Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Y Llywydd yn lloerig

Vaughan Roderick | 14:06, Dydd Iau, 14 Ebrill 2011

Diwrnod arall - "teipo" arall! O leiaf roedd Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn gallu sillafu enwau eu pleidiau. Nid felly Llafur Cymru neu "Llanfur Cymru" os ydych chi'n credu'r maniffesto!

Nid methiant i ddarllen proflenni'n unig sy'n uno'r pleidiau. parhau mae'r ffrwgwd ynghylch penderfyniad swyddogion cyfri'r Gogledd i beidio cyfri'r pleidleisiau ar noson yr etholiad.

Y datblygiad diweddaraf yw homar o lythyr gan Dafydd Elis Thomas i Kay Jenkins, pennaeth y Comisiwn Etholiadol yng Nghymru. Ynddo mae'r Llywydd yn dyfynnu o adroddiad y comisiwn yn sgil etholiad 2007 sy'n datgan na ddylai trefniadau cyfri fod yn "fater preifat, lleol".

Yn ôl y Llywydd mae'r Comisiwn wedi methu ymgynghori a'r Cynulliad na'r cyfryngau. Mae'n cwpla'i lythyr trwy ddweud hyn;

|"Yn anffodus mae'r Comisiwn a swyddogion cyfri'r Gogledd wedi dewis ymdrin â'r etholiad fel 'mater preifat, lleol' a thrwy hynny wedi methu gweithredu yn unol â buddiannau'r etholwyr sy'n dymuno gwybod canlyniad etholiad cyn gynted a bo modd ar ôl i'r gorsafoedd bleidleisio gau.

Byswn yn ddiolchgar pe bai'r Comisiwn a'r Swyddog Cyfri Rhanbarthol yn ail-ystyried y sefyllfa ar fyrder"

Rwy'n amau bod llinellau ffôn y Comisiwn yn grasboeth y prynhawn yma ond fel mae pethau'n sefyll ar hyn o bryd fe fydd yn rhai aros tan brynhawn Gwener i wybod a ydy Llanfur Cymru wedi ennill mwyafrif yn yr Etholiad Cyffreddinol.

Diawch, rwyf wedi cael fy heintio gan "deipos"! Gwell i mi heglu hi am Arberth cyn i bethau fynd yn waith!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 17:42 ar 14 Ebrill 2011, ysgrifennodd blogmenai:

    Os bydd y bocsus yn cael eu hagor a'u gwirio y noson cynt yna mi fydd y canlyniadau allan beth bynnag ymhell, bell cyn i'r swyddogion etholiad eu datgan.

  • 2. Am 13:25 ar 15 Ebrill 2011, ysgrifennodd Nangogi:

    Fyddan nhw'n agor y bocsus ac yn gwirio'r papurau'n union cyn dechrau cyfrif ar y bore dydd Gwener - nid y noson gynt. Fel arall byddai peryg i bethau amheus ddigwydd i'r papurau dros nos!! Dyna oedd y drefn gyda chyfrif y Refferendwm ym mis Mawrth. Ond o leiaf y bydd y bocsus i gyd wedi cyrraedd y ganolfan cyfri cyn cychwyn.

    Er mod i'n mwynhau cyffro'r cyfri dros nos, dydw i ddim yn teimlo'n arbennig o gryf am y peth - manteision ac anfanteision y ddwy ffordd. OND mae'n edrych yn flêr iawn nad oes unrhyw un wedi cydlynnu'r trefniadau a sicrhau cysondeb ar draws Cymru. Swyddogaeth pwy oedd gwneud hynny?

    Cwestiwn arall - a fydd pleidleisiau'r Etholiad yn cael eu cyfrif cyn pleidleisiau'r Refferendwm?

  • 3. Am 16:59 ar 15 Ebrill 2011, ysgrifennodd EMU:

    Blogmenai sy'n iawn yma, fel mae'n digwydd bod.

    Mae swyddogion cyfrif y Gogledd wedi cadarnhau y byddan nhw yn gwirio'r pleidleisiau am 10 nos Iau fer arfer. Fore trannoeth am 9, bydd pleidleisiau'r rhanbarth yn cael eu cyfrif'n gyntaf, ac yna eiddo'r etholaethau unigol (paham y drefn honno, Duw a ŵyr).

    Ta beth, bydd hyn yn rhoi hen ddigon o gyfle i cyfrwyr answyddogol chwim o lygad a phensil i gael darlun perffaith o'r canlyniad cyn mynd i'w gwelyau yn oriau man y bore. Gobeithio'n wir y gwna Blogmenai'r gymwynas fawr o ddatgeli'r ffigyrau cyfrin hyn ar ei flog dros nos.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.