Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Taflu cerrig

Vaughan Roderick | 12:18, Dydd Gwener, 17 Ebrill 2009

Roeddwn i'n ceisio bod mor garedig â phosib ynghylch gobeithion etholiadol y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru ar "Post Cyntaf" a "Good Morning Wales" heddiw ac wedyn dyna Nick Clegg yn fy nghyhuddo o fod yn negyddol a phesimistaidd. Dwyt ti ddim wedi gweld dim byd eto, gwd boi!

Ta beth, rwyf wedi arfer ac ymosodiadau gan wleidyddion yn ddiweddar. Efallai eich bod chi'n cofio Rhodri Morgan yn rhoi clatsied i mi bythefnos yn ôl ynghylch fideo Delilah. Gwnes i ddim crybwyll y peth ar y pryd ond roedd e hefyd yn grac da fi am gwestiwn arall yn yr un gynhadledd newyddion.

Yn sgil methiant Cymdeithas Adeiladu Dunfermline gofynnais iddo oedd y llywodraeth wedi cysylltu â'r "Principality", sefydliad ariannol mwyaf Cymru, i sicrhau nad oedd y gymdeithas honno'n wynebu trafferthion. Gan fod tair cymdeithas o tua'r un faint a'r "Principality" wedi methu neu wedi cael eu traflyncu yn ystod y misoedd diwethaf roeddwn yn teimlo bod y cwestiwn yn un digon teg. Doedd y Prif Weinidog ddim yn cytuno. Roedd y cwestiwn yn "absẃrd" meddai.

Diddorol felly oedd gweld y pennawd yma yn y Western Mail heddiw.

""

Efallai bod hi'n sioc i Rhodri. Doedd hi ddim yn sioc i fi!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 14:23 ar 17 Ebrill 2009, ysgrifennodd Ci Coch:

    Mae gan Rhodri Morgan habit o fwlio newyddiadurwyr sy'n gofyn cwestiwn iddo. Ei dacteg yw:

    1. Bwlio/bychannu cwestiwn yr holwr.

    2. Malu awyr am hydoedd er mwyn llyncu hyd y cyfweliad (3 munud fel rheol) gan beidio rhoi cyfle i'r newyddiadurwr ofyn cwestiwn arall.

    Yn anffodus, mae'r rhan fwyaf o newyddiadurwyr yn gadael iddo gael get-awe dro ar ol tro.

  • 2. Am 22:42 ar 17 Ebrill 2009, ysgrifennodd Owain :

    Cytuno'n llwyr Ci Coch.

    Gobeithio na fydd olynydd Rhodri Morgan run peth na fo. Fydd hi'n ddiddorol IAWN gweld Edwina Hart yn ateb cwestiynau gan gang y wasg y cynulliad a'r wasg a thu hwnt.

  • 3. Am 23:34 ar 17 Ebrill 2009, ysgrifennodd Huw Waters:

    O be dwi'n dallt, mae graddio Y Principality wedi newid o AAA i A-. Y cam o danodd yw B. Os yw hyn yn digwydd, ene mae'n golygu na fydd y sefydliad yn gallu derbyn pres gan y llywodraeth i'w diogelu. Mae hyn yn rhoi'r gymdeithas adeiladu o dan fygythiad o gael ei brynnu gan bobol erill - diwedd annibynniaeth un o sefydliadau mwyaf Cymru.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.