Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Peidio Pechu Peter

Vaughan Roderick | 10:48, Dydd Mercher, 13 Ionawr 2010

_40094446_peter_hain_203.jpgYdy, mae'n demtasiwn. Mae'r newyddion bod David Taylor wedi ei benodi'n ymgynghorydd i Peter Hain bron yn ddigon i'm mherswadio i ail-gyhoeddi cywaith diwethaf y ddau. Ond na, na, na Delilah, dydw i ddim am wneud!

Ta beth, rwy'n amau bod y penodiad yn dweud rhywbeth am y berthynas agos rhwng cyn-gyflogwr David, Leighton Andrews ac Ysgrifennydd Cymru. Rwyf wedi dweud o'r blaen fy mod yn un o edmygwyr (prin, efallai) David. Rwy'n hoffi pobol sy'n byw a bod eu gwleidyddiaeth hyd yn oed os ydy hynny ar adegau yn eu harwain ar gyfeiliorn!

Heb os fe fydd y swydd at ddant David ond go brin y bydd e'n para'n hir yn NhÅ· Gwydr. Beth bynnag yw canlyniad yr etholiad cyffredinol mae'n weddol amlwg bod dyddiau Peter Hain fel Ysgrifennydd Cymru wedi eu rhifo.

O gofio hynny ac o gofio maint ei fandad mae ymdrechion Carwyn Jones i osgoi brifo teimladau Peter Hain braidd yn rhyfedd. Ond peidio brifo'r Ysgrifennydd Gwladol ac aelodau seneddol Llafur eraill yw'r unig esboniad y galla i feddwl amdano am atebion annelwig ac aneglur Carwyn ynghylch geiriad ynghylch refferendwm fydd yn cael ei drafod ar Chwefror y nawfed.

Esgus gwan yw'r angen i "ymgynghori a'r gwrthbleidiau". Mae safbwyntiau'r Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn eglur ac yn hysbys ers tro byd. Mae Carwyn wedi paentio'i hun mewn i gornel os ydy e'n credu y bydd y naill blaid neu'r llall yn rhoi esgus iddo oedi. Os nad yw'r broses staudol i alw refferendwm yn cychwyn ar Chwefror 9fed pleidiau'r llywodraeth, a phleidiau'r llywodraeth yn unig, fydd yn gyfrifol am hynny.

Ta beth am hynny mae'n anodd meddwl am unrhyw eiriad i gynnig yn cefnogi galw refferendwm na fyddai'n gorfodi i'r Prif Weinidog gychwyn y broses yn swyddogol yn unol â Deddf Mesur Llywodraeth Cymru.

Mae union eiriau'r ddeddf yn bwysig. Dyma'r ddau gymal perthnasol.

104 Proposal for referendum by Assembly

(1) This section applies if--

(a) the Assembly passes a resolution moved by the First Minister or a Welsh Minister appointed under section 48 that, in its opinion, a recommendation should be made to Her Majesty in Council to make an Order in Council under section 103(1), and

(b) the resolution of the Assembly is passed on a vote in which the number of Assembly members voting in favour of it is not less than two-thirds of the total number of Assembly seats.

(2) The First Minister must, as soon as is reasonably practicable after the resolution is passed, ensure that notice in writing of the resolution is given to the Secretary of State.

Nawr dywedwch fod y Cynulliad yn cymeradwyo cynnig yn galw am refferendwm eleni. Ydy Carwyn, mewn gwirionedd yn mynd i fynnu nad yw hynny'n golygu bod yn rhaid iddo roi rhybudd ysgrifenedig at Peter Hain? Rili, Carwyn? A beth fyddai ymateb y Llywydd i bwynt o drefn yn gofyn a oedd rheidrwydd ar y Prif Weinidog i ymddwyn yn unol â'r ddeddf?

Mae'n rhyfedd fod gwleidydd sydd ag enw am fod yn "bar saff o ddwylo" wedi rhoi ei hun mewn sefyllfa mor sigledig. Ond efallai na ddylwn ni synnu bod dyfodol cyfansoddiadol Cymru unwaith yn rhagor yn wystl i wleidyddiaeth fewnol y blaid Lafur. Mae hynny wedi bod yn wir am y ganrif ddiwethaf, wedi'r cyfan!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 12:55 ar 13 Ionawr 2010, ysgrifennodd Guto Dafydd:

    Blwyddyn newydd dda, Vaughan - mae'n dda dy gael yn ôl.

    Pam wyt ti'n dweud bod sefyllfa Peter Hain yn sigledig? Be dan ni'n ei weld yng yng Nghymru ydi'r ffigwr yma sydd fymryn yn wahanol i'r AS Llafur Cymreig arferol, ond sy'r un mor unllygeidiog bleidiol â nhw i gyd; y boi sy'n taro ofn i galon gweddill ASau Llafur. Mae'n amlwg o ymddygiad Carwyn fel Prif Weinidog - fel ti'n dweud - mai peidio â'i ypsetio yw unig reol gwleidyddiaeth Llafur.

    Mi fyddai'n ddifyr cael darlun gen ti o sut mae o'n cael ei weld yn San Steffan a beth ydi agwedd y cabinet a Whitehall yn gyffredinol ato.

  • 2. Am 12:59 ar 13 Ionawr 2010, ysgrifennodd Dewi:

    Neu efallai bo Carwyn o ddifrif eisiau siarad a'r Toriaid. Buasai pleidlais unfrydol yn arf arbennig o gryf mewn unrhyw ddadl gyda Mr Hain.

  • 3. Am 14:06 ar 13 Ionawr 2010, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Rwyf o'r farn na fydd PH yn Swyddfa Cymru am yn hir beth bynnag yw canlyniad yr etholiad cyffredinol. Gallai'r Ceidwadwyr eennill yr etholiad wrth reswm, ond pe bai 'na lywodraeth Lafur arall fe fyddai PH, yn fy marn i, naill ai'n cael ei ddyrchafu neu ei ddiswyddo. Gop brin y byddai'n aros yn yr unfan. Kevin Brennan fyddai'r dewis amlwg i swydd Ysgrifennydd Cymru- pe bai'r swydd honno yn parhau i fodoli yn htrach na chael ei chyfuno a swyddi ysgrifennyddion yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.