Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Etholiad di-ddiwedd

Vaughan Roderick | 09:40, Dydd Gwener, 9 Ebrill 2010

Does 'na'r unman yng Nghymru lle mae'r etholiad yn fwy gweladwy nac Aberystwyth. Hyd yma, o leiaf. Mae posteri Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol i'w gweld ym mhob man yn etholaeth fwyaf ymylol Cymru.

O gofio hynny ai heddiw oedd y diwrnod gorau i Google hela car camera i dynnu lluniau o'r dref?

Fe fydd etholiad 2010 yn fyw ar "street-view" am flynyddoedd i ddod!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 11:43 ar 9 Ebrill 2010, ysgrifennodd gareth thomas:

    Roedwwn o dan yr argraff mae Gorllewin Clwyd odd y sedd mwaf ymylol.

  • 2. Am 13:08 ar 9 Ebrill 2010, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Mi wyt ti'n iawn- a ti ddylai wybod! Er efallai bod Ceredigion yn fwy tebyg o newid dwylo y tro hwn.

  • 3. Am 13:54 ar 9 Ebrill 2010, ysgrifennodd DORIS:

    ". . . . hela car camera?"

    Hela, myn brain i, pa fath o iaith yw hwnna? Fel wedodd Bandit yn y wers Gymraeg, llwynogod sy'n cael 'u hela yng Nheredigion, fachgen!

  • 4. Am 14:58 ar 9 Ebrill 2010, ysgrifennodd Meurig:

    Bach o wybodaeth leol.
    Mae'n bosib bydd ardaloedd o Geredigion yn tipyn llai oren erbyn bore fory. Tebyg fod BT a Chyngor Sir Ceredigion ddim yn or hapus gyda diemwntiau plastig yn cael eu hoelio fewn i'w heiddo.

  • 5. Am 20:42 ar 9 Ebrill 2010, ysgrifennodd monwynsyn:

    O ran Ceredigion ydwi yn iawn i gredu y bydd y myfyrwyr yn y Coleg ar y 6ed o Fai. A fydd hyn yn arwyddocaol ? Y tro diwethaf roedd ymgyrch wrth ryfel y Democratiaid wedi taro tant. Lle bydd ei teyrngarwch y tro hwn ? Ydi presenoldeb y myfyrwyr am fod yn ffactor ? Pwy fydd yn elwa fwyaf ?Yntau a fydd difaterwch myfyrwyr a phobl ifanc yn golygu mae ymylol fydd y dylanwad. Gallai ei presennoldeb fod yn ffactor arwyddocaol yn y sedd Arfon newydd. Er fod mwy o fyfyrwyr o Gymru bellach yn mynychu colegau yng Nghymru mae carfan sylweddol o'r tu allan i Gymru ac fe allai gael effaith. Ydwi yn iawn yn meddwl fod yr myfyrwyr gartref adeg etholiadau y cynulliad y tro diwethaf ?

    Un sylw. Tydi polion telegraff ddim yn pleidleisio er ei bod yn rhoi arwydd o gefnogaeth yr arwyddion pwysig yw y rhai sy'n ffenestri pobl.

  • 6. Am 20:45 ar 9 Ebrill 2010, ysgrifennodd monwynsyn:

    Un sylw tydi polion telgraff ddim yn pleidleisio yr arwyddion pwysig yw y rhai sy'n ffenestri a gerddi pobl.

    Credaf fod y myfyrwyr yn y goleg ar y 6ed a fydd hyn yn arwyddocaol yma ac yn Arfon ? Tro diwethaf roedd yr ymgyrch wrth ryfel wedi taro tant.
    A fydd gan fyfyrwyr ddylanwad ar y canlyniad ?

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.