Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Bournewatch (6)

Vaughan Roderick | 21:16, Dydd Iau, 18 Rhagfyr 2008

Dyma'r datganiad diweddaraf gan Nick Bourne

"Although the purchase of these iPods was within the rules of the Assembly and authorised by the Fees Office, I recognise the perception that this expenditure was inappropriate. Alun Cairns and I have decided therefore to reimburse the National Assembly for these items in addition to the charitable donations we have made. We apologise to the people of Wales and look forward to the results of Sir Roger Jones' inquiry into Assembly Members allowances"

Clyfar... ond ar ei hol hi braidd.

Mae'r symudiad yma gan Nick yn un craff am nifer o resymau.

Yn gyntaf, mae'n ceisio sicrhâi mai cwestiwn cul ynghylch iPod sy'n cael ei drafod ac felly y bydd "mea cwlpa" bach ynghylch hynny yn ddigon i ddarbwyllo pobol i anghofio am y bathrwm, y "trouser press" ac eraill o'r treuliau y mae wedi eu hawlio. Yn ail (ac eto trwy ganolbwyntio ar yr iPod) mae'n ceisio clymu ei gyd-aelod Alun Cairns i fewn i'r stori. Mae hynny'n rybudd efallai i Geidwadwyr eraill nad yw Nick yn fodlon cerdded y planc heb fynd ac eraill gyda fe.

Nid yn aml y mae dyn yn dyfynnu Jeremy Thorpe y dyddiau 'ma ond am ryw reswm mae ei ymateb i benderfyniad Supermac i roi'r sac i hanner ei gabinet yn 1962 yn teimlo'n addas "Greater love than this hath no man, that he lay down his friends for his life"

A fydd y datganiad diweddaraf yma'n gweithio?

Wel yn gyntaf mae'n rhaid ystyried pa mor gyflym y mae sefyllfa Nick yn dirywio. Diwrnod yn unig sy 'na ers iddo fe (ac Alun) gredu y byddai cyfraniadau elusennol yn ddigon i dawelu'r dyfroedd.

Mae ail symudiad o fewn pedair awr ar hugain yn awgrymu un o ddau beth. Naill ai mae pethau'n troi'n banig llwyr yn swyddfa arweinydd yr wrthblaid neu mae 'na ymdrech fwriadol i "gyfri'r cloc i lawr" tan y Nadolig. Os mai dyna yw'r bwriad mae'n debyg o lwyddo ond fe fyddai dychmygu bod hynny'n gyfystyr a rhoi terfyn ar y stori yn freuddwyd gwrach. Fel mae'n nhw'n dweud "dewch yn ôl aton ni wedi'r toriad..."

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 07:34 ar 19 Rhagfyr 2008, ysgrifennodd Dan Din:

  • 2. Am 10:25 ar 19 Rhagfyr 2008, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Diolch Dan mae honna'n haeddu post!

  • 3. Am 11:49 ar 19 Rhagfyr 2008, ysgrifennodd bochgoch:

    O diar, ma pethe’n mynd o ddrwg i waeth. Dy ni wedi cyrraedd cyfnod y talu nol. Does dim stop nawr. Y trouser press a’r door stop fydd nesa’ wedyn y bathrwm. Pam fod y bathrwm yn costio cymaint? Tapiau aur? Teils drudfawr? Bath i ddau? Jac-huwsi? Fel arfer bydde gen i ddim diddordeb o gwbwl ym mathrwm Nick Bourne ond y tro hwn gan mai chi a fi sy’n talu dwi ise gwybod beth oedd yn bod a'r un oedd ganddo fe cynt ac ar beth yn union wnaeth e’ wario £5000.

    Wedyn beth am y lleill? Talu nol am y poppy wreath yn sicr ac ambell gamera drud. A pham mae rhai o’r aelodau yn fytwrs harti ac eraill ddim.

    Tymor ewyllys da – tymor y talu nol.

  • 4. Am 15:13 ar 19 Rhagfyr 2008, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Bochgoch, Mae'n flin gen dy fod wedi cael trafferthion wrth bostio ymateb. Dyw'r system ddim yn berffaith. Yn amlach na pheidio y rheswm am arafwch ymatebion i ymddangos yw fy mod yn gorfod eu cymedroli fy hun. Gobeithio wrth i ragor o flogs gael eu hychwanegu at y gwasnaeth arlein y byddwn gallu sicrhai trefn mwy effeithlon.

  • 5. Am 15:58 ar 19 Rhagfyr 2008, ysgrifennodd bochgoch:

    Nid y cymedroli sydd ar fai ond y blincyn rhifau a'r llythrennau ar waelod y tudalen sy'n rhaid eu copio cyn anfon neges. Yn gyntaf nid ydynt bob amser yn ddigon eglur i''w dehongli'n gywir ac ar adegau hyd yn oed os yw'r copio yn gywir mae'r neges yn cael ei wrthod ac yna yn cael ei golli. Efallai mai dyma'r rheswm fod cyn lleied o sylwadau'n cael eu gadael ar y blog. Oes 'na eraill wedi cael yr un trafferth neu jest fi sy'n lletwith.
    Henaint falle!

    Os daw'r neges yma drwodd dyma fydd y pumed tro i mi drio - nid henaint sydd ar fai am hynny.

  • 6. Am 17:32 ar 19 Rhagfyr 2008, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Fe wnai godi'r pwynt da'r bobol berthnasol ond mae nhw i ffwrdd tan ar ol y Nadolig!

  • 7. Am 20:20 ar 19 Rhagfyr 2008, ysgrifennodd Dai :

    Dwi wedi cael yr un trafferth bochgoch....mor anodd ddeall ambell i lythyren/rhif.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.