Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Bant a ni

Vaughan Roderick | 08:32, Dydd Mawrth, 27 Hydref 2009

_44677238_ballotbox_bbc226.jpgMae'n hanner awr wedi wyth ac mae'r cyffion wedi eu cymryd oddi ar ein traed ynghylch arolwg barn Aber/YouGov. Dydw i ddim am atgynhyrchu'r ystadegau i gyd ond mae 'na gymaint o bethau diddorol i drafod mae'n debyg y bydd na fwy nac un post ynghylch hyn yn ystod y dydd heddiw!

Y peth cyntaf sy'n fy nharo i yw cymaint o gawr gwleidyddol yw Rhodri. Mae 63% o'r panel yn credu ei fod yn gwneud gwaith da fel Prif Weinidog a dim ond 19% yn credu ei fod yn gwneud jobyn gwael. Mae hynny'n yn farc o +44% sy'n ffigwr anhygoel i rhyw un sydd wedi bod mewn grym am ddeng mlynedd. Cymharwch hynny a'r -24% y mae Gordon Brown yn ei dderbyn!

Mae marciau rhai o wleidyddion eraill y cynulliad hefyd yn ddiddorol er bod o gwmpas hanner y panel wedi ateb "dim yn gwybod" i'r cwestiynau ynghylch p'un ai y byddai'r gwleidyddion a ganlyn yn brif weinidogion da ar Gymru ai peidio. Mae un gwleidydd pen ac ysgwydd yn uwch na'r gweddill a Carwyn Jones yw hwnnw. Dyma'r sgoriau'r ymgeiswyr i olynu Rhodri fel arweinydd Llafur.

Carwyn Jones +18
Huw Lewis +3
Edwina Hart -1

Gallwch ddisgwyl i bobol Carwyn wneud mor a mynydd o'r canlyniad yna yn enwedig gan fod 24% o bleidleiswyr Llafur yn credu na fyddai Edwina yn brif weinidog da! Mae'n werth nodi hefyd bod Carwyn yn rhyfeddol o boblogaidd ymhlith cefnogwyr Plaid Cymru. Mae 51% o'i chefnogwyr yn credu y byddai Carwyn yn brif weinidog da. Dim ond 44% o gefnogwyr Llafur sy'n credu hynny!

Mae canlyniadau arweinwyr y pleidiau eraill hefyd yn ddiddorol.

Ieuan Wyn Jones +8
Kirsty Williams -2
Nick Bourne -12

Os ydy cefnogwyr Plaid yn dwli ar Carwyn mae cefnogwyr Llafur yn twymo tuag at Ieuan. Roedd 36% o bobol y blaid Lafur yn credu y byddai arweinydd Plaid Cymru'n brif weinidog da. Dim ond 26% oedd yn credu i'r gwrthwyneb.

Does gen i ddim byd llawer i ddweud am y cwestiynau ynghylch bwriadau pleidleisio. Mae'r ffigyrau ynghylch San Steffan wedi bod o gwmpas ers rhai oriau ac mae nhw'n awgrymu bod Cymru mwy neu lai yn dilyn yr un patrwm a'r polau Prydeinig ar lefel seneddol. Mae'r patrwm yn wahanol yn y cynulliad. Dyma'r ffigyrau. Y bleidlais etholaeth yw'r ffigwr gyntaf a'r bleidlais ranbarthol yw'r ail.

Llafur ; 32% 30%
Ceidwadwyr ; 25% 27%
Plaid Cymru; 24% 21%
Dem. Rhydd; 12% 11%
Eraill 7% 12%

Mae hynny'n reit debyg i 2007 gyda Llafur a'i thrwyn ar y blaen a'r Ceidwadwyr a Phlaid Cymru yn cwffio am yr ail safle. Mae patrwm aml-bleidiol y cynulliad yn weddol sefydlog erbyn hyn.

Deng neu hyd yn oed pum mlynedd yn ôl fe fyddai ffigyrau fel 'na wedi ysgwyd dyn. Erbyn hyn maen nhw'n normal. Does dim gobaith cath i unrhyw blaid ennill mwyafrif yn 2011.

Un ystadegyn anhygoel i orffen. Mae 52% o'r panel yn ymddiried yn aelodau'r cynulliad i ymddwyn mewn modd gonest a didwyll. Dim ond 19% sy'n ymddiried mewn Aelodau Seneddol i wneud hynny.

Holwyd 1,078 o oedolion. Hydref 21-23.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 08:45 ar 27 Hydref 2009, ysgrifennodd Hogyn o Rachub:

    Bora da Vaughan! Oes 'na ddolen ar gael i weld y canlyniadau?

  • 2. Am 09:10 ar 27 Hydref 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Dydw i ddim yn gwybod... ar fy ffordd o Landaf i'r Bae ar y funud. Mi wna i ofyn.

  • 3. Am 09:59 ar 27 Hydref 2009, ysgrifennodd FiDafydd:

    Dim byd annisgwyl mae'n wir. O'm rhan i, diddorol yw gweld cefnogaeth i Ieuan Wyn yn cynyddu'n raddol - da iawn - bod mwy o ymddiriedaeth yng ngonestrwydd aelodau'r Cynulliad na chriw San Steffan - da iawn - a bod pethau'n edrych yn ddu iawn ar y Democratiaid Rhyddfrydol yng Ngheredigion -DA IAWN!

  • 4. Am 12:44 ar 27 Hydref 2009, ysgrifennodd Dewi:

    "Mae 63% o'r panel yn credu ei fod (Rhodri Morgan) yn gwneud gwaith da fel Prif Weinidog a dim ond 19% yn credu ei fod yn gwneud jobyn gwael"

    Mae'n anhygoel bo poblogrwydd mor uchel gan arweinydd sy wedi preswylo dros ddiflaniad hegemoni ei Blaid a'r canlyniadau etholaethol gwaethaf ers 1918. Buasai'n ddiddorol i ddarllen unrhyw sylwadau ar y mater gan gefnogwyr Llafur. Oes yna rhai sy'n darllen Vaughan?

  • 5. Am 15:53 ar 27 Hydref 2009, ysgrifennodd Daniel:

    Mae'r gefnogaeth i Ieuan yn codi'n raddol, ydi, ond dychmygwch beth fyddai'r darlun pe bai gan Blaid Cymru arweinydd carismataidd, eang ei h/apel. Mae'r Ceidwadwyr wedi goddiweddid Plaid Cymru ar lefel y cynulliad, a hynny mewn cyfnod pan fo'r gwynt yn hwyliau cenedlaetholdeb lleiafrifol (ee. Yr Alban) , a pleidlais y blaid Lafur yn dymchwel. Mae Plaid Cymru ar hyn o bryd yn colli cyfle hanesyddol.

  • 6. Am 16:46 ar 27 Hydref 2009, ysgrifennodd FiDafydd:

    Re 5

    Digon teg. Ond dwi'n tueddu i feddwl fod Llafur a Phlaid yn dal i ymladd am yr un bobl yn y bôn, sy'n gadael y traean-ish sydd fwy neu lai yn geidwadol/Doriaidd. Fe ddylai'r Blaid allu ennill mwy o bleidleisiau Llafur erbyn hyn, mae'n wir.

    Dwi'n deall y pwynt am arweinydd carismataidd fodd bynnag. Mae'n ymddangos ein bod ni wedi bod yn aros am y Mab Darogan ers canrifoedd!

  • 7. Am 10:26 ar 28 Hydref 2009, ysgrifennodd Geraint:

    Paid a phoeni; mae o ar 'i ffordd. Gad iddo gael gwylia bach ym America gynta.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.