Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Anrheg Nadolig Jonathan Edwards

Vaughan Roderick | 09:55, Dydd Mawrth, 13 Rhagfyr 2011

Rwyf am roi anrheg Nadolig cynnar i un gwleidydd o Gymru. Jonathan Edwards o Blaid Cymru yw'r gwleidydd hwnnw.

Mewn araith i goffau Llywelyn II yng Nghilmeri dros y Sul galwodd Jonathan ar Lywodraeth Cymru i ddechrau paratoi ar gyfer sefyllfa lle'r oedd etholwyr yr Alban yn pleidleisio o blaid annibyniaeth neu setliad 'devo max' mewn refferendwm. Yn ôl Jonathan mae'r naill ganlyniad neu'r llall bron yn anorfod - ac yn sicr o newid holl natur y wladwriaeth Brydeinig.

Dyma fy anrheg i Jonathan felly. Rwy'n cael ar ddeall bod Llywodraeth Cymru yn dawel fach yn gwneud yr hyn mae'n galw amdano gan hyd yn oed ystyried pynciau fel enw a baner gwladwriaeth a fyddai ond cynnwys Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Yn y cyd-destun hwn mae'n werth bwrw golwg ar Carwyn Jones ym Mhrifysgol Aberystwyth rhai wythnosau yn ôl. Yn y ddarlith honno fe osododd Carwyn dri maen prawf ar gyfer datganoli pellach i Gymru. Dyma nhw.

A fyddai'n gwella bywydau pobol Cymru?

A fyddai'r gost yn ormodol?

A fyddai'r effaith ar y Deyrnas Unedig yn gyfyngedig?

Mae nifer, gan gynnwys Jonathan Edwards, wedi ymosod ar sylwadau Carwyn gan ddweud ei bod yn dangos diffyg uchelgais a gweledigaeth. Mae'n ddealladwy bod aelod o Blaid Cymru yn credu hynny ond yng nghyd-destun gwleidyddiaeth y Blaid Lafur y mae angen dadansoddi'r hyn yr oedd Carwyn yn ei ddweud.

Mae hi bron yn ystrydeb erbyn hyn i ddweud bod holl hanes y broses ddatganoli yng Nghymru yn ymwneud a gwahaniaethau barn mewnol Llafur. Dyw hynny ddim yn golygu nad yw'r peth yn wir.

Mae'n ymddangos i mi bod Carwyn yn ceisio gwneud dau beth yn Aberystwyth. Yn gyntaf roedd am roi addewid i'w blaid y byddai agwedd Llywodraeth Cymru tuag at ddatganoli pellach rhwng nawr a refferendwm yr Alban yn bwyllog a gofalus. Yn ail roedd yn rhybuddio'r blaid y byddai rhaid cael newid sylfaenol yn y setliad cyfansoddiad pe bai'r Albanwyr yn pleidleisio o blaid 'Devo Max'. Awgrym Carwyn yw y gallai hynny olygu rhywbeth yn debyg i Ddeddf yr Alban,1998 gyda barnwraeth annibynol i Gymru. Nid ar chwarae bach y bydd darbwyllo'r Blaid Lafur Gymreig ynghylch hynny.

Dyw e ddim yn gwbwl eglur o ddarlith Carwyn ai'r setliad hwnnw yw'r un y byddai'n chwennych pe bai'r Albanwyr y dewis annibyniaeth. Dyw'r ddifyg eglurdeb ddim yn synnu fi o gwbwl.

Gwladweinydd ffôl iawn fydda'n trafod sefyllfa mor sensitif yn gyhoeddus blynyddoedd o flaen llaw. Dyw hynny ddim yn golygu nad oes 'na feddyliau mawr yn cael meddwl ar bumed llawr Tŷ Hywel.

Nadolig llawen, Jonathan.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 11:10 ar 13 Rhagfyr 2011, ysgrifennodd Dewi:

    BE?
    Mae Llywodraeth Cymru yn "ystyried pynciau fel enw a baner gwladwriaeth a fyddai ond cynnwys Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon"

    Lle ar y ddaear yda chi wedi clywed hyn? Ac hefyd- pa enw mae nhw wedi'i ddewis!

  • 2. Am 11:43 ar 13 Rhagfyr 2011, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Ffynonellau - fel maen nhw'n dweud. Rhai da hefyd. Does dim casgliadau hyd y gwn i. Hwyrach yr hoffai darllenwyr roi cynnig ar enw!

  • 3. Am 14:22 ar 13 Rhagfyr 2011, ysgrifennodd Ifan Morgan Jones:

    Dw i am arbed miloedd i'r Llywodraeth a datgan mai'r enw fydd The United Kingdom of England, Wales and Northern Ireland! Dw i ddim yn credu eu bod nhw'n mynd i newid y fflag chwaith - dim ond y glas sy'n dod o'r Alban, wedi'r cwbwl, ac mae'n rhy eiconig o lawer.

  • 4. Am 20:32 ar 13 Rhagfyr 2011, ysgrifennodd Neilyn:

    "The Somewhat Smaller, Less Influential, Increasingly Irrelevant (especially in Europe) and DisUnited Kingdom of England Proper (not to be confused with the other much bigger England that features in the theme song to Dad's Army), the Increasingly Assertive and soon to become Independent Itself Former 'It's NOT a country but the Principality of Wales' [sic], now upgraded to a Tiny Country the Size of Wales known as Cumyru [Cimroo], and that Bit of Ireland that the Irish would still like back eventually but you're going to have to wait until we've finally run out of Steam-Driven Imperial Ambition, excuses, patience, public enquiries, interest or cash, whichever comes first".

    Gwirion bost, mi wn, ond pam lai. Yr unig ymateb call hyd y gwela i i'r fath ddatganiad!

    Os bydd Yr Alban yn gadael go iawn, mae'r DG ar ben yn hwyr neu'n hwyrach, heb os, a mwy na thebyg yn gynharach. Felly paid a rwdlian Carwyn neu mi fydd Cimroo unwaith eto yn dod yn rhan o England, ac mi fydd hi ar ben y tro nesaf.

    Uchelgais!

  • 5. Am 21:57 ar 13 Rhagfyr 2011, ysgrifennodd Dewi:

    Efallai the "NEW Kingdom"
    Megis - NorthernIreland, England, Wales Kingdom.

    Ac efallai cael banner newydd hefo ryw fath o adnabyddiaeth i Gymru- efallai y ddraig goch.
    ___
    Na, maen debyg IMJ fydd yn gywir- jac yr undeb, a UK of Eng, Wal, NI! - piti! ond dwnim pam mae Llywodraeth Cymru yn son am y peth!

  • 6. Am 22:37 ar 13 Rhagfyr 2011, ysgrifennodd Dai Thomas:

    Rwy'n rhagweld sefyllfa lle mae Lloegr yn pleidleisio mewn refferendwm i adael yr UE, tra mae'r Alban a Chymru yn pleidleisio i aros mewn. A fydde'n bosib i Gymru a'r Alban aros yn yr UE tra bod Lloegr yn gadael.Wedi'r cwbl nid yw Ynys Manaw yn rhan o'r UE.

  • 7. Am 09:52 ar 14 Rhagfyr 2011, ysgrifennodd Sion Swydd y Gwelyau:

    Ys dywed pobl Tsieina, dan ni'n byw mewn cyfnod digon diddorol. Cawn weld beth sy'n deillio dros y misoedd nesaf.

    Dw i'n credu fodd bynnag, fod IMJ yn anghywir yn ei ddamcaniaeth o'r luman honno a elwir, yn gam-arweiniol, yn faner yr Undeb. Hawdd gweld nad ydym ni'r Cymry yn rhan ohoni, ond nid felly mo Gogledd Iwerddon chwaith. Ymhellach, nid "dim ond y glas sy'n dod o'r Alban" - mae croes Sant Andreas (yr X wen) hefyd yn hannu o'r wlad honno hefyd. Hen bryd felly ail-ddylunio'r faner, neu gorau oll, caniatau i'n cenhedloedd i gyd arddel ein croesau a'n dreigiau ein hunain. Vive l'Independece - i bawb.

    Ac ar nodyn enw'r wladwriaeth cyn hynny, ni chredaf bydd llawer o ddefnydd ar the Former United Kingdom neu the Federal United Kingdom, am resymau digon amlwg... (Dw i eisoes wedi gweld RUK - the Rest of The United Kingdom sans yr Alban)

  • 8. Am 22:43 ar 16 Rhagfyr 2011, ysgrifennodd EmlynUwchCych:

    Teyrnas Unedig De Prydain a Gogledd Iwerddon. Banner 4 chwarter: Croes Siôr, Croes Dewi, Croes Padrig, Croes Siôr.

    Ond dim ond am ychydig flynyddoedd y pâr hyn. Diflanna Gogledd Iwerddon, gan adael "Ye Olde Kingdom of England (reincorporating Wales)" gyda Croes St Siôr yn ein cynrychiolu unwaith eto.

  • 9. Am 00:25 ar 9 Ionawr 2012, ysgrifennodd Harri:

    Deffra mae'n flwyddyn newydd a dan ni heb gael brasu dim ar dy sylwadau!

  • 10. Am 10:22 ar 10 Ionawr 2012, ysgrifennodd D Thomas:

    Vaughan,

    A elli di fy nghyfeirio i tuag at blogiad wnes ti ar y defnydd o'r term 'Prinicipality' ac 'England and Wales' gan Â鶹ԼÅÄ Cymru/Wales? Rwy'n meddwl taw 'Cryfder Geiriau' neu rywbeth tebyg oedd y teitl. Methu'n lan dod o hyd iddo. Diolch

  • 11. Am 16:55 ar 16 Ionawr 2012, ysgrifennodd FiDafydd:

    Gyda chymaint o bethau diddorol yn digwydd ar hyn o bryd, gan gynnwys ymateb disgwyliadwy o uniongred (ond uniongred 'plus'!) Carwyn Jones ... mae'n drueni fod y blog mor dawel, Vaughan.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.