Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Ar y Dec

Vaughan Roderick | 19:16, Dydd Mercher, 17 Tachwedd 2010

Oherwydd y gyllideb chafodd dadl y Cynulliad ynghylch S4C fawr o sylw heddiw. Mae'n werth ei gwylio! Dyma hi.

Fe fydd y Pwyllgor Dethol yn cychwyn ei ymchwiliad i'r Sianel wythnos nesaf. Pwy fydd yn tystio, tybed?

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 00:27 ar 18 Tachwedd 2010, ysgrifennodd Simon Brooks:

    Diolch am hyn, Vaughan.

    Rwyf wedi codi ambell ddyfyniad o'r ddadl ar gyfer y darllenwyr hynny heb amser i wylio'r fideo i gyd. Dyma rai o'r pigion (blas yn unig, wrth gwrs):

    "[mae ymddygiad Syr Michael Lyons, Cadeirydd Ymddiriedolaeth y Â鶹ԼÅÄ] yn gwbl warthus" (Rhodri Glyn Thomas AC)

    "I don't trust the Â鶹ԼÅÄ when it comes to Wales" (Alun Davies AC)

    "these lines of propaganda [am ddarlledu Cymraeg a Gaeleg] can just be broadcast without question and nobody's able to challenge them and people accept them because they've heard them on the Â鶹ԼÅÄ" (Rhodri Glyn Thomas AC)

    "bullying of a public sector broadcaster [S4C]" (Alun Davies AC)

    Condemniad mawr ar Syr Michael Lyons am ei lythyr wythnos ddiwethaf yn mynnu fod y Â鶹ԼÅÄ yn cael "trosolwg" dros weithgareddau S4C. "We will take over ... We will be in charge" yw dehongliad Rhodri Glyn ohono.

    Gwych iawn gan ein gwleidyddion. Melys moes mwy.

    O.N. Pryd bydd Syr Michael Lyons yn cael ei gyfweld gan Â鶹ԼÅÄ Cymru er mwyn iddo orfod cyfiawnhau ei benderfyniad cywilyddus i sbaddu darlledu Cymraeg? Ydy ymddangos ar raglenni teledu Cymreig islaw sylw penaethiaid y Â鶹ԼÅÄ yn Llundain? Pam fod penaethiaid y Â鶹ԼÅÄ mor anatebol i'w cynulleidfa?

  • 2. Am 13:32 ar 18 Tachwedd 2010, ysgrifennodd D. Enw:

    Vaughan - mae Seimon yn codi pwyntiau da fan hyn - yn arbennig swildod (neu traheusder) y Â鶹ԼÅÄ yn Llundain tuag at ateb cwestiynnau teilwng am S4C a rol y Gorfforaeth. Yn debyg iawn i'r diffyg sylw ar ymadawiad Jonsi, mae Â鶹ԼÅÄ Cymru'n dawel iawn ar hyn. Pam? Ddim yn argoeli'n dda ar gyfer Â鶹ԼÅÄ yn cymryd drosodd S4C mae'n rhaid dweud.

    Dwi'n cymharu'r ddarpariaeth arlein Saesneg ar Â鶹ԼÅÄ Cymru gyda'r ddarpariaeth iaith Gymraeg ar Â鶹ԼÅÄ Cymru a does dim gwahaniaeth. Beth yw cyllideb gwasanaeth Cymru arlein (nifer newyddiadurwyr, gohebwyr a chyfanwyr eraill) i'w gymharu a'r ochr Saesneg?

    Ai dyma sut fydd S4C yn cael ei thrin?

  • 3. Am 14:09 ar 18 Tachwedd 2010, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Dydw i ddim yn gallu cynnig llawer o atebion mae gen i ofn. Mae'r Â鶹ԼÅÄ wrth gwrs eisoes yn darparu gwasanaeth newyddion S4C.

    Dydw i ddim yn gwybod beth yw cyllidebau y gwahanol gwasanethau a dweud y gwir - ond ychydig iawn o bobol sy'n gweithio mewn dim ond un cyfrwng y dyddiau hyn. Mae llawer (gan gynnwys fi) yn gweithio yn y ddwy iaith. Nid 'seilos' yw'r cyllidebau felly.

    Y cyfan fedra i ddweud yw bod y niferoedd ar ochor Gymraeg ac ochor Saesneg yr ystafell newydduion mwy neu lai'n gydradd.

    O safbwynt y tebygrwydd rhwng y gwasanaeth arlein Cymraeg a'r un Saesneg mae'r ddau wedi ei seilio ar yr un straeon crai sy'n cyrraedd yr ystafell y newyddion. Mae'r tebygrwydd rhwng y straeon yn deillio o hynny. Anaml iaw y mae stori ar un gwasanaeth yn gyfieithiad slafaidd o un sydd eisoes wedi ymddangos ar y llall.

  • 4. Am 14:24 ar 18 Tachwedd 2010, ysgrifennodd GWYLAN:

    Os mai dyma’r uchafbwyntiau ym marn SB, wel . . . . . . .

    Dwi’n credu mai ‘posturing’ ma nhw’n galw cyfraniad AD a RGT. Y siaradwr wnaeth argraff oedd Paul Davies. Mi es i gwato tu ol i’r soffa tra roedd Eleanor Burnham yn siarad.

    Ond pam cymaint o seddi gwag? Ac hefyd pam na all yr aelodau eraill wrando ar y drafodaeth yn hytrach na ffidlan yn ddiddiwedd gyda’u cyfrifiaduron. Ma ise i’r Llefarydd rhoi’i droed lawr a rhoi stop ar hyn.

  • 5. Am 15:14 ar 18 Tachwedd 2010, ysgrifennodd SEAGULL:

    Sylw 3

    ‘Anaml iawn y mae stori ar un gwasanaeth yn gyfieithiad slafaidd o un sydd eisoes wedi ymddangos ar y llall,’medde VR

    You could've fooled me, mate. Allet ti fod wedi fy nhwyllo i, was!

  • 6. Am 18:17 ar 18 Tachwedd 2010, ysgrifennodd D. Enw:

    Vaughan - diolch am ddod nol. Nid son am wasanaeth newyddion arlein yn unig oeddwn ni, ond y ddarpariaeth arlein arall sydd yn y Gymraeg a'r Saesneg.

    Pryder nifer fawr ohonom yw fod S4C yn 'budget heading' cymharol fechan o fewn y Â鶹ԼÅÄ yn wladwriaethol. Mae fel gorfod mabwysiadu plentyn eich brawd. Dwi'm yn siwr fod y Â鶹ԼÅÄ yn gwybod beth yw wneud a'r amheuaeth yw y caiff ei weld ag eiddigedd gan blant 'biolegol' y Â鶹ԼÅÄ h.y. y gwasanaethau sydd eisoes ar gael. Sori am y gymhariaeth trwsgwl, ond mae 'na gyfleuon o gydweithio'n agos rhwng S4C a'r Â鶹ԼÅÄ ... ond mae 'na berygl fawr hefyd ac hoffai rhai ohonom weld dadansoddiad mwy treiddgar o'r manylion hynny. Y drwg yw fod rhaid, gan fwyaf, disgwyl i'r Â鶹ԼÅÄ wneud yr ymchwil a'r holi treiddgar hynny.

  • 7. Am 22:12 ar 18 Tachwedd 2010, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Diolch am y sylw. Rwy'n holi Mark Thompson yfory ynghylch S4C a phethau eraill. Mae pob sylw ac awgrym o gwestiwn o gymorth. Dyw holi'r boss ddim yn hawdd! Fe wna i geisio gwneud yr holi treiddgar.

  • 8. Am 23:13 ar 18 Tachwedd 2010, ysgrifennodd Simon Brooks:

    Dwi'n falch iawn fod Mark Thompson yn cael ei gyfweld am S4C fory. Hen, hen bryd. Edrychaf ymlaen at y cyfweliad. Dyw hi ddim yn deg fod uwch swyddogion y Bib o Loegr yn cymryd y penderfyniadau yma heb unrhyw elfen o atebolrwydd i'w cynulleidfa yng Nghymru.

    O safbwynt awgrym o gwestiwn, mae gen i un. Ar hyn o bryd mae tri phroses cyfansoddiadol (o leiaf) yn mynd rhagddynt parthed S4C: i)trafodaeth yn San Steffan ar y Ddeddf Cyrff Cyhoeddus; ii) ymchwiliad y Pwyllgor Materion Cymreig yn San Steffan; iii) disgwyl am ymateb oddi wrth Brif Weinidog Prydain Fawr i lythyr arweinwyr y Cynulliad.

    O ystyried hyn oll, pam fod cymaint o frys gan y Â鶹ԼÅÄ i wthio'r trafodaethau gyda S4C yn eu blaenau? Mae'n rhoi'r argraff fod y Â鶹ԼÅÄ yn Llundain yn farus. Oni fyddai'n well i ddau ddarlledwr cyhoeddus fel y Â鶹ԼÅÄ a S4C ddisgwyl nes bod y prosesau cyfansoddiadol hyn yn dod i ben cyn cynnal trafodaethau manwl am y ffordd ymlaen? Ynteu a yw Â鶹ԼÅÄ Llundain yn ceisio cyflawni rhyw fath o fait accompli yma, gan gymryd drosodd S4C ni waeth beth yw barn pobl Cymru a'u cynrychiolwyr etholedig?

  • 9. Am 11:20 ar 19 Tachwedd 2010, ysgrifennodd Alun o Gasnewydd:

    Jest wedi cael amser i edrych ar y drafodaeth. Llawer o eiriau da gan unigolion o'r pedair plaid OND OND OND …..Ar fater mor bwysig....(lle'r oedd yn ddigon pwysig i arweinyddion y pedair plaid ddanfon llythyr i'r "Prif weinidog" yn Llundain) ble oedd yr aelodau yn ystod y drafodaeth hynod bwysig yma. Seddi gwag dros y lle i gyd. Oedd yna fwy na 20 yn y siambr ar unrhyw adeg? I ddweud y gwir mae yn warthus. Os nad ydynt yn gallu bod yno yn ystod trafodaeth mor bwysig â hwn cywilydd arnynt i gyd.
    Hefyd fel dywedodd GWYLAN " pam na all yr aelodau eraill wrando ar y drafodaeth yn hytrach na ffidlan yn ddiddiwedd gyda’u cyfrifiaduron".

    Ni yn chwarae plant bois.....Tyfwch lan rhai ohonoch ein haelodau anrhydeddus!!

  • 10. Am 14:48 ar 19 Tachwedd 2010, ysgrifennodd GWYLAN:

    Diolch i Alun o Gasnewydd am ategu fy sylwadau a ble yn wir oedd yr ACau oedd yn absennol yn ystod y drafodaeth

    Vaughan, beth am flogiad ar ymddygiad aelodau yn y Siambar. Pwy yw’r mynychwyr a’r cyfranwyr cyson a beth mae’r gweddill yn gwneud pan nad ydynt yn y Siambar. A beth yw pwrpas y cyfrifiaduron? Onid siarad a gwrando dyle nhw wneud yn y Siambar nid anfon e-byst at fodrybedd yn Awstralia.

    Mae ffidlan gyda’ch cyfrifiadur tra bo rhywun yn siarad yn anghwrtais. Ac fel dwedodd Alun ‘chwarae plan.’ yw rhywbeth fel ‘na.

    Beth yw dy farn di Vaughan?

  • 11. Am 14:56 ar 19 Tachwedd 2010, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Dydw i ddim yn ffan o'r cyfrifiaduron mae'n rhaid i mi ddweud... ond bern personol yw hwnnw.

  • 12. Am 15:17 ar 19 Tachwedd 2010, ysgrifennodd Adam Jones:

    Eiliaf hefyd yr hyn a ddywedodd Gwylan, Mae'n warthus bod siwt gymaint o seddi gwag yn y Siambr amser gynhaliwyd y drafodaeth hon, ble oedd IWJ A CARWYN JONES?. Gwarthus hefyd oedd y'r elfen docenistaidd a wnaed o'r Gymraeg gan aelodau bondigrybwyll dros y Gymraeg - Alun Davies, Elinor Burnham.

    Nid ydynt mwyach yn cyfieithu'r cofnod felly er mwyn sicrhau bod yna ddigon o Gymraeg dylai fod yn ddyletswydd ar yr aelodau sydd yn Gymry Cymraeg i ddefnyddio'r iaith yn fwy gyson yn hytrach na'n docenistaidd.

  • 13. Am 13:18 ar 23 Tachwedd 2010, ysgrifennodd Alun o Gasnewydd:

    Wedi bod i ffwrdd am 3 diwrnod felly heb gallu ateb!

    Dau beth ....o ran siarad o'r galon yn y ddadl cytuno dim ond PD ac AFfJ oedd ac unrhyw beth gwerth clywed am EB well wel wel

    Nol i ti eto Vaughan gellir gweld / cael ystadegau pwy sydd yn mynychu / ddim yn mynychu y siamber yn rheolaidd.. Bydd y ffigurau yn ddiddorol rwyn siwr!!!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.