Mawrion y Genedl
Fedra i ddim gwrthsefyll y demtasiwn i atgynhyrchu'r llun yma o dudalen flaen gwefan y Â鶹ԼÅÄ.
I aralleirio hen, hen jôc;
"Pwy yw'r boi 'na da Michael Caine?"
"Sai'n gwybod ond rwy'n credu taw'r bachan Brown 'na sy nesaf at Ieuan"
SylwadauAnfon sylw
'Mawrion' pa genedl?
Ie, rwy wedi sylwi ar hyn. Ddoe, stori am Blaid Cymru ar brif dudalen newyddion Â鶹ԼÅÄ Prydain, a heddiw, llun o IWJ ym mhlith yr arweinwyr unoliaethol.
Ai rhywun yn y Â鶹ԼÅÄ sy'n ceisio gwneud yn iawn am ddiffyg sylw i Blaid Cymru a'r SNP yn 'Nadleuon yr Arweinwyr'?
Os felly, mae Salmond yn colli mas braidd!