Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Bournewatch (5)

Vaughan Roderick | 18:44, Dydd Mercher, 17 Rhagfyr 2008

Diawch mae'r ffliw 'ma'n wael. Dydw i ddim wedi gallu bwyta ers tridiau. Diolch i Â鶹ԼÅÄ1 am godi fy ngalon trwy ddangos ferswin newydd o "Survivors"!

O leiaf dw i wedi cyrraedd y gwaith heddiw. Chwi ffyddloniaid CF99, a fywswn i'n eich gadael chi lawr?

Ble felly mae pethau'n sefyll da'r Ceidwadwyr?

Wel fe fydd penderfyniad y Western Mail i glustnodi tudalennau un i dri ar gyfer galwad ar Nick Bourne i sefyll lawr yn glatsien drom iddo. Dydw i ddim yn gwybod pwy wnaeth ddweud wrth Glyn Davies wythnos yn ôl y byddai'r stori hon yn "next week's chip wrapper" ond gallan nhw ddim bod yn fwy anghywir. Cofiwch chi, os nad ydych yn gwybod ei fod wedi bod yn anghyfreithlon i lapio chips mewn papur newydd ers rhai degawdau bellach mi ydych chi allan o gysylltiad braidd, yn ddigon all o gysylltiad efallai i gredu bod hi'n gymwys i hawlio treuliau am iPod a trouser press.

Nawr mae 'na rai sydd yn dweud bod yr helynt yma i gyd yn gwrw bach a bod gwleidyddion a newyddiadurwyr yn chwarae gemau plant bach yn fan hyn.

Coeliwch neu beidio dydw i ddim yn anghytuno. Ond dyma fel y mae gyrfaoedd gwleidyddol yn dod i ben wrth i rywbeth bach wthio aelodau plaid i weithredu yn erbyn ei harweinydd. Does 'na ddim rheswm i Nick flocio cais Jonathan Morgan am gyfarfod grŵp- ac eithrio'r ffaith ei fod yn synhwyro beth fyddai canlyniad y cyfarfod hwnnw.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 12:07 ar 18 Rhagfyr 2008, ysgrifennodd Ceri Williams:

    Diwrnod drist os bydd y Ceidwadwyr yn wfftio Nick, achos mae'n fwy ar y chwith, a bydd y grwp yn symud i'r dde.
    Wrth gwrs, dyna beth mae Plaid a Martin Shiption eisiau - i creu mwy o gwahaniaeth rhyngddynt cyn etholiad.
    Ond mae rhaid i Nick hefyd maddau ei bod wedi rhedeg gwrthblaid eitha annghyfrifol, yn galw am gweinidogion i ymddiswyddo pob wythnos, yn defnyddio'r newyddiadurwyr (yn cynnwys Martin Shipton) i creu man stwrion dros pethau bach, yn ceisio tywallt olew ar rhyw dadl bach personol neu proses pob tro. You live by the sword - you die by the sword, ynte?

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.