Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

OwainBevan (6)

Vaughan Roderick | 19:31, Dydd Mercher, 1 Ebrill 2009

Mae'n rhaid bod y post diweddara ar yn gellweirus. Mae'n hysbysebu cyfrol am y gwersi i Brydain o fuddugoliaeth Obama ac mae'n cynnwys y sylw yma.

"As an Obama-inspired project, Aneurin Glyndwr highly recommends this new book"

Fedrai ond dyfynnu Darren Millar "Not so much an Obama moment as an Oblimey one!"

Cafwyd ambell i gais i gyhoeddi'r ffilm o gynhadledd newyddion Rhodri ddoe. Mae peth o'r sain ar gael yn barod trwy wrando ar "Good Evening Wales" neithiwr ar i-Player. Mae'r clip yn cael ei chware oddeutu 17.35. Rydym yn dal nôl ar y lluniau am y tro oherwydd ei bod yn bosib y bydd Dragon's Eye yn dychwelyd at y stori yma yfory- yn fwyaf arbennig at honiad Rhodri nad oedd yn gwybod am y wefan o flaen llaw a bod y Â鶹ԼÅÄ yn ddrygionus trwy awgrymu hynny. Dyma'r union eiriau. Yn Saesneg y gwnes i ofyn y cwestiwn.

Vaughan; "Do you regret giving a quote to the website and have you asked the people behind it to apologise to the Deputy First Minister?"

Rhodri Morgan; Let this be the only further question on the website. Look, let's be clear. There was no advance authorisation or awareness on my part or the Secretary of State's part or Labour Party Wales' part of the plans to develop this website. None whatsoever. So the website was developed by a team of Labour supporters as a way of getting into new media engagement...a lot of excitement after the Obama election victory and everyone says "oh isn't it brilliant the way they've done the new media engagement the way they've got all these websites springing up from everywhere" and you know they've had a go at doing it. Now,you know, we were not aware they were doing it, didn't approve the contents, weren't aware of the contents, style or anything whatsoever. So you know that's all I can say.

Vaughan; But you gave them the quote. You gave them the quote.

Rhodri Morgan; Pardon?

Vaughan; You gave them a quote. They quote you on the website.

Rhodri Morgan; Yeah, but its very naughty of the Â鶹ԼÅÄ to imply that quote could be construed by anybody as implying approval or endorsement of the content or the style of the website. Since I haven't seen it or read it or had any foreknowledge of it it is very very naughty to imply that the content or style of it has in some way been endorsed by me. Now it hasn't nor by the Secretary of State nor by the Labour Party Wales. Now that's it. This is not about the website this morning. I've said what I've got to say and I've criticised the media for implying I'm associated with this content. I am not associated with this this content and that's it as far as I'm concerned. OK. Least said soonest mended. That's the only question on the website. I'm not going to say any more about it. this is not about the website. this a government press conference not a party press conference, ok?"

Mae 'na ambell i beth i nodi yn fan hyn. Nid gwadu mae Rhodri ei fod yn gwybod am y fideo neu am y gan "Delilah". Mae'n gwadu ei fod yn gwybod unrhyw beth am y wefan yn ei chyfanrwydd. Hynny er iddo gynnig dyfyniad i'r safle bod AG yn "website to watch".

Y broblem yw hyn. Mae sawl ffynhonnell ddibynadwy wedi cadarnhau wrth y Â鶹ԼÅÄ bod swyddfa Rhodri a phobol yn agos ato yn ymwybodol o'r wefan ac mae un ffynhonnell (uchel iawn yn y Blaid Lafur) yn benderfynol bod y Prif Weinidog ei hun yn gwybod am y cynlluniau o flaen llaw. Yn ol un ffynhonell mae llawer o bobol yn esgus gwybod llai nac oedden nhw ac mae 'na ddicter bod David Taylor yn gorfod ysgwyddo'r bai.

Mae 'na dri phosibilrwydd. Yn gyntaf bod ystod eang o bobol yn dweud celwydd wrth y Â鶹ԼÅÄ ac mae hynny'n annhebyg. Yn ail mae'n bosib bod Rhodri ei hun yn camarwain y wasg a'r partneriaid llywodraethol. O nabod y dyn dwi'n ffeindio hynny yn anodd credu. Yr esboniad mwyaf tebygol, yn fy nhyb i, yw bod Rhodri wedi drysu rhwng y fideo a'r wefan ac mae ceisio gwadu unrhyw wybodaeth am "Delilah" oedd ei fwriad yn hytrach nac unrhyw wybodaeth am y safle.

Dyma oedd gan Peter Hain i ddweud heno.

"Mae'r cyfan sy' da ni i ddweud ar y wefan"

A beth sydd ar y wefan o hyd?

"This brand new political website is definitely one to watch!"
- Rt Hon Rhodri Morgan AM, First Minister for Wales

Mae angen i'r Prif Weinidog glirio'r awyr.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.