Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Nice to see you to see you.....

Vaughan Roderick | 13:47, Dydd Mawrth, 15 Rhagfyr 2009

Does na ddim llawer o Gymraeg rhwng y gweinidog iechyd Edwina Hart ag aelodau'r pwyllgor materion Cymreig yn San Steffan. Mae brawddeg agoriadol yr aelod Llafur Martyn Jones tuag ati yn awgrymu hynny. Wrth ei chroesawu ger eu bron yn y senedd dywedodd bod hi'n braf ei chael hi yno (ar ol iddyn nhw fethu droeon o'r blaen) gan ychwanegu "we thought you didn't like us".

Mi roedd na faterion pwysig dan sylw yn y cyfarfod heddiw - y berthynas rhwng llywodraeth Cymru a llywodraeth San Steffan ym maesydd iechyd a thrafnidiaeth. Ond yn ol y gweinidog trafnidiaeth Ieuan Wyn Jones mae'r ffaith fod gwariant yn llai o flaenoriaeth ar ochr Lloegr o'r A483 yn tarfu ar un o brif bolisiau trafnidiaeth llywodraeth y Cynulliad.

Wnaeth un o is- weinidogion trafnidiaeth llywodraeth San Steffan Chris Mole gynnig fawr o gydymdeimlad. Yn yr un modd meddai a fydda' llywodraeth San Steffan ddim yn dweud wrth lywodraeth y cynulliad sut i wario arian ddylai llywodraeth y cynulliad ddim disgwyl llawer o fewnbwn i'r modd mae awdurdodau lleol yn Lloegr yn didoli pres. Awch. Ond tydio ddim yn datrys problemau traffic yr rhai hynny sy'n byw heibio cyffordd 7 yn Yr Orsedd (Rossett).

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 22:41 ar 16 Rhagfyr 2009, ysgrifennodd Bedd Gelert:

    Ie, ond efo bron 9% o pobl Cymru allan o waith, pwy iws yw'r flipin LCO ?

    Wrth gwrs, mae'r 'wags' yn gallu chwarae 'double or quits', trwy ddweud mae eisiau mwy o bwerau arnyn nhw - a cario ymlaen gwastraffu y rhai sydd gyda nhw yn barod.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.