Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Yr Arglwydd yw fy mugail

Vaughan Roderick | 09:23, Dydd Mawrth, 15 Rhagfyr 2009

Daeth iaith y dafarn i senedd dy Iwerddon yr wythnos ddiwethaf pan ddwedodd aelod y Blaid Werdd Paul Gogarty wrth y dirprwy lefarydd 'lle i fynd', nid unwaith ond ddwywaith. Mi fyswn i'n cynnig y linc i youtube ond gan mai cysgodi yn absenoldeb Vaughan ydwi well i mi beidio cael fy nghydweithiwr i drafferth. Ond drwy chwilota eich hun fe welwch chi fod yr awyr wedi troi'n las.

Fe wnaeth i mi feddwl pa mor annoeth ydi hi ar brydiau i wleidyddion bellhau o'r deunydd ysgrifenedig sydd o'u blaenau. Prin iawn ydi'r achlysuron yn y cynulliad pan mae aelod yn llefaru'n rhydd heb gymorth nodiadau. Pwy sydd yn y gadair yn goruchwilio'r cyfan? Y llywydd, Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas. Ond pe byddai'n dilyn cyfarwyddiadau beibl Ty'r Arglwyddi, 'Lords Companion' mae'n ymddangos na fyddai'n caniatau i aelodau'r cynulliad ddarllen eu cyfraniadau. Mae ymddygiad o'r fath yn

"alien to the custom of the House and injurious to the traditional conduct of its
debates"

https://www.publications.parliament.uk/pa/ld/ldcomp/compso.pdf

Fe ddwedodd un aelod cynulliad wrthai rai wythnosau yn ol bod angen darllen ohewrydd eu bod nhw'n gwneud llawer mwy o gyfraniadau nag aelodau seneddol ac yn aml ychydig iawn o amser mae nhw'n gael i edrych ar yr hyn fydd yn cael ei ddarllen. Felly mae rhai nid yn unig yn gaeth i nodiadau ond nodiadau rhywun arall!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 14:00 ar 15 Rhagfyr 2009, ysgrifennodd DORIS:

    Mae lle i wella a’r ymddygiad ein ACau yn y Siambr. Dwi wedi cwyno o’r blaen am ymddygiad Gwenda ac Eleanor yn ffidlan gyda’u cyfrifiaduron tra bod y person nesa’ atyn nhw’n siarad - ond nid nhw yw’r unig rai o bell ffordd.

    Dwi wedi holi o’r blaen, be ma nhw’n neud a‘u cyfrifiaduron. Pam fod angen cyfrifiaduron yn y siambr o gwbwl. Dwi ddim yn gweld nhw yn y stafelloedd pwyllgor felly pam yn y siambr?

    Mr Llywydd, newch chi ddiffodd y cyfrifiaduron a rhowch lecturn fach o flaen pob aelod fel y gallan nhw osod ‘i nodiadau arni heb orfod dal gafael ar ddarn o bapur tra’n siarad.

    A tra mod i wrthi, ma ise ail gynllunio’r siambr. Mae’r siap yn anghywir, a’r dodrefn yn siomedig o ddi-gynllun a’r cefndir yn edrych yn sigledig. Rhyw naws dros dro sydd i’r lle. Richard Rogers – 2 allan o 10!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.