Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

HRH Gwenda

Vaughan Roderick | 11:51, Dydd Iau, 18 Tachwedd 2010

Rwyf wastad wedi bod o'r farn y byddai Gwenda Thomas yn ymgeisydd cryf i fod yn Frenhines pe bai angen un ar Gymru. Wedi'r cyfan mae hi bob tro yn foesgar, yn ddymunol ac mae'n amhosib ei drwglicio mewn gwirionedd.

Roeddwn i'n meddwl mai rhyw syniad bach personol oedd hwn ond beth yw hyn?

Y prynhawn yma mae Gwenda yn agor estyniad newydd i gartref gofal ar yng Nglanaman. Fe'i ariannwyd yn bennaf gan Lywodraeth y Cynulliad. Beth yw enw'r estyniad? Uned Gwenda Thomas! Brenhinol iawn os caf i ddweud!

Wrth gwrs mae'r busnes enwau yn gymhleth. Cymerwch Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant. Y "Camilla Hospital" yw hwnnw ar lafar gwlad.

Pam? Wel am ei bod yn dod rhwng y "Prince Charles" a'r "Princess of Wales" wrth gwrs

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 20:45 ar 22 Tachwedd 2010, ysgrifennodd Dai Tomos:

    Bydd Rhagfyr 1af ar ein pen cyn bo hir...ond mae;n pum mis tan Ebrill 1af.....felly mae'r post yma dros pum mis rhy gynnar

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.