Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth

Archifau Ionawr 2010

Y Cymry ar wasgar

Vaughan Roderick | 17:34, Dydd Sadwrn, 30 Ionawr 2010

Sylwadau (2)

draiggoch203.jpgDydw i ddim yn arbenigwr ar ddeddfwriaeth ieithyddol. A dweud y gwir mae'n ddigon i hela pendro ar rywun!

Cymerwch rhywbeth mor syml a'r cwestiwn "ydy'r Gymraeg yn iaith swyddogol ai peidio?" Fe achosodd hwnnw gryn ddadlau yn ôl yn 1993 wrth drafod y mesur iaith.

Y broblem oedd, yn ôl y Swyddfa Gymreig, nad oedd na unrhyw ddeddfwriaeth yn datgan bod Saesneg yn iaith swyddogol. Fe fyddai roi'r statws honno i'r Gymraeg yn ei dyrchafu'n uwch na'r iaith fain. Yr ateb deddfwriaethol oedd datgan y dylai'r ddwy iaith gael eu trin yn gyfartal yng Nghymru.

Oes rhywun wedi dweud wrth y Swyddfa Dramor? Mae gwefannau llysgenadaethau y Deyrnas Unedig i gyd yn cynnwys adran o'r enw " i gyflwyno'r lle i drigolion lleol. Dyma sydd gan y Swyddfa Dramor i dweud am ieithoedd swyddogol y DU;

"Britain's 2 official languages are English and Welsh, English being the most widely spoken. Gaelic is also spoken in some parts of Scotland."

Dim cyfeiriad at gyfartaledd yn fan yna- a dim cyfeiriad at "yng Nghymru" chwaith!

Mae hynny'n codi ambell i gwestiwn bach diddorol, wrth gwrs. Os ydy'r Gymraeg, fel y Saesneg, yn iaith swyddogol y deyrnas gyfan ym marn y Swyddfa Dramor pam nad yw "About the UK" yn ddwyieithog? Yn bwysicach efallai pam nad yw'r Swyddfa Dramor wedi ceisio sicrhau cyfartaledd i'r Gymraeg a'r Saesneg yn sefydliadau'r Undeb Ewropeaidd?

Trioedd...

Vaughan Roderick | 12:31, Dydd Sadwrn, 30 Ionawr 2010

Sylwadau (2)

_405047_dontouhig300.jpg1. Dyddiau'n unig ar ôl i fi nodi cyn lleied o aelodau seneddol Llafur o Gymru sy'n ymddeol (o gymharu a Lloegr, hynny yw) dyma i chi Don Touhig yn cyhoeddi ei fod am roi'r gorau iddi.

Rwy'n synnu braidd gan fod sedd seneddol Islwyn yn ddigon diogel a Don ei hun ond yn ei chwedegau cynnar. Cafodd ei losgi braidd gan yr helyntion ynghylch treuliau. Efallai mai dyna yw'r rheswm.

2. Gan aros yng Ngwent mae Dai Davies AS wedi dad-gofrestru plaid "People's Voice-Torfaen" chwaer-blaid un Blaenau Gwent. Mae'n debyg bod fersiwn Torfaen wedi troi'n dipyn o lanast.

3. Mae "Google Translate" yn rhemp! Mae gwefan newyddion Cymraeg newydd wedi ymddangos. Mwynhewch y ""! a'i phrif stori "Tyllau Tri dyn i gyfarfod y dyn Ipswich iddo achub bywyd â rhoi mêr esgyrn"

Top Cat

Vaughan Roderick | 11:35, Dydd Gwener, 29 Ionawr 2010

Sylwadau (3)

david_davies_bbc226.jpgAm y tro cyntaf i mi gofio mae David Davies yn cadw ei ben lawr gan wrthod pob cais am sylw neu gyfweliad. Mae'n weddol amlwg bod mawrion y blaid wedi gorchymyn i aelod Mynwy cau ei drap ar ôl ei sylwadau dadleuol ynghylch achos Balal Khan.

Heb os mae'r Ceidwadwyr yn cymryd y sefyllfa o ddifri gyda llefarwyr y blaid yng Nghaerdydd a Llundain yn ymateb gyda'r un geiriad gofalus.

"These comments do not reflect the views of the party in any way."

Mae ambell i Geidwadwr wedi ymateb mewn modd mwy agored. Rwy'n ddiolchgar i am dynnu fy sylw at sylwadau darpar ymgeisydd y Ceidwadwyr yng Gorllewin Abertawe, René Kinzett, ar Twitter;

sorry, but why is David TC Davies MP such a flaming pain in the arse? Rape linked to race? Go back to selling tea

Yn ddiweddarach wrth ymateb i Tomos Livingstone ychwanegodd René;

@TomosL How can someone be so crass as to blame rape on ethnicity and be a serious-minded Parliamentarian in the 21stC?

Y cwestiwn mawr nawr yw a fydd David yn cael ei ddisgyblu?

Cofiwch fod Alun Cairns wedi gorfod sefyll gerbron ei well ar ôl gwneud sylwadau amrwd am Eidalwyr ar "Dau o'r Bae". Oedd "joc" ymgeisydd Bro Morgannwg o ddifri yn fwy o bechod na'r geiriau yma o eiddo aelod Mynwy?

"...there do seem to be some people in some communities who don't respect women's rights at all and who - if I may say, without necessarily saying that this is the case on this occasion - who have imported into this country barbaric and medieval views about women and that is something that also needs to be addressed."

Hyd yma dyw'r sefyllfa ddim wedi cael llawer o sylw gan y cyfryngau Prydeinig. Mae David yn lwcus yn hynny o beth ond mae e ar dir peryglus iawn.

Purdan Purdah

Vaughan Roderick | 16:41, Dydd Iau, 28 Ionawr 2010

Sylwadau (0)

Mae'n siŵr y byddai'r arfer o "purdah" yn cael ei ystyried yn un "canol oesol a barbaraidd" gan ambell i Aelod Seneddol o anian Ceidwadol. Ond nid trafod yr arferion Asiaidd o wahanu dynion a merched nac agweddau David Davies tuag atynt yw pwynt y post yma!

Y "purdah" arall sy gen i dan sylw sef yr arfer neu'r rheol sy'n golygu nad yw llywodraethau yn gwneud penderfyniadau na chyhoeddiadau o bwys yn ystod ymgyrchoedd etholiad.

Ers 1999 mae'r llywodraethau datganoledig wedi cydymffurfio trwy osgoi gwneud unrhyw beth a allai fod yn ddadleuol yn ystod ymgyrchoedd San Steffan. Mae'r arfer yn un sy'n cael ei dderbyn gan bawb. Serch hynny mae'n pery pryder i rai cynghorau a grwpiau rhieni sy'n disgwyl yn eiddgar neu'n betrusgar am ddyfarniadau ynghylch cynlluniau ad-drefnu ysgolion.

Does neb yn awgrymu bod Llywodraeth y Cynulliad yn ceisio osgoi gwneud penderfyniadau anodd ac amhoblogaidd cyn yr etholiad. Ar y llaw arall mae 'na bryderon y bydd yr amser yn brin i gyflawni cynlluniau oni cheir dyfarniadau cyn i Gordon Brown enwi'r dyddiad.

Iechyd da!

Vaughan Roderick | 10:26, Dydd Iau, 28 Ionawr 2010

Sylwadau (2)

Cwrw1.jpgFe wnes i sgwennu pwt y dydd o'r blaen am y gystadleuaeth frwd i gadeirio'r is-bwyllgor datblygu gwledig gyda Joyce Watson yn pwdu braidd ar ôl i Rhodri Glyn Thomas gael y swydd.

Roeddwn i'n amau mai eisiau cyfle i wella ei phroffil yn y Canolbarth a'r Gorllewin oedd Joyce ond efallai bod 'na esboniad arall. Mae'r is-bwyllgor newydd gyhoeddi maes llafur ei ymchwiliad nesaf- diwydiant gwin, cwrw a seidr yng Nghymru.

Maen nhw'n gadael y chwisgi tan flwyddyn nesaf, mae'n debyg!

Clychau Rhymni

Vaughan Roderick | 00:06, Dydd Iau, 28 Ionawr 2010

Sylwadau (1)

hanburyroad200.jpgYn ôl ym Mis Rhagfyr fe wnes i sgwennu hyn;

Cyn iddo gael ei ddyrchafu i'r Cabinet adfywio'r economi yn ardaloedd tlotaf Cymru, llefydd fel Merthyr, Cwm Cynon a'r hen bentrefi llechi, oedd maes llafur Leighton Andrews . Fel dirprwy weinidog roedd Leighton yn atebol i Ieuan Wyn Jones ond fe, yn amlach na pheidio, oedd yn cynrychioli'r Llywodraeth wrth drefnu a lansio prosiectau.

Mae pethau wedi newid o dan Carwyn. Mae adfywio ardaloedd difreintiedig bellach yn rhan o adran Jane Davidson. Yn fwy pwysig y dirprwy weinidog perthnasol yw Jocelyn Davies o Blaid Cymru. Ofn rhai yn y blaid Lafur yw y bydd hynny'n galluogi i Blaid Cymru hawlio'r clod am lu o brosiectau yn yr union ardaloedd lle fydd Llafur a Phlaid benben a'i gilydd yn 2011. Yng ngeiriau un llafurwr gallai hon fod yn "gythraul o anrheg Nadolig i Blaid Cymru".

Doedd ofnau'r aelod Llafur ddim yn ddi-sail. Un o'r etholaethau allweddol yn 2011 fydd Caerffili a heddiw fe dderbyniodd newyddiadurwyr y datganiad newyddion canlynol gan Lywodraeth y Cynulliad;

"Mae'r Dirprwy Weinidog dros Adfywiant Economaidd, Jocelyn Davies, yn ymweld â Bargod heddiw i gyhoeddi cynllun gwerth £8.3m i adfywio canol y dref."

Yn etholaeth Caerffili mae Bargod wrth gwrs, etholaeth sy'n rhan o ranbarth Dwyrain De Cymru, y rhanbarth y mae Jocelyn yn cynrychioli yn y Cynulliad.

Os nad yw hynny'n ddigon i wneud i bobol Llafur dagu ar eu cornflakes mae 'na waeth i ddod. Mae'r datganiad (a chofiwch mai datganiad Llywodraeth Cymru yw hwn) hefyd yn cynnwys ymateb i'r cyhoeddiad.

Mae arweinydd y cyngor lleol wrth ei fodd;

"The council and the Assembly Government are committed to turning this proud valleys town into a thriving and bustling economic centre for South Wales" medd y Cyng. Lindsay Whittle. Fel mae'n digwydd Lindsay Whittle yw darpar ymgeisydd seneddol Plaid Cymru yng Nghaerffili.

Nid Lindsay yw'r unig un sy'n dathlu. "I'm sure that the whole community will be delighted with the news and we now look forward to seeing these ambitious regeneration works progress" yw ymateb yr aelod o gabinet Caerffili sy'n gyfrifol am adfywiant economaidd.

Oes angen dweud mai Ron Davies yw hwnnw?

Cofiwch, mae pobol Bargod wedi hen arfer gweld gweinidogion Plaid Cymru erbyn hyn. Mae'r Dirprwy Brif Weinidog wedi bod yno ddwywaith yn ystod y chwe mis diwethaf, y tro cyntaf i agor twnnel rheilffordd newydd a'r eildro i agor gwasanaeth parcio a theithio.

Pwy oedd yno i groesawi Ieuan ar y ddau achlysur? Lindsay Whittle a Ron Davies, wrth gwrs.

Ydy Jeff Cuthbert yn teimlo ei fod dan warchae, tybed?

Eira Ddoe

Vaughan Roderick | 14:37, Dydd Mercher, 27 Ionawr 2010

Sylwadau (0)

p_rogers.jpgRoedd hi'n anorfod efallai y byddai'r ffaith bod Peter Rogers yn ôl yn y newyddion yn esgor ar rannu atgofion ynghylch y gwleidydd hynod hwnnw a'i gyfnod fel aelod cynulliad.

Pwy all anghofio'r perl yma o Dachwedd 2002. er enghraifft?

Kirsty Williams: You are out of time, Peter.

The Deputy Presiding Officer: Order. I am well aware that the clock says five minutes and 18 seconds. I thank you for trying to help, but I am aware of the time. Peter, you must wind up.

The First Minister: He is talking bollocks.

Peter Rogers: I am not talking bollocks at all, First Minister. [ASSEMBLY MEMBERS:'Oh.']

Wrth gwrs yn y dyddiau hynny roedd y Cofnod yn cael ei gyfieithu. Dyma'r fersiwn Gymraeg.

Kirsty Williams: Mae eich amser ar ben, Peter.

Y Dirprwy Lywydd: Trefn. Gwn yn iawn fod y cloc yn dangos pum munud a 18 eiliad. Yr wyf yn ddiolchgar ichi am geisio cynorthwyo, ond yr wyf yn ymwybodol o'r amser. Peter, mae'n rhaid ichi ddirwyn i ben.

Y Prif Weinidog: Mae'n malu cachu.

Peter Rogers: Nid wyf yn malu cachu o gwbl, Brif Weinidog. [AELODAU'R CYNULLIAD: 'O.']

Mae colled ar ei ôl!

Oed yr addewid

Vaughan Roderick | 10:31, Dydd Mercher, 27 Ionawr 2010

Sylwadau (0)

steptoe.jpgMae llawer o drafod wedi bod am gymaint o aelodau newydd fydd yn y senedd nesaf. Gyda dros 130 o aelodau eisoes wedi cyhoeddi eu hymddeoliad a nifer o seddi'n debyg o newid dwylo mae'n debyg y bydd o leiaf traean o aelodau'r senedd nesaf yn wynebau newydd. Mae rhestr lawn o'r rhai sy'n ymddeol yn.

Heb os mae'r helynt ynghylch treuliauwedi ychwanegu at y niferoedd ac mae'n debyg bod y posibilrwydd o dreulio eu blynyddoedd olaf yn San Steffan ar feinciau'r wrthblaid wedi dylanwadu ar rai aelodau Llafur. Mae wythdeg o aelodau Llafur, bron i chwarter y blaid seneddol yn bwriadu rhoi'r feiolin yn yr atig.

Ond dyma i chi beth diddorol. Mae'n ymddangos bod aelodau Llafur Cymru yn fwy gwydn na'r rheiny y tu hwnt i Glawdd Offa. Hyd yma dim ond pump o'r 29 sydd wedi cyhoeddi eu bod yn ymddeol sef Kim Howells, Martyn Jones, John Smith a Betty ac Alan Williams.

Mae'n ymddangos bod nifer o'r rhai y byddai rhywun wedi disgwyl gweld yn gadael yn bwriadu aros ymlaen. Fe fydd Paul Flynn ac Ann Clwyd yn tynnu am eu hwythdegau erbyn diwedd y senedd nesaf ond dyw hynny ddim wedi darbwyllo'r naill na'r llall i gamu i'r cysgodion. Cofiwch, gall neb wadu bod y ddau yn parhau'n fwy gweithgar ac effeithiol na sawl aelod hanner eu hoed.

Mae penderfyniadau ambell i aelod sydd wedi, neu sydd ar fin, cyrraedd oed pensiwn ac sy'n cynrychioli etholaethau bregus yn fwy rhyfedd.

Ydy pobol fel Julie Morgan a Nick Ainger mewn gwirionedd am gwpla eu gyrfaoedd seneddol trwy golli eu seddi yn hytrach nac ymddeol yn urddasol? Os ydy'r hwch yn mynd trwy'r siop i Lafur gallai Alun Michael a Martin Caton fod mewn sefyllfa debyg.

Pam peidio ymddeol felly?

Mae'n ymddangos bod 'na ddau reswm ac mae'r ddau yn rhai digon anrhydeddus. Y cyntaf yw cred syml yr aelodau bod ganddyn nhw ragor i gyfrannu. Yr ail ffactor yw eu bod yn synhwyro maen nhw sydd a'r gobaith gorau o gadw'r sedd i Lafur. Mae teyrngarwch i'w plaid ac yn fwyaf arbennig teyrngarwch i'w gweithwyr lleol yn gymhelliad pwysig i rai.

Mae'n werth crybwyll dau enw arall wrth fynd heibio sef Paul Murphy a Don Touhig. Mae'r ddau yn eu chwedegau cynnar a theg yw synhwyro eu bod eisoes wedi mwynhau uchafbwyntiau eu gyrfaoedd. Roedd rhai yn disgwyl y byddai'r naill, y llall neu'r ddau yn gadael y TÅ· y tro nesaf. Ond pam ddylen nhw? Mae eu mwyafrifoedd yn gyffyrddus, y bywyd seneddol at eu dant a refferendwm i'w hymladd!

Rogers a Ron

Vaughan Roderick | 16:05, Dydd Mawrth, 26 Ionawr 2010

Sylwadau (6)

_42842757_peterrogers203bbc.jpgMae Peter Rogers wedi cadarnhau i'r Â鶹ԼÅÄ ei fod yn bwriadu sefyll ar Ynys Môn yn yr etholiad cyffredinol os nad yw amseriad triniaeth feddygol yn rhwystro hynny. Dewis Ceidwadwyr yr ynys sy'n gyfrifol am benderfyniad Peter. "Nid Ynys Môn yw'r lle i hyfforddi Torïaid amhrofiadol" meddai. Newyddion drwg i'r Ceidwadwyr felly ac ychydig o glec i Blaid Cymru. Fe fydd Albert yn codi gwydred heno.
_203759_druid_150.jpg
Yn y cyfamser mae ffynonellau o fewn Plaid Cymru yn awgrymu bod y Western Mail yn llygaid ei le wrth awgrymu y bydd Ron Davies yn sefyll fel ymgeisydd y blaid yng Nghaerffili yn etholiad y Cynulliad. Ond beth am y rheol yna ynghylch bod yn aelod o Blaid Cymru am flwyddyn cyn cael sefyll- y rheol oedd yn gymaint o rwystr pan soniwyd am y posibilrwydd y gallai Angharad Mair sefyll yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr?

Mae'n ymddangos y gallai'r "rheol" fod yn "hyblyg". Weithiau.

Adenydd Colomen Pe Cawn

Vaughan Roderick | 15:02, Dydd Mawrth, 26 Ionawr 2010

Sylwadau (0)

BigglesMissions.jpgMae pŵer y blog yma'n rhyfeddu dyn weithiau. Ddydd Gwener fe wnes i adrodd hanesyn bach am y ffordd y gwnaeth "IeuanAir" lwyddo i golli bagiau teithwyr rhywle rhwng y Fali a Chaerdydd*. O fewn dyddiau roedd dyfodol cwmni Highland Airways yn y fantol ac amheuon yn cael eu codi am ddyfodol y gwasanaeth. Nid fi oedd ar fai, onest!

Ta waith, gellir synhwyro nad y gwasanaeth Cymreig sydd wrth wraidd problemau'r cwmni o gymryd bod ei reolwyr wedi gwneud eu symiau'n iawn yn y lle cyntaf. Mae'r gwasanaeth yn cario mwy o deithwyr na'r disgwyl ac roedd y cwmni yn gwybod beth oedd lefel y cymhorthdal a phrisiau'r tocynnau i fod wrth arwyddo'r cytundeb a Llywodraeth y Cynulliad. Mae'n anodd coelio felly nad yw'r gwasanaeth yn talu ei ffordd i Highland Airways.

Mae p'un ai ydy'r gwasanaeth yn un gwerth chweil o safbwynt y trethdalwr yn fater arall wrth reswm. Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi gwrthwynebu'r gwasanaeth o'r cychwyn gan ddadlau bod y cymhorthdal o ryw £84 y teithiwr yn wastraffus a bod y gwasanaeth yn groes i amcanion amgylcheddol y Llywodraeth. Dyw hi ddim yn syndod bod y blaid wedi achub ar y cyfle i ymosod ar y gwasanaeth unwaith yn rhagor yn sgil trafferthion Highland Airways.

Dim ond sinig byddai'n amau y byddai lein y Democratiaid Rhyddfrydol yn wahanol pe bai Môn neu Arfon yn uwch ar eu rhestr targedau. Yn yr un modd fe fyddai'n rhaid bod yn sinigaidd iawn un i amau bod ymrwymiad Llafur a Phlaid Cymru i'r gwasanaeth ynghlwm a sefyllfaoedd gwleidyddol Albert Owen ac Ieuan Wyn Jones!

Beth bynnag yw'r cymhellion dyw safbwyntiau pleidiau'r llywodraeth ddim yn debyg o newid yn sgil y datblygiadau diweddaraf. Yn ôl un ddylai wybod pe bai Highland Airways yn mynd i ddwylo'r derbynwyr mae 'na siawns go dda y byddai'r rheiny yn cynnal y gwasanaeth. Pe na bai hynny'n digwydd fe fyddai'n bosib sicrhau contractwr arall "o fewn dyddiau" yn ôl y Llywodraeth.

Yn y cyfamser mae Cyngor Ynys Môn yn chwilio am i baratoi adroddiad ar ddatblygu rhagor o wasanaethau o'r Fali. I fyny bo'r nod!

*Roedd y bagiau yn nhÅ· bach yr awyren trwy'r amser!

Mewn Picl

Vaughan Roderick | 12:46, Dydd Mawrth, 26 Ionawr 2010

Sylwadau (1)

_47182741_44677674.jpgDoes dim dwywaith bod David Pickering yn difaru ei fod wedi defnyddio adnoddau Undeb Rygbi Cymru i drefnu cinio codi arian i'r Blaid Lafur. Fe ddaeth ei ymddiheuriad o fewn oriau i'r Â鶹ԼÅÄ ddatgelu'r twpdra. Y cysylltiad â'r WRU oedd y rheswm dros gyhoeddi stori ond agwedd arall ohoni sydd wedi denu sylw rhai sef cost y tocynnau. Mil o bunnau? Am swper?
Beth mae pobol yn cael am hynny? Casgen o gafiar?

Yn ôl gwefan y "" lle mae'r cinio yn cael ei gynnal £35 yw'r pris arferol am ginio nos. Hyd yn oed os oedd David Pickering yn dewis talu am goffi a mint (£2 y pen) i bawb fe fyddai hynny'n gadael cythraul o elw i'r blaid Lafur. O gymryd, hynny yw, nad oedd potel yr un o Château Latour, 1er Cru Classé, Pauillac Bordeaux 1986 (£625) neu coctels yn y "Vanilla Rooms" wedi eu cynnwys yn y pris.

Mae pob un o'r pleidiau yn cynnal ciniawau i godi arian ond dydw i erioed wedi clywed am ddigwyddiad yng Nghymru gyda phris tocyn yn agos at yr un yma.

Gellir anwybyddu unrhyw awgrym mae'r cyfle i gale gair yng nghlust yr Ysgrifennydd Gwladol neu'r Prif Weinidog oedd yr atyniad. Wedi'r cyfan dy hi ddim yn anodd i unrhyw un gael pum munud o amser Peter Hain neu Carwyn Jones.

Efallai mai dyna wnaeth esgor ar bicl Pickering. Mae'r cinio i'w gynnal ymhen ychydig dros wythnos. Ydy hi'n bosib mai'r rheswm am ei e-bost byrfyfyr a difeddwl oedd bod 'na nifer sylweddol o gadeiri heb eu llenwi?

Rialtwch

Vaughan Roderick | 16:36, Dydd Sul, 24 Ionawr 2010

Sylwadau (0)

Mae'r ffilmiau yn ôl... neu mi fyddan nhw ymhen dwy funud. Rhaid gwylio'r cloc yn gyntaf.

Mae'n anodd deall agwedd yr Americanwyr ynghylch gynnau. Efallai bod yr hysbyseb yma o'r chwedegau yn esbonio'r peth!

Cofiwch, roedd pob math o hysbysebon yn dderbyniol ar un adeg!

Cwis bach i orffen. Beth yw'r cysylltiad hanesyddol rhwng y drefedigaeth yn y fideo yma...

...a'r farchnad yn y fideo yma? Y flwyddyn oedd 1647 os ydy hynny o gymorth!

Penbleth Peter

Vaughan Roderick | 11:16, Dydd Gwener, 22 Ionawr 2010

Sylwadau (0)

guildhall_stock_shot_1.jpgHeb os un o'r llefydd sydd wedi elwa yn y deng mlynedd ers sefydlu'r cynulliad yw Abertawe. Efallai bod hynny'n wobr am y ffaith mai hi'n unig o ddinasoedd y de wnaeth bleidleisio o blaid datganoli ond mae 'na well esboniad na hynny.

Rhanbarth Gorllewin De Cymru yw craidd cryfder y Blaid Lafur yn y cynulliad. Hi yw'r Yr unig ranbarth etholiadol lle mae Llafur yn dal pob un sedd etholaethol ac mae'r saith aelod hynny yn rhan allweddol o'r fathemateg etholiadol sy'n sicrhau mai Llafur yw plaid fwyaf y Cynulliad. Mae cadw gafael ar yr etholaethau hynny yn flaenoriaeth o'r radd flaenaf i Lafur.

Yn realistig mae gafael Llafur ar Aberafan, Ogwr a Dwyrain Abertawe yn weddol ddiogel a chyda dyrchafu Carwyn Jones yn Brif Weinidog fe ddylai Pen-y-bont fod yn weddol o saff yn 2011. Mae'r sedd seneddol yn fater arall.

Mae'r tair etholaeth arall yn hynod ddiddorol. Mae Castell Nedd yn un o brif dargedau Plaid Cymru. Daeth y Ceidwadwyr yn agos at ddiorseddi Edwina Hart yng NgwÅ·r yn 2007 ac roedd Plaid Cymru'n curo ar y drws yno yn 1999. Mae hynny'n dod a ni at Orllewin Abertawe.

Mae'n anodd gor-ddweud ynghylch pwysigrwydd Gorllewin Abertawe i'r Democratiaid Rhyddfrydol. Hi yw fersiwn yr ail ddinas o Ganol Caerdydd, sedd y mae'r blaid yn dominyddu ar lefel llywodraeth leol ac un y dylai hi ei hennill yn 2011. Rhyw 1500 oedd mwyafrif Andrew Davies yn 2007 a theg yw barnu bod o leiaf rhan o'r mwyafrif yn bleidlais bersonol yn seiliedig ar ei record o ddelifro prosiectau cyhoeddus mawr i'r ddinas. Gyda Andrew yn ymddeol fe fydai methiant arall i'r Democratiaid Rhyddfrydol yn yr etholaeth yn brofiad poenus tebyg i'w record arteithiol yn etholaeth Conwy gydol yr wythdegau a'r nawdegau.

Y broblem sydd wedi rhwystro ymdrechion y Democratiaid Rhyddfrydol yn yr etholaeth yn y gorffenol yw methiant i roi gwasgfa lawn ar bleidlais Geidwadol bur sylweddol. Gallai hynny fod yn llai o broblem yn 2011 pan fydd y Torïaid, mwy na thebyg, yn canolbwyntio'u hymdrechion ar sedd y Gweinidog Iechyd.

Mae hynny'n creu tipyn o benbleth i Peter Black os nad yw'r gyfraith yn cael ei newid i ganiatau ymgeisio am sedd etholaeth a sedd rhanbarth yn yr un etholiad.

Pe bai Peter yn dewis sefyll ar gyfer y sedd etholaeth does dim dwywaith yn fy meddwl i mai fe fyddai'r ffefryn i ennill ond mae buddugoliaeth yn bell o fod yn sicr. Ar y llaw arall pe bai Peter yn dewis sefyll fel ymgeisydd rhanbarth gallai buddugoliaeth i Ddemocrat Rhyddfrydol arall yng Ngorllewin Abertawe beryglu'r sedd honno.

Gallai Peter wynebu penderfyniad anodd felly. Fe fyddai pethau llawer yn haws pe bai'r blaid yn llwyddo i gipio'r sedd seneddol yn yr Etholiad Cyffredinol.

Fflio heibio

Vaughan Roderick | 10:30, Dydd Gwener, 22 Ionawr 2010

Sylwadau (0)

biggles.jpgMae 'na fantra cyson yn cael ei glywed gan weinidogion sef bod y llywodraeth am greu "World Class Wales". Mae gwella'r system drafnidiaeth yn rhan o hynny ac un o'r gwelliannau hynny yw'r cysylltiad awyr rhwng y Fali a Chaerdydd neu "IeuanAir" fel mae pawb yn galw'r peth. Pa mor "world-class" yw'r gwasanaeth hwnnw?

Mae ambell i ddarlledwr a gwas sifil yn amheus. Wedi'r cyfan mae angen dipyn o athrylith i lwyddo i golli bagiau teithwyr rhywle rhwng Môn a Morgannwg. Yng ngeiriau un teithiwr yn anffodus "nid b***i Gatwick yw'r Fali, wedi'r cyfan!"

I fod yn deg mae'n debyg mai ddoe oedd y tro cyntaf i'r fath beth ddigwydd. Serch hynny gyda'r cytundeb yn cael ei adolygu ar hyn o bryd mae'n anffodus bod y cwmni wedi pechu ambell i bwysigyn!

Trioedd Ynys Echni

Vaughan Roderick | 13:05, Dydd Iau, 21 Ionawr 2010

Sylwadau (0)

flatholm.jpg1. Mae cyd-ddigwyddiadau'n digwydd mewn gwleidyddiaeth. Heno fe fydd aelodau Rhwydwaith Amgylcheddol Sir Benfro yn cynnal eu cyfarfod blynyddol. Yr Aelod Cynulliad Angela Burns sy'n cadeirio'r sesiwn gyda siaradwraig wadd yn trafod dyfodol cynhyrchu ynni yn sir.

Pwy yw'r siaradwraig? Jane James, rheolwraig purfa olew Chevron.

2. Mae 'na hiraeth ar ôl Rhodri Morgan ar y meinciau Llafur. Beth bynnag oedd ei ffaeleddau yng ngeiriau un aelod Llafur "o leiaf doedd e ddim yn mynnu cael gwybod cynnwys ein cwestiynnau o flaen llaw". At beth a phwy yr oedd yr aelod yn cyfeirio tybed?

3. Mae dau o ohebwyr CF99 wedi cyhoeddi eu bod wedi dyweddio. Nid gyda'i gilydd er y byddai Owain Clarke ac Arwyn Jones yn bâr pert. Llongyfarchiadau i'r ddau.

O'r post

Vaughan Roderick | 01:13, Dydd Iau, 21 Ionawr 2010

Sylwadau (2)

elin.jpg

Ble buost ti neithiwr, mab annwyl dy fam?

Vaughan Roderick | 18:26, Dydd Mercher, 20 Ionawr 2010

Sylwadau (1)

pont_menai.jpgBeth yw hwn?

Datganiad gan Brif Weithredwr dros dro Cyngor Môn, neb llai, yn ymfalchïo yn ei ryddid i ddweud ei ddweud ar goedd.

"I have been appointed by the Minister...I am therefore not bound by some of the constraints which may face other officers......"

Yn sicr mae David Bowles wedi bod yn defnyddio'r rhyddid a roddwyd iddo pan gafodd ei ddanfon i sortio allan llanast Cyngor Ynys Môn. Mewn llythyr at bob aelod o'r Cyngor mae'n dweud hyn;

"Anglesey has been bedevilled by personality driven, petty parochial vindictive factional infighting. This is a disgraceful example of an attempt to use an officer as the meat in the middle of a sandwich of personality driven infighting..."

"...Those few who put their petty spiteful factional infighting above the interests of the island have no place on this council..."

Mr Bowles ei hun yw'r swyddog yn y sandwij. Dydw i ddim am fynd i'r holl droeon trwstan wnaeth arwain at gyhuddiadau'r Prif Weithredwr. Digon yw dweud nad oedd yn gwybod mai John Arthur Jones, un o fawrion gwleidyddol Môn, oedd yr "Arthur Jones" y gwnaeth e renti tŷ ganddo fe. Pan sylweddolodd hynny symudodd o'r tŷ gan ddweud wrth ddau o brif swyddogion y cyngor beth oedd wedi digwydd. Yn ôl Mr Bowles mae rhai o gynghorwyr yr ynys wedi ceisio ei danseilio ar sail ei drefniadau byw. Fe gewch y manylion ar y gwasanaethau newyddion.

Y cyfan sy gen i i ddweud yw "dim ond ar Ynys Môn"!

Mae 'na un dyfyniad arall sy'n werth cynnwys. Mae Mr Bowles yn cwpla ei lythyr fel hyn.

"I did consider marking this letter Private and Confidential but decided against it on the basis it would get leaked anyway. I regret having to write to all members in these terms rather than just the few but it is a consequence of how the few conduct themselves."

Beth sydd gan y Gweinidog, Carl Sargeant, i ddweud am hyn oll? Mae'r llythyr yn anhygoel ond pa ddewis sy ganddo ond roi ei gefnogaeth lwyr i ddyn y llywodraeth? Dyma mae'n dweud.

"I am not prepared to tolerate a continuation of such unacceptable behaviour from a minority of members within the Council. I will be seeking the views of the recovery Board as to what further action they deem to be necessary to ensure that the Council's recovery is not blighted by this or any further incidents like it."

Rownd un i Mr Bowles... a bocs o siocledi i John Stevenson am ddod o hyd i'r stori!

Luc 6.41*

Vaughan Roderick | 15:55, Dydd Mercher, 20 Ionawr 2010

Sylwadau (3)

_40094446_peter_hain_203.jpgPe bawn i yn Geidwadwr byswn i ddim wedi gofyn y cwestiwn yma.

Written answers and statements, 19 January 2010

Greg Hands (Shadow Minister, Treasury; Hammersmith & Fulham, Conservative); To ask the Secretary of State for Wales how many iPODs have been bought by his Department since 2005; and at what cost.

Peter Hain; None.

*Os nad ydych chi wedi bod yn yr Ysgol Sul yn ddiweddar dyma'r adnod;

"Pam rwyt ti'n poeni am y sbecyn o flawd llif sydd yn llygad rhywun arall, pan mae trawst o bren yn sticio allan o dy lygad di dy hun!?"

Diawl o hawl

Vaughan Roderick | 13:29, Dydd Mercher, 20 Ionawr 2010

Sylwadau (0)

1045.jpgUn o ganlyniadau diflannu o Gymru am sbel go hir oedd bod llwyth o wahoddiadau i annerch Cymdeithasau a Chylchoedd Cinio yn fy nisgwyl ar ôl cyrraedd adref.

Rwy'n tueddu gwrthod y rhan fwyaf ohonynt. Wedi'r cyfan mae Betsan a Dewi Llwyd gymaint yn well na fi yn y pethau 'ma ac wrth ei boddau'n rhannu teisen a phaned gyda chriw o ffans! Chi'n gwybod at bwy i ysgrifennu'r tro nesaf!

Serch hynny, rwyf wedi cytuno i gadeirio trafodaeth ar y Mesur Iaith arfaethedig i fudiadau dathlu'r Gymraeg.*

Fe wnes i hynny'n rhannol am ei bod yn golygu fy mod yn gallu gwrando ar ddarlith gan Gwion Lewis heb orfod talu ffeifar. Y rheswm arall am gytuno oedd fy mod eisiau clywed y dadleuon diweddaraf am gwestiwn sy'n achosi trafod brwd mewn cylchoedd cyfreithiol a llywodraethol.

Dyw'r ddadl ddim wedi cael llawer i sylw y tu hwnt i dudalennau Barn ond mae'n un ddifyr a phwysig gyda rhai'n dadlau y gallai un o ddyheadau ymgyrchwyr dros y mesur fod yn niweidiol i'r Gymraeg.

Cymal yn gwarantu hawl gweithwyr i ddefnyddio'r Gymraeg yn y gweithle yw asgwrn y gynnen. Mae'r egwyddor yn un sy'n apelio at wleidyddion y cynulliad ond mae llunio cymal sy'n cyflawni'r nod ond sydd hefyd yn caniatáu eithriadau ynghylch iechyd a diogelwch ayb yn anodd.

Y broblem, fel mae rhai yn ei gweld yw y gallai cymal gyda gormod o eithriadau neu un oedd wedi ei eirio'n llac fod yn gyfystyr a rhoi bwydlen o esgusodion i gyflogwyr oedd yn dymuno gwahardd y Gymraeg. Hynny yw, y cyfan y byddai angen i gyflogwr wneud i danseilio'r "hawl" oedd dweud ei fod yn gwhardd y Gymraeg am reswm pennodol yn unol a'r mesur. Faint o weithwyr fyddai'n fodlon mynd i gyfraith i herio gosodiad felly?

Mae ambell i eithriad ym marn y Llywodraeth yn hanfodol ond mae llunio'r union eiriad yn profi'n rhyfeddol o anodd. Fe fydd clywed barn y meddylwyr mawr yn ddifyr!

*10yb, Dydd Llun, Chwefror 8fed, Gwersyll yr Urdd, Bae Caerdydd.

Yr het bluog

Vaughan Roderick | 14:37, Dydd Mawrth, 19 Ionawr 2010

Sylwadau (2)

BritishEmpire.jpgUn o arferion Nick Bourne yw cyfeirio at Peter Hain fel y "Governor General". Mae'n derm braidd yn rhyfedd i geidwadwyr ei ddefnyddio. Gellid disgwyl y peth gan ambell i bleidiwr ond mae'n rhyfedd braidd i'w glywed ar wefusau rhywun o anian unoliaethol.

Gofynnais i Nick heddiw a fyddai'n trosglwyddo'r het bluog i Cheryl Gillan pe bai hi'n Ysgrifennyd Gwladol. Mynnodd na fyddai gan esbonio mai gwawdio agwedd nawddoglyd honedig Peter Hain tuag at y Cynulliad yw ei fwriad nid dirmygu swydd yr Ysgrifennydd Gwladol.

Digon teg, efallai. Wedi'r cyfan dyw Peter ddim wedi mynd allan o'i ffordd i wneud cyfeillion ar y meinciau Ceidwadol. Doedd Nick ddim hyd yn oed yn gwybod bod gan Peter swyddfa mewn adeilad cyferbyn a'r cynulliad nes i ryw un ddweud hynny wrtho heddiw! Mae hyd yn oed newyddiadurwyr yn cae eu gwahodd i'r fangre honno!

Dyw e ddim yn ymddangos bod Carwyn Jones yn or-awyddus i drafod a'r Torïaid chwaith. Wythnos yn ôl fe wrthododd Carwyn ddweud a fyddai'r bleidlais ynghylch refferendwm ar Chwefror y nawfed yn un a fyddai'n cwrdd â gofynion Deddf Llywodraeth Cymru. Fe fyddai hynny wrth gwrs yn golygu cychwyn y broses swyddogol a fyddai'n arwain at refferendwm yn yr hydref.

Y rheswm am yr aneglurder, yn ôl Carwyn, oedd yr angen i drafod a'r gwrthbleidiau. Dyw'r trafodaethau hynny heb ddigwydd eto. Yn wir doedd y Democratiaid Rhyddfrydol ddim wedi clywed gair gan y llywodraeth tan toc cyn eu cynhadledd newyddion heddiw- cynhadledd lle'r oedd y blaid yn bwriadu gofyn beth gebyst oedd yn mynd ymlaen!

Mae'n ymddangos bod Carwyn mewn ychydig o dwll. Mae 'na arwyddion plaen nad yw Ieuan Wyn Jones yn fodlon derbyn unrhyw beth llai na phleidlais swyddogol er y byddai hynny yn groes i ddymuniadau Peter Hain.

Ar ddiwedd y dydd mae'n debyg y bydd yn rhaid i Carwyn bechu naill ai Ieuan neu Peter. Ai'r "country solicitor" neu'r "Governor General" fydd yn cael ei siomi? Fe gawn weld.

Poeri Gwaed ym Mhowys

Vaughan Roderick | 11:45, Dydd Mawrth, 19 Ionawr 2010

Sylwadau (0)

POWYS1_c747824_994_286.jpgMae Cyngor Powys yn ystyried cynlluniau dadleuol i gau hyd at saith o ysgolion uwchradd.

Does dim angen fod yn broffwyd i wybod y bydd y cynlluniau yn hynod ddadleuol. Does dim dwywaith y bydd y ddadl yn chwarae rhan bwysig yn yr ymgyrch etholiadol ym Maldwyn a Brycheiniog a Maesyfed lle mae'r Torïaid yn herio'r Democratiaid Rhyddfrydol.

Eisoes mae'r Ceidwadwyr wedi neidio i mewn i'r ffrae gan addo brwydro i gadw'r ysgolion ar agor. Mae Kirsty Williams hefyd wedi ymosod ar y cynlluniau a gellir disgwyl datganiadau tebyg gan Lembit Opik a Roger Williams.

Mae Cyngor Powys yn cael ei redeg gan glymblaid o gynghorwyr annibynnol a'r Democratiaid Rhyddfrydol. Jyst dweud.

Rhwydweithio

Vaughan Roderick | 10:12, Dydd Gwener, 15 Ionawr 2010

Sylwadau (0)

Mae hi wedi bod yn wythnos ryfedd yma yn y Bae. Gyda meddyliau pawb ar yr eira maw a'r etholiad i ddod doedd pethau ddim yn tanio rhywsut.

Fel arwydd bod pethau'r dechrau dychwelyd i'r patrwm arferol mae "Dau o'r Bae" a'r podlediad yn dychwelyd heddiw.

Dyma ambell i ddolen i'ch difyrru

Cwestiwn da gan Iain Dale ond dyw e ddim yn cynnig ateb!

Times

Mae 'na hen ddigon o sylw yn cael ei roi heddiw i i gau ei ffatri ym Meisgyn ond prin iawn yw'r feirniadaeth o'r cwmni. Mae hynny'n anarferol yn y fath amgylchiadau ond mae 'na reswm am hynny. Mae yn enghraifft, unigryw bron, o gwmni rhyngwladol sy'n eiddo i elusen ac sy'n gwario'i elw ar achosion da. Nid ar chwarae bach y byddai'r cwmni wedi cymryd cam mor arswydus o drist.

Pwdi

Vaughan Roderick | 13:09, Dydd Iau, 14 Ionawr 2010

Sylwadau (0)

58984.jpg

O ganlyniad i'r newidiadau yn y Llywodraeth mae 'na ambell i newid yn aelodaeth y pwyllgorau hefyd. Mae Alun Davies, er enghraifft, wedi symud o'r is-bwyllgor Datblygu Gwledig lle'r oedd e'n gadeirydd. Hwyrach bod y mawrion Llafur yn chwilio am bwlpit fwy addas iddo allu pregethu wrth etholwyr Blaenau Gwent!

Ar y llaw arall mae cadeiryddiaeth y pwyllgor yn swydd fach handi i rywun sy'n sefyll fel ymgeisydd rhestr yn y Gorllewin a'r Canolbarth. Rhywun fel Joyce Watson, er enghraifft. Hwyrach hefyd nad oedd hi'n afresymol i Joyce feddwl y byddai'n olynu ei chyd-aelod Llafur yn y gadair.

Nid felly y bu pethau. "Dim ffiars o beryg" oedd ymateb sawl aelod o'r pwyllgor gan sicrhau ffics i roi Rhodri Glyn Thomas yn y gadair.

Doedd dim byd y gallai Joyce wneud am y peth ac eithrio dweud eu dweud ar goedd yn y pwyllgor a dyna a gwnaeth hi.

Clerc; Oes 'na enwebiadau ar gyfer cadeiryddiaeth yr is-bwyllgor?

Brynle Williams; Rwy'n enwebu Rhodri Glyn Thomas ar gyfer y cadeiryddiaeth.

Clerc; Oes 'na enwebiadau eraill? Nac oes? Does dim angen pleidlais felly gan nad oes enwebiadau eraill.

Joyce Watson; I would like it minuted that I did not support this chairship (sic)

Clerc; It will be minuted.

Joyce Watson; It's...pretty important.

Ond ddim yn ddigon pwysig, mae'n ymddangos, i Joyce esbonio yr union reswmau am ei gwrthwynebiad!

Elin, o Elin...

Vaughan Roderick | 10:59, Dydd Iau, 14 Ionawr 2010

Sylwadau (0)

33488.jpg

Dyw'r tywydd garw ddim wedi effeithio ar waith y cynulliad. Er cynddrwg yr eira mae'r aelodau i gyd wedi llwyddo i gyrraedd y Bae- arwydd, mae'n rhaid, o'r ffaith eu bod yn cymryd eu gwaith o ddifri. Go brin y bydda'i un ohonyn nhw'n yn cyfaddef bod y trafod ar adegau braidd yn ddibwrpas. Ac eithrio Elin Jones, hynny yw.

Yn gynharach yr wythnos hon roedd y gweinidog yn agor dadl ar "Egwyddorion Cyffredinol y Mesur Arfaethedig ynghylch y Diwydiant Cig Coch" ac yn gwneud hynny yn ôl ei harfer yn Gymraeg.

Am unwaith doedd y cyfieithu ar y pryd ddim yn gweithio'n rhy dda gan arwain at y sylwadau yma yn y siambr;

The Deputy Presiding Officer: Order. We missed quite a lot of the translation there, Minister. Could you go back a few paragraphs?

Elin Jones: May I suggest that what I was saying was not all that important? [

Elin, Elin! Dwyt ti ddim fod dweud pethau felna!

Peidio Pechu Peter

Vaughan Roderick | 10:48, Dydd Mercher, 13 Ionawr 2010

Sylwadau (3)

_40094446_peter_hain_203.jpgYdy, mae'n demtasiwn. Mae'r newyddion bod David Taylor wedi ei benodi'n ymgynghorydd i Peter Hain bron yn ddigon i'm mherswadio i ail-gyhoeddi cywaith diwethaf y ddau. Ond na, na, na Delilah, dydw i ddim am wneud!

Ta beth, rwy'n amau bod y penodiad yn dweud rhywbeth am y berthynas agos rhwng cyn-gyflogwr David, Leighton Andrews ac Ysgrifennydd Cymru. Rwyf wedi dweud o'r blaen fy mod yn un o edmygwyr (prin, efallai) David. Rwy'n hoffi pobol sy'n byw a bod eu gwleidyddiaeth hyd yn oed os ydy hynny ar adegau yn eu harwain ar gyfeiliorn!

Heb os fe fydd y swydd at ddant David ond go brin y bydd e'n para'n hir yn NhÅ· Gwydr. Beth bynnag yw canlyniad yr etholiad cyffredinol mae'n weddol amlwg bod dyddiau Peter Hain fel Ysgrifennydd Cymru wedi eu rhifo.

O gofio hynny ac o gofio maint ei fandad mae ymdrechion Carwyn Jones i osgoi brifo teimladau Peter Hain braidd yn rhyfedd. Ond peidio brifo'r Ysgrifennydd Gwladol ac aelodau seneddol Llafur eraill yw'r unig esboniad y galla i feddwl amdano am atebion annelwig ac aneglur Carwyn ynghylch geiriad ynghylch refferendwm fydd yn cael ei drafod ar Chwefror y nawfed.

Esgus gwan yw'r angen i "ymgynghori a'r gwrthbleidiau". Mae safbwyntiau'r Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn eglur ac yn hysbys ers tro byd. Mae Carwyn wedi paentio'i hun mewn i gornel os ydy e'n credu y bydd y naill blaid neu'r llall yn rhoi esgus iddo oedi. Os nad yw'r broses staudol i alw refferendwm yn cychwyn ar Chwefror 9fed pleidiau'r llywodraeth, a phleidiau'r llywodraeth yn unig, fydd yn gyfrifol am hynny.

Ta beth am hynny mae'n anodd meddwl am unrhyw eiriad i gynnig yn cefnogi galw refferendwm na fyddai'n gorfodi i'r Prif Weinidog gychwyn y broses yn swyddogol yn unol â Deddf Mesur Llywodraeth Cymru.

Mae union eiriau'r ddeddf yn bwysig. Dyma'r ddau gymal perthnasol.

104 Proposal for referendum by Assembly

(1) This section applies if--

(a) the Assembly passes a resolution moved by the First Minister or a Welsh Minister appointed under section 48 that, in its opinion, a recommendation should be made to Her Majesty in Council to make an Order in Council under section 103(1), and

(b) the resolution of the Assembly is passed on a vote in which the number of Assembly members voting in favour of it is not less than two-thirds of the total number of Assembly seats.

(2) The First Minister must, as soon as is reasonably practicable after the resolution is passed, ensure that notice in writing of the resolution is given to the Secretary of State.

Nawr dywedwch fod y Cynulliad yn cymeradwyo cynnig yn galw am refferendwm eleni. Ydy Carwyn, mewn gwirionedd yn mynd i fynnu nad yw hynny'n golygu bod yn rhaid iddo roi rhybudd ysgrifenedig at Peter Hain? Rili, Carwyn? A beth fyddai ymateb y Llywydd i bwynt o drefn yn gofyn a oedd rheidrwydd ar y Prif Weinidog i ymddwyn yn unol â'r ddeddf?

Mae'n rhyfedd fod gwleidydd sydd ag enw am fod yn "bar saff o ddwylo" wedi rhoi ei hun mewn sefyllfa mor sigledig. Ond efallai na ddylwn ni synnu bod dyfodol cyfansoddiadol Cymru unwaith yn rhagor yn wystl i wleidyddiaeth fewnol y blaid Lafur. Mae hynny wedi bod yn wir am y ganrif ddiwethaf, wedi'r cyfan!

A'i Wyddfa yw Bodafon

Vaughan Roderick | 15:16, Dydd Mawrth, 12 Ionawr 2010

Sylwadau (2)

pont_menai.jpgDwi wastad yn garcus wrth drafod gwleidyddiaeth Môn. Does 'na'r unlle yn debyg i'r fam ynys!

Y Ceidwadwyr sy'n gyfrifol am y tro trwstan diweddaraf ar yr ynys yn sgil ymddiswyddiad eu darpar ymgeisydd, Trefor Jones.

Dydw i ddim yn gwybod pam yn union y gwnaeth Trefor benderfynu rhoi'r ffidl yn y to. Roedd e'n ymgeisydd dawnus ac atyniadol ac rwy'n sicr na fyddai wedi tynnu ei enw yn ôl ar chwarae bach. Beth bynnag oedd ei resymau mae'n amlwg nad yw e wedi pechu arweinyddiaeth genedlaethol y blaid. Heddiw mynegodd Nick Bourne obaith y byddai Trefor yn sefyll yn etholiad Cynulliad 2011.

Ta beth, fe adawodd penderfyniad Trefor Torïaid yr ynys mewn picl. Roedd ambell i Dori am ddewis ymgeisydd lleol ond methiant fu eu hymdrechion i ddarbwyllo'r swyddfa ganolog i ganiatau dewis ymgeisydd nad oedd ar restr genedlaethol y blaid. Pwy i ddewis, felly?

Gyfeillion, mae'n bryd i ni gwrdd ag Anthony Ridge-Newman. Mae 'r ymgeisydd newydd yn gynghorydd yn Surrey ond peidied neb a meddwl nad oes ganddo gysylltiadau a Chymru. Mae datganiad newyddion y blaid yn cynnwys tystiolaeth bendant o hynny.

Cawn wybod hyn er enghraift; "Anthony is proud of the fact that he has climbed Mount Snowdon, not once but twice!"

Mae ganddo fe deulu yng Nghymru hefyd er bod ei wybodaeth ddaeryddol yn ymddangos braidd yn simsan.

"Anthony, aged 31, has Welsh heritage from the Williams family of Pontycymmer in the Rhondda Valley. Although he grew up in Worcestershire, he has always been passionate about being part Welsh."

Y tro diwethaf i mi edrych yng Nghwm Garw yr oedd Pontycymmer. Cofiwch, mae'n bosib bod Pontycymmer wedi symud!

Serch hynny ar hyn o bryd mae'n anodd osgoi'r casgliad bod y Cyng. Ridge-Newman yn fwy o Roger Evans na Keith Best!

Dyddiad o'r diwedd

Vaughan Roderick | 10:44, Dydd Mawrth, 12 Ionawr 2010

Sylwadau (1)

Fe fydd y Cynulliad yn trafod adroddiad Confensiwn Syr Emyr ar y nawfed o Chwefror. Cyhoeddodd Carwyn Jones hynny'r bore 'ma gan fynnu nad dadl ddiystyr i nodi'r adroddiad fydd yn cael ei chynnal.

Yn ôl y prif weinidog mae'n benderfynol o gynnal pleidlais ar y nawfed ac mae'n rhaid i'r bleidlais honno "symud y broses ymlaen". Ond ydy hynny'n golygu y bydd y bleidlais yn un sy'n unol a chymal 103 o ddeddf llywodraeth Cymru- hynny yw pleidlais i alw refferendwm?

Yn ôl y llywodraeth mae hynny dibynnu ar drafodaethau gyda'r ddwy wrthblaid gan fod angen mwyafrif o ddwy ran o dair er mwyn cymeradwyo cais swyddogol.

Does dim dwywaith y byddai'r Democratiaid Rhyddfrydol yn cefnogi cais swyddogol. Fe fyddai hynny'n ddigon o safbwynt sicrhau'r mwyafrif angenrheidiol ond gyda'r posibilrwydd o lywodraeth Geidwadol yn San Steffan mae'n amlwg bod y llywodraeth am sicrhau cefnogaeth y Torïaid hefyd.

O safbwynt y Ceidwadwyr mae'n debyg y bydd na bleidlais rydd. Serch hynny y disgwyl yw y byddai 'na unfrydedd barn o blaid cynnal referendwm yn yr hydref.


Blwyddyn newydd hwyr

Vaughan Roderick | 09:18, Dydd Mawrth, 12 Ionawr 2010

Sylwadau (4)

Reit. Dyma fi yn ôl felly. Rwy'n casglu bod hi wedi bod yn oer yma!

Dydw i ddim am sgwennu traethawd am fy ngwyliau. Fe wna i adael hynny i ddisgyblion TGAU! Serch hynny, fe ddysgais i ambell i beth tra roeddwn i bant. Dyma rai ohonyn nhw.

1. Mae grym y Saesneg yn gythreulig o anodd i wrthsefyll. Trist oedd clywed hysbysebion radio ym Malaysia yn cymell pobol i ddefnyddio'r iaith genedlaethol. Oes angen dweud taw Saesneg oedd iaith yr hysbysebion?

2. Mae Amgueddfeydd Melbourne yn defnyddio mwy o Gymraeg yn eu hadnoddau rhyngweithiol na rhai Llundain.

3. Mae llywodraeth Tasmania mewn trafferthion yn sgil cwymp arswydus yng nghyraeddiadau addysgol ar yr ynys. Daeth y cwymp yn sgil ddiddymu dosbarthiadau 6 traddodiadol yn er mwyn cynnig "rhagor o ddewisiadau i ddisgyblion 16+". Y plant tlotaf a lleiaf academaidd sydd wedi dioddef fwyaf. Dim ond dweud.

Ta beth mae 'na glasur o flwyddyn wleidyddol o'n blaenau. Fe fydd 'na un, ac efallai dau, etholiad cyffredinol, refferendwm, o bosib, ac mae etholiad cynulliad ar y gorwel. Bant a ni, felly!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.