Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Iaith Pawb

Vaughan Roderick | 12:26, Dydd Mawrth, 27 Hydref 2009

tryweryn.jpgI Gymry Cymraeg oedd yn byw yng nghanol yr ugeinfed ganrif roedd clywed canlyniadau'r cyfrifiad diweddaraf yn brofiad arswydus. Fel cloch y llan yn eich galw i angladd roedd y cyhoeddiadau'n brawf bod cyflwr y Gymraeg yn mynd o ddrwg i waeth.

1951; 36.8%
1961; 28.9%
1971; 26%
1981; 18.9%

Fe wnaeth pethau sefydlogi ar ôl 1981. Doedd y Gymraeg ddim yn ddiogel, yn enwedig yn ei chadarnleoedd, ond o leiaf roedd hi wedi dianc o'r "ski slope" dieflig yna.

Yn 2001 fe newidiwyd y cwestiwn iaith er mwyn cydnabod nad oedd y ffin rhwng bod yn Gymraeg ac yn ddi-Gymraeg yn beth cwbl eglur ac i gymryd i ystyriaeth pobol oedd yn siarad neu'n deall rhyw faint o Gymraeg. Yn ôl y cyfrifiad hwnnw roedd hyd at 28% o boblogaeth Cymru a rhyw fath o grap ar y Gymraeg.

Gadewch i ni droi at arolwg Aber/YouGov. Mae'r canran sy'n dweud eu bod yn rhugl yn y Gymraeg yn 18% tra bod 24% yn dweud eu bod yn medru rhyw faint o Gymraeg. Nawr mae arolygon barn wastod yn cofnodi nifeoredd uwch o siaradwyr Cymraeg na'r cyfrifiad ond mae 42% yn ffigwr anhygoel o uchel. Rhyw 30% yw'r ffigwr arferol. Mae'r un ffenomen wedi ymddangos mewn arolygon barn eraill yn ddiweddar. Er engharifft, yn arolwg Â鶹ԼÅÄ Cymru yn gynharach eleni 35% oedd y ffigwr.

Go brin bod sgiliau ieithyddol pobol Cymru wedi newid rhyw lawer yn ddiweddar. Yr hyn sydd wedi newid, o bosib, yw canfyddiad pobol ohonyn nhw eu hun. Mae'n ymddangos bod mwy o bobol yn ystyried ei hun yn Gymry Cymraeg o ryw fath neu yn dymuno cael eu hystyried felly.

Os ydy'r arolygon yn gwyir rydym yn agos iawn at sefyllfa lle mae mwyafrif o bobol sydd wedi eu geni a magu yng Nghyrmu yn ystyried eu hun yn Gymry Cymraeg i ryw raddau ac felly yn ddefnyddwyr posib i wasnaethau Cymraeg. Os ydy'r patrwm yna yn parhau gallai holl ddynamig y ddadl wleidyddol ynghylch yr iaith newid.

Yn sicr fe ddylai ambell i wleidydd ystyried p'un ai ydy colbio'r iaith yn dacteg effeithiol y dyddiau hyn.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 13:31 ar 27 Hydref 2009, ysgrifennodd ioan:

    "...tra bod 24% yn dweud". 42% ia?

  • 2. Am 13:55 ar 27 Hydref 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    18 yn rhugl + 24 yn siarad rhywfaint yn gwenud cyfanswm o 42

  • 3. Am 14:41 ar 27 Hydref 2009, ysgrifennodd Dewi:

    Ond surely ma bod yn rhugl yn cyfri fel "siarad rhywfaint"?

  • 4. Am 16:22 ar 27 Hydref 2009, ysgrifennodd Hogyn o Rachub:

    Swni'n feddwl bod 'siarad rhywfaint' yn golygu siarad Cymraeg ond ddim yn rhugl, Dewi!

    Mae 42% yn swnio'n hurt o uchel, fodd bynnag, 'does 'na ddim dwywaith am hynny. Tasa'r ffigur yn wir (am wn i ddim pam na fyddai o ran yr arolwg penodol hwn), er na fyddai'n gynrychioliadwy o gwbl yn fy marn i, mae'n eithaf diddorol bod Plaid Cymru dim ond ar 15%, er yn ôl fy nealltwriaeth i gwnaeth y Blaid yn dda ymhlith siaradwyr rhugl (fawr o sioc!). Ond tybed wir a ydi hynny'n arwydd bod y Blaid, er gwell neu waeth, yn dechrau apelio llai i Gymry Cymraeg?

  • 5. Am 18:08 ar 27 Hydref 2009, ysgrifennodd William:

    Diddorol iawn. Fe ddois ar draws hwn gan iddo gael ei bostio ar grwp siaradwyr Cymraeg Linked IN o'r enw "MEWN Cymraeg". Gweler i ymuno.

    Os modd canfod yr arolwg Aber/YouGov yma ar y we yn rhywle?

  • 6. Am 18:11 ar 27 Hydref 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Mae'r arolwg yn fan hyn;

  • 7. Am 18:49 ar 27 Hydref 2009, ysgrifennodd William:

    Cyffrous tu hwnt. 42% yw'r rhif cywir - h.y. nid yw'r 18% yn rhan o'r 24% fel yr oedd Dewi wedi amau yn gwbl rhesymol. Un peth dwi wedi sylwi sy'n arf pwysig wrth geisio dwyn perswad ar gwmniau mawrion i ddefnyddio'r Gymraeg yw bod y canran o bobl ABC1 sydd yn rhugl yn y Gymraeg bron ddwywaith gymaint a rhai sydd o grwpiau cymdeithasol-economaidd C2DE (24% o'i gymhaur a 13%). Dim ond 50% o rai ABC1 sydd yn methu siarad Cymraeg yn llwyr.

    Gwelir hefyd, bod 25% o'r rhai ABC1 sydd yn medru Cymraeg yn gwneud hynny "All or most of the time" o'i gymharu a 11% o grwpiau C2DE.

    Tydi hyn ddim yn fy synnu mewn gwirionedd - dwi'n cofio fy nhad yn dweud bod y Gymraeg wedi newid o fod yn iaith y gegin i iaith y parlwr.

    Serch hynny, mae gweld hyn yn cael ei gadarnhau mewn arolwg o'r fath yn awgrymu hyn bod y Gymraeg yn erfyn marchnata llawer iawn pwysicach nac yr oeddwn innau yn ei feddwl, heb son am beth oedd y cwmniau yn ei feddwl. Os ydi cwmniau eisiau cyrraedd y dosbarch canol Cymreig, mae cyfathrebu yn ddwyieithog yn debygol iawn o fod yn help mawr iddynt drechu eu cystadleuwyr.

  • 8. Am 18:54 ar 27 Hydref 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Fi oedd ar fai am y dryswch mae gen i ofn. Fe ddylwn wedi dweud "yn siarad rhyw faint ond heb fod yn rhugl" yn y lle cyntaf. Sori, bawb!

  • 9. Am 20:31 ar 27 Hydref 2009, ysgrifennodd Azariah:

    Cadarnhaol ynte camarweiniol?
    Efallai taw'r rhai wnaeth cymryd y Gymraeg yn yr ysgol fel ail iaith yw'r rhan fwyaf o'r 24 y cant sy'n medru rhyfaint o Gymraeg. Mwy na thebyg dyn nhw ddim yn ei harfer o gwbl. Gaf i awgrymu nad yw nifer sylweddol o'r 18 y cant o Gymry Cymraeg ddim yn ei defnyddio yn rheolaidd chwaith?

  • 10. Am 21:06 ar 27 Hydref 2009, ysgrifennodd Rhys:

    Tra roedd bwriad pleidleisio yn amrywio cryn dipyn rhwng y siaradwyr Cymraeg a'r di-Gymraeg, mae'n diddorol gweld (os ddehonglais i o'n gywir) nad oes gwahaniaeth rhwng y ddau grwp yn eu hagweddau tuag at y Cynulliad a datganoli, h.y. roeddynt yn ei weld yn bositif.

  • 11. Am 21:47 ar 27 Hydref 2009, ysgrifennodd Tua'r gorllewin:

    Yn yr ysgol benodedig Gymraeg lle roeddwn yn dysgu, mae 100% o'r disgyblion i'w gweld yn siarad Cymraeg. Mewn gwirionedd, dim ond tua 30% o'r disgyblion a ddymunai, ac y llwyddai i , gynnal sgwrs. Mae'r rhan fwyaf o'r 'dysgwyr' yn colli'r iaith yn fuan iawn ar ol gadael yr ysgol. Petai addysg Gymraeg yn llwyddo fel yr ydym yn honni, buasai ysgolion Cymraeg y de ddwyrain yn cynhyrchu llenor ar ol llenor, bardd ar ol bardd , ayb. Peidiem a choelio ein propaganda ein hunain. Dim ond drwy gynnal yr iaith fel gwir iaith gymunediol yn y Fro Gymraeg mae ei
    chadw'n fyw.

  • 12. Am 22:14 ar 27 Hydref 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Yn gyfoedion i mi yn fy ysgol Gymraeg yn y de-ddwyrain yr oedd y bardd Gwyneth Lewis, y bardd ac ymrysonwr, Emyr Lewis, y dramodydd Siwan Jones, y cerddor Delwyn Sion, a'r cyfarwyddwr ffilm Marc Evans. Llenor ar ôl llenor, bardd ar ôl bardd. Jyst dweud!

  • 13. Am 06:29 ar 28 Hydref 2009, ysgrifennodd William:

    Parthed sylw Azariah, mae faint o ddefnydd a wneir o'r Gymraeg gan yr amryw bobl a holwyd yn yr arolwg. Er mwyn cyfleustra, dyma'r ddolen eto:

  • 14. Am 10:19 ar 28 Hydref 2009, ysgrifennodd Ta'r gorllewin:

    Vaughan, heb fychanu cyfraniad na chyrhaeddiad dy gyfoedion (na thithau),
    yr ydych oll yn eich 50' au bellach, ac yn gynnyrch oes aur Rhydfelen. Yr oedd yr ysgol yma gydag athrawon ymroddedig, cenedlaetholgar oedd yn hufen
    eu proffesiwn. Bellach , mae'r hufen yn denau, gyda'r athrawon ei hunain yn siarad bratiaith mewn sawl achos.
    Mae'r twf mewn niferoedd yn anhygoel. Ni adlewyrchwyd hyn yn ein diwylliant nac yn ein gwleidyddiaeth .

  • 15. Am 10:50 ar 28 Hydref 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Rwy'n detbyn y pwynt ynghylch ein athrawon- er fy mod wedi rhoi cythrau o amser drwg i rai onhnyn nhw!!!

  • 16. Am 12:49 ar 28 Hydref 2009, ysgrifennodd Welbru:

    William - mae gen i ofn y byddi di'n rhoi mwy o esgusodion i'r gwrth-Gymreig ddweud bod yne elit Cymraeg a bod y di-Gymraeg yn dioddef oherwydd cefnogaeth i'r Gymraeg (y rheini sydd ar dudales Bestran er enghraifft).

    Ta'r gorllewin, dwi'n cytuno i raddau am ysgolion Cymraeg. Maen'r rhaid i ni ofyn beth ydy gwerth cynydd yn yr iaith os ydy'r safon yn isel iawn. Mae'n bosib y byddai dysgu Cymraeg fel pwnc mewn ffordd arbennigol iawn yn fwy defnyddion, hyfforddi athrawon teithiol i fynd o amgylch ysgolion Saesneg er enghraifft. Mae'n hollol wirion disgwyl i athrawon di-Gymraeg ddysgu mymryn o Gymraeg a phasio hwnnw ymlaen i blant fel sydd i weld yn digwydd mewn ysgolion cynradd Saesneg ar y funud. Hefyd, mi fuaswn i'n meddwl bod y bobol mae Vaughan yn sôn amdanyn nhw yn dod o deuluoedd llei mae o leiaf un nain neu daid neu rywun yn siarad Cymraeg.

  • 17. Am 13:54 ar 28 Hydref 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Welbru, Fel mae'n digwydd rhyw foi o'r enw Saunders Lewis oedd tad-cu Siwan Jones. Rwy'n meddwl bod rhyw faint o Gymraeg da fe!!!

  • 18. Am 18:28 ar 28 Hydref 2009, ysgrifennodd welbru:

    "Saunders Lewis oedd tad-cu Siwan Jones"
    yn hollol, dim plentyn ail-iaith felly.

    Gallech chi gymharu efo Rhydian y canwr x-factor. Os ydw i'n gywir mi aeth i ysgol uwchradd Saesneg (ysgol gynradd Gymraeg efallai?) ond mae ei Gymraeg, er nad yn berffaith, yn well na Chymraeg llawer a aeth i ysgolion Cymraeg drwy gydol eu bywydau. Mae yna glip ar Youtube ble mae o'n cywiro Jonathon Davies ar ei raglen Cymraeg.

  • 19. Am 20:40 ar 28 Hydref 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Tir peryglus yn fan hyn! Mae Rhydian o Bont Senni lle mae gen i deulu! Dydw i ddim am bechu neb! Fe aeth Rhydian i Ysgol Gynradd y Bannau yn Aberhonddu sydd yn Ysgol Gymraeg ac yna i Goleg Llanymddyfri sy'n ysgol breifat. Mae 'na ddigon o Gymry Cymraeg amlwg sy'n gyn-ddisgyblion Llanymddyfri ond dydw i ddim yn gwybod rhyw lawer am falens ieithyddol yr addysg yno.

  • 20. Am 23:19 ar 28 Hydref 2009, ysgrifennodd William:

    Parthed y sylw uchod, efallai bod y ffaith bod canran llawer uwch o siaradwyr Cymraeg yn perthyn i grwpiau ABC1 yn rhoi mwy o esgusodion i'r gwrth-Gymreig ddweud bod yna elit Cymraeg ayb, ond mae'n help mawr i'r iaith oroesi os yw hi'n cael ei gweld fel "ticket to ride" - h.y. fel iaith dod ymlaen yn y byd. Y pris yw dalu am hynny yw'r cyhuddiad bod yr iaith yn elitaidd, a'r ateb ydi rhoi'r cyfle i blant pawb ddysgu'r iaith.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.