carwyn ai'r setliad hwnnw yw'r un y byddai'n chwennych pe bai'r Albanwyr y dewis annibyniaeth. Dyw'r ddifyg eglurdeb ddim yn synnu fi o gwbwl.

Gwladweinydd ffôl iawn fydda'n trafod sefyllfa mor sensitif yn gyhoeddus blynyddoedd o flaen llaw. Dyw hynny ddim yn golygu nad oes 'na feddyliau mawr yn cael meddwl ar bumed llawr Tŷ Hywel.

Nadolig llawen, Jonathan.

Dyma ni eto

Vaughan Roderick | 10:25, Dydd Iau, 8 Rhagfyr 2011

Sylwadau (0)

Dyma ni'n tynnu am y lan felly. Ac eithrio ambell i bwyllgor ac ambell i gynhadledd newyddion mae busnes y Bae wedi dod i ben am flwyddyn arall. Neu felly yr oeddem yn disgwyl.

Yn lle hynny mae'r Telegraph wedi taflu grenâd i gyfeiriad Caerdydd gyda'i ffilmio dirgel o un o sesiynau hyfforddi CBAC. Cewch chi ddilyn y stori ar y prif safle ac fe fydd yn rhaid disgwyl canlyniadau gwahanol ymchwiliadau i wybod beth aeth o le.

Ai gwendidau systemig sy'n bodoli yn fan hyn neu gamddefnydd o eiriau gan unigolion? Dydw i ddim am ragfarnu.

Ar ôl dweud hynny mae'n anodd peidio gweld rhyw fath o gymhariaeth rhwng y trafferthion mae CBAC ynddyn nhw a rhai diweddar Prifysgol Cymru. Yn y ddau achos mae cyrff sydd wedi bod yn ganolog i'n bywyd cenedlaethol ers cenedlaethau wedi mynd i drafferthion wrth geisio cystadlu mewn marchnadoedd a ddaeth i fodolaeth mewn meysydd lle na fu marchnadoedd yn y gorffennol.

Yn Lloegr mae'r byrddau traddodiadol oedd dan ofal Prifysgolion wedi uno i ffurfio llond dwrn o gyrff arholi. Cystadlu gyda nhw y mae CBAC wedi bod yn ceisio gwneud tra'n parhau a'i rôl draddodiadol fel arholwr cenedlaethol a darparwr deunydd addysgu Cymru.

Efallai mai dyna sydd wrth wraidd yr helynt ond nid am y tro cyntaf rwy'n amau y bydd cwestiynau ynghylch y drefn lywodraethol, atebolrwydd a rheioleiddio yn codi eu pennau'n ddigon buan.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.