Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth

Archifau Ebrill 2008

Ceiniogau prin

Vaughan Roderick | 23:59, Dydd Mercher, 30 Ebrill 2008

Sylwadau (0)

Mae'n ymddangos bod 'na hen ddigon o bobol am gael siâr o'r ddau gan mil o bunnau y mae llywodraeth y cynulliad wedi ei glustnodi ar gyfer y wasg Gymraeg. Y cwmnïau sydd wedi gwneud cais yw Dyddiol Cyf., Trinity Mirror, Tinopolis, Golwg a chwmni newydd wedi ei sefydlu gan gyn-newyddiadurwyr darlledu (fedrai ddyfalu pwy- ond heb fod yn sicr).

Mae'n ddiddorol gweld nad yw cwmni Tindle, cyhoeddwyr y Cymro a'r Cambrian News wedi gwneud cais.

Pen ar y bloc

Vaughan Roderick | 15:13, Dydd Mercher, 30 Ebrill 2008

Sylwadau (1)

Y diwrnod cyn etholiad y cynulliad fe wnes i roi fy mhen ar y bloc a gwneud ambell i broffwydoliaeth. Roedd y canlyniadau'n gymysg a dweud y lleiaf! Serch hynny dw i am fentro eto gan lwyr ddisgwyl bod yn gyfan gwbwl anghywir mewn sawl ardal. Dyma nhw felly, fy mhroffwydoliaethau ynghylch yr hyn fydd yn digwydd yfory.

O safbwynt nifer y seddi dw i'n rhagweld mai'r Ceidwadwyr fydd y buddugwyr mawr yfory. Mae hynny'n weddol sicrl oherwydd y cynnydd sylweddol yn nifer ymgeiswyr y blaid yn arbennig mewn ardaloedd fel Sir Benfro a Phowys. Does dim amheuaeth yn fy meddwl i chwaeth y bydd y Ceidwadwyr yn ennill mwyafrif ym Mro Morgannwg.

Yn 2004 enillodd y Torïaid lai o seddi (107) na Llafur (478), Plaid Cymru (174) a'r Democratiaid Rhyddfrydol (146), heb son am aelodau annibynnol (322). Dwi'n disgwyl i'r Ceidwadwyr guro'r Democratiaid Rhyddfrydol y tro hwn a bod yn agos at gyfanswm Plaid Cymru.

Mae 'na wobr, sy'n fwy na wobr gysur, i'r Democratiaid Rhyddfrydol sef cyngor mwyaf Cymru, Caerdydd. Yn fy marn i, fe fydd y blaid o fewn llond dwrn o seddi i sicrhâi mwyafrif dros bawb yn y brifddinas gyda Llafur, o bosib, yn drydydd i'r Ceidwadwyr.

Gallai pethau bod yn anoddach i'r Democratiaid Rhyddfrydol yn Abertawe, Pen-y-bont a Wrecsam. Mae'n debyg y bydd ffawd y cynghorau hynny yn dibynnu ar drafodaethau ar ôl yr etholiad. Byswn i ddim yn synnu, er enghraifft, i weld cytundeb rhwng Llafur a Phlaid Cymru i ddiorseddi'r Democratiaid Rhyddfrydol yn Abertawe pe bai'r fathemateg yn caniatáu hynny.

Ar hyn o bryd mae gan Lafur dros hanner y seddi mewn saith ardal. Dw i'n disgwyl i'r blaid gadw ei mwyafrifoedd yn Rhondda Cynon Taf, Castell Nedd-Port Talbot a Thorfaen a'u colli yn Sir Fflint, Caerffili a Blaenau Gwent. Gallai'r sefyllfa yng Nghasnewydd fod yn aneglur oherwydd gohirio'r etholiad mewn dwy ward lle mae ymgeiswyr wedi marw.

Yn y Gorllewin dw i'n amau y gallai Plaid Cymru ddod yn agos at gipio mwyafrif yng Ngheredigion ac ennill tir yng Nghaerfyrddin. Gallai hynny ddigolledi'r blaid am unrhyw golledion yng Ngwynedd.

Fe wnâi orffen trwy son am y cyngor hwnnw. Rhaid i mi gyfaddef fy mod yn ei chael hi'n anodd deall yr obsesiwn Gwynedd-aidd sy'n haint ymhlith rhai o'r cyfryngau Cymraeg. Yr unig gwestiwn yng Ngwynedd yw a fydd gan Blaid Cymru fwyafrif dros bawb? Does dim amheuaeth mai hi fydd y blaid fwyaf a gan fod y cyngor yn cael ei rhedeg gan fwrdd amlbleidiol mae'n annhebyg y bydd y canlyniad yn gwneud fawr o wahaniaeth i reolaeth neu bolisïau'r cyngor yn y tymor hir.

Nid wfftio pwysigrwydd posib Llais Gwynedd yw dweud hynny. Fe fyddai llwyddiant i'r grŵp hwnnw (ac mae hynny'n golygu ennill o leiaf deg i ddwsin o seddi) yn sicr o effeithio ar y cynllun i adrefnu'r ysgolion yn y sir ac yn arwydd o anniddigrwydd arwyddocaol yn rhengoedd cefnogwyr traddodiadol Plaid Cymru.

Efallai fy mod yn ormod o sing ond dw i'n cofio sawl unigolyn a grŵp sydd wedi addo llawer yn y Gymru Gymraeg ac wedi cyflawni fawr ddim ar ddiwrnod y pleidleisio. A fydd Llais Gwynedd yn fwy arwyddocaol nac ynmdrechion Peter Rogers neu Llais y Bobol ar Ynys Môn neu'r ymgyrch dros faer etholedig yng Ngheredigion? Gwlith y bore neu wrthryfel go iawn? Fe gawn weld.

Pydredd wrth bleidleisio

Vaughan Roderick | 15:08, Dydd Mawrth, 29 Ebrill 2008

Sylwadau (2)

Mae 'na resymau da dros wneud hynny ond mae 'na duedd gynyddol i aelodau'r dosbarth gwleidyddol dreulio'i hamser yn poeni am ein system etholiadol.

Roedd 'na gyfnod lle'r oedd hanfodion y broses yn cael eu cymryd yn ganiataol. Ac eithrio hen a'r sâl roedd disgwyl i etholwyr fynd i'r ysgol leol neu'r neuadd bentref i fwrw eu pleidlais trwy ddefnyddio papur a phensil. Am ddegawdau roedd oddeutu tri chwarter ohonom yn gwneud hynny mewn etholiadau seneddol a thua hanner yn dilyn yr un ddefod mewn etholiadau lleol.

Erbyn hyn mae'r niferoedd hynny wedi gostwng yn sylweddol gan danseilio hygrededd y broses. Hyd yn hyn mae'r ymdrechion i wella'r sefyllfa ond wedi esgor ar broblemau newydd.

Doedd dim angen bod yn athrylith nac yn arbenigwr ar wleidyddiaeth na'r natur ddynol i wybod y byddai roi'r hawl i unrhyw un hawlio pleidlais bost yn agor y drws i bob math o lygredd a thwyll. Fe ddywedwyd hynny gan hen ddigon o bobol pan wyntyllwyd y newid. Ond fe anwybyddwyd gwleidyddion a'r newyddiadurwyr oedd yn amheus a'u cyhuddo o fod yn "hen ffasiwn". Pleidleisio post oedd y fordd ymlaen yn ôl y comisiwn etholiadol a'r llywodraeth ynghyd a phleidleisio ar y we, ffons symudol neu hyd yn oed botwm coch eich teledu digidol.

Pan ofynnais i un "arbenigwr" os oedd na beryg y byddai'r system bost newydd yn cael ei chamddefnyddio derbyniais yr ateb anhygoel na fyddai 'na broblem oherwydd (ac mae angen y Saesneg gwreiddiol yn fan hyn) "the evidence shows that the dodgy votes cancel each other out". Roedd y ddadl honno (ac mae ambell i un yn dal i'w defnyddio) yn un anhygoel. I bob pwrpas roedd hi'n wahoddiad i bobol dwyllo'r system. Y canran yn pleidleisio oedd yn cyfri. Doedd dim ots os oedd deg ... ugain ...cant o'r pleidleisiau hynny wedi eu bwrw gan un person.

Roedd y fath yna o safbwynt yn anwybyddu'r faith amlwg mai un o'r cymhellion dros bleidleisio yw gwybod bod eich pleidlais yn cyfri ac yn gydradd â phleidlais pawb arall. Beth yw'r pwynt i fi, neu unrhyw un arall, fentro trwy'r gwynt a'r glaw i fwrw fy un bleidlais os ydw i'n amau bod rhyw foi rownd y gornel wrthi'n fwrw ugain o bleidleisiau wrth fwrdd y gegin?

Ateb y comisiwn etholiadol i'r broblem yw cofrestru personol, hynny yw, yn lle disgwyl i'r penteulu gofrestri pawb mewn tÅ· fe fyddai unigolion yn cofrestru eu hun.

Yn sicr fe fyddai hynny'n gam ymlaen gan ei gwneud hi'n anoddach i restri enwau ffug. Fe fyddai'n gwneud dim byd, ar y llaw arall, i atal problemau eraill y system bresennol, gwyr yn gwylio'u gwragedd a'u plant yn pleidleisio, er enghraifft, neu bobol nad ydynt a'r hawl i bleidleisio ar y cofrestr.

Mae darllen yr adroddiad a gomisiynwyd gan Sefydliad Rowntree wedi rhoi ysgytwad i rai ond o farnu'r oddrychol o'r hyn mae dyn yn clywed gan wleidyddion mae'r sefyllfa hyd yn oed yn waeth nac mae'r adroddiad yn awgrymu. Mae angen gweithredu ar frys.

Efallai fy mod yn "hen ffasiwn" ond yn fy marn i sinigiaeth ynglŷn â'n gwleidyddiaeth a'n gwleidyddion sy'n benna gyfrifol am y gostyngiad yn y nifer sy'n pleidleisio yn hytrach nac unrhyw broblem a'r drefn o bleidleisio. Fe fyddai carthu system dreuliau San Steffan, er enghraifft, yn gwneud llawer mwy i ddenu pobol i bleidleisio nac unrhyw gimig gan y Comisiwn Etholiadol.

Does dim geiriau...

Vaughan Roderick | 13:52, Dydd Gwener, 25 Ebrill 2008

Sylwadau (4)

Mae Llafur yn dosbarthu llythyr i etholwyr Wrecsam sy'n cynnwys y paragraff canlynol;

"All too often local elections become about national politics-what do you think of the Labour Government? However our local problems deserve a true vote on their own merits. We urge those of you planning to vote on polling day not to vote for or against us just because of our central party."

Sôn am hyd braich!

Dadeni'r Enfys?

Vaughan Roderick | 11:46, Dydd Gwener, 25 Ebrill 2008

Sylwadau (0)

Mae 'na bodlediad newydd ar gael trwy wasgu'r botwm ar y dde.

Mae'r Bae yn wag heddiw...y gwleidyddion i gyd wrthi'n ymgyrchu, mae'n rhaid. Serch hynny mae 'na sibrydion yn ein cyrraedd yn enwedig gan y gwleidyddion hynny sydd wedi bod yn gwylio'r pleidleisiau post yn cael eu hagor. Yr argraff oddrychol yw bod Llafur yn gwneud yn wael yn y bleidlais honno ond mae'n werth cofio bod rhain yn bleidleisiau a fwriwyd pan oedd yr helynt ynghylch y dreth incwm ar ei anterth. Gallai pethau fod yn wel i Lafur Ddydd Iau nesaf.

Un cyngor lle mae'n bosib y bydd y canlyniad yn ansicr am ryw fis eto yw Casnewydd. Gyda Llafur yn brwydro i gadw ei mwyafrif mae marwolaeth dau ymgeisydd yn golygu y bydd yr etholiad yn cael ei ohirio mewn dwy ward allweddol gyda hanner dwsin o seddi i'w llenwi mewn isetholiadau.

Wrth gwrs gyda'r un blaid yn debyg o sicrhâi mwyafrif yn y rhan fwyaf o gynghorau fe fydd na llawer i drafod ar ôl Mai'r cyntaf gyda phob math o gytundebau posib yn cael eu trafod.

Yr hyn sy'n ddiddorol yw o safbwynt y canlyniadau tebygol mae cytundebau "enfys" yn ymddangos yn llawer mwy tebygol na chytundebau coch-gwyrdd fel yr un sy'n bodoli yn y Bae. A barnu o sylwadau Adam Price ynglŷn â'r posibilrwydd o senedd grog yn San Steffan fydd hi ddim yn syndod os oes 'na gytundebau gwrth-lafur rhwng y pleidiau eraill mewn rhai ardaloedd. Dyma oedd gan Adam i ddweud mewn cyfweliad a GMTV.

"There's no veto as far as talking to the Conservatives, as we did in the Assembly. We have to put the interests of the people of Wales first and whichever political party can come up with the best programme for Wales, across the whole range of government policies, then that's the basis that we will be approaching any post-election discussions"

Tra roedd Adam wrthi yn San Steffan roedd Gordon Brown a David Cameron yn ymgyrchu yng Nghymru heddiw gan deithio ar yr un trên o Lundain y bore 'ma. Betia i fod Great western wedi sicrhâi bod y trên hwnnw o leiaf yn cyrraedd ar amser!


O'r diwedd!

Vaughan Roderick | 14:09, Dydd Iau, 24 Ebrill 2008

Sylwadau (0)

Reit, gydag unrhyw lwc mae popeth yn gweithio erbyn hyn.

Mae'n bryd i ni ddal lan ar bethau.

Braf yw nodi enw un ymgeisydd Ceidwadol yng Ngheredigion. Mr. Neville Chamberlain. Neb llai. Oes 'na Churchill neu Lloyd George yn rhywle dywedwch?

Pam y mae cymaint o'n gwleidyddion cenedlaethol yn treulio'i hamser yn ward Glanrafon yng Nghaerdydd y dyddiau hyn? Mae Carwyn Jones a Dafydd Wigley ymhlith eraill wedi eu gweld yn troedio'r strydoedd yno. Ydy Dafydd yn poeni y gallai prif weithredwraig y blaid golli ei sedd ar y cyngor neu ydy'r ffaith ei bod wedi colli ward oedd arfer cael ei chynrychioli gan ddau aelod o'r cabinet yn dal i boeni Llafur?

Oes unrhyw un yn deall beth ar y ddaear yr oedd Eleanor yn son amdani yn ?

Eleanor Burnham: "I ddilyn y mater hwnnw ychydig ymhellach, Brif Weinidog, yn sicr mae llawer y gall Cymru ei wneud. Mae'n siŵr y gallwn edrych dros y ffin a theimlo efallai bod ein hanes ni wedi bod yn debyg i hanes Tibet mewn rhai ffyrdd, er nad mor ddiweddar efallai. Mae llawer o bobl Cymru yn teimlo eu bod wedi'u gormesu am genedlaethau lawer er nad yw hynny'n digwydd yn awr, yn amlwg. Beth yn union y gallwch ei wneud i gyfleu'r ddealltwriaeth sydd gennym yng Nghymru o sut y mae'n teimlo i fod dan ormes grym mwy, megis Beijing ar Tibet? Sut y gallwch godi digon o ymwybyddiaeth yn Tsieina, oherwydd yn amlwg mae gennych gryn ddylanwad, a'u galluogi i symud ymlaen mewn modd llawer mwy democrataidd nag a welwn o'r hyn yr ydym yn ei wybod sy'n digwydd yn Tibet?"

Fe wnaeth y Prif Weinidog ei orau.

Y Prif Weinidog:"Yng nghanol y dryswch geiriol eithaf gwyrdroëdig hwnnw, credaf fod pwynt dilys i'w gael. Y pwynt am ddatganoli, ac mae gennym naw mlynedd o brofiad ohono, ac ymreolaeth, a hawliadau Tibet am ryw fath o gydnabyddiaeth, boed hynny o ran diwylliant, crefydd, gwleidyddiaeth neu hawliau dynol, yw'r mater dan sylw. I ryw raddau, gallai profiad y DU dros y naw mlynedd diwethaf fod o werth i awdurdodau Tsieina os gallant gyrraedd y meddylfryd, lle nad ydynt ar hyn o bryd, i ofyn, 'A oes gennym wersi i'w dysgu gan y byd y tu allan?'. Ar hyn o bryd, maent yn dweud, 'Fyd y tu allan, cadwch allan; nid oes gennym ddim gwersi i'w dysgu gan neb.'

Y cyfan sy gen i ddweud yw bod "Om Mani Padme Hum" bron mor ddealladwy â'r sesiwn fach yna yn y siambr!

Nid fi oedd ar fai

Vaughan Roderick | 15:56, Dydd Mercher, 23 Ebrill 2008

Sylwadau (1)


Efallai eich bod yn credu fy mod wedi bod yn cysgu neu yn diogi. I ddyfynnu Shaggy "wasn't me"!

Am resymau technegol ni fu'n bosib diweddaru'r blog na chyhoeddi unrhyw beth yn ystod yr wythnos ddiwethaf. Dylai pethau fod yn iawn o hyn ymlaen. Roedd yr eitem yma i fod i ymddangos Ddydd Iau diwethaf a chan bod y ddwy stori o hyd heb gael unrhyw sylw gwaeth i fi bostio hi nawr!

Ambell i waeth mae pethau'n digwydd yn y Bae a neb yn sylwi rhyw lawer. Roedd 'na ddwy enghraifft o hynny yr oeddwn yn dymuno tynnu sylw atyn nhw.

Yn gyntaf cafwyd y ddadl ar y cynllun i ddifa moch daear mewn ymdrech i leddfu ar effeithiau'r diciâu ar ein ffermwyr. Nawr er bod y ddadl yn un fywiog roedd sawl un yn gofyn beth oedd ei phwrpas. Wedi'r cyfan pam cynnal dadl ynglŷn â phenderfyniad oedd eisoes wedi ei gyhoeddi gan y llywodraeth? Mae'r pwynt yn un ddigon teg ond roedd canlyniad y bleidlais yn hynod ddadlennol.

Pwy oedd yn cefnogi'r llywodraeth? Yr ateb rhyfedd i'r cwestiwn hwnnw yw'r mwyafrif llethol o aelodau Plaid Cymru a'r ddwy wrthblaid. Roedd Llafur (prif blaid y llywodraeth ,cofiwch) wedi ei hollti lawr y canol. Pleidleisiodd aelodau Llafur o'r llywodraeth yn unfryd o blaid y cynllun. Ac eithrio Alun Davies fe bleidleisiodd pob un aelod Llafur o'r meinciau cefn yn erbyn. Oedd 'na arwyddocâd i hynny- rhyw hollt ddofn yn y rhengoedd Llafur efallai neu ydy hi'n adlewyrchu gwahaniaethau barn naturiol rhwng cynrychiolwyr ardaloedd gwledig a rhai trefol? Tipyn o'r ddau dybiwn i.

Yr ail beth rhyfedd yr wythnos ddiwethaf oedd y gystadleuaeth am y cyfle i gyflwyno mesur (hynny yw deddf) preifat. Yn San Steffan mae bron pob un aelod o'r meinciau cefn yn cystadlu am y fraint honno. Yn y Bae dim ond pedwar aelod wnaeth rhoi eu henwau i mewn- y pedwar, gyda llaw, yn Ddemocratiaid Rhyddfrydol. Mae'n wir bod y meysydd lle mae gan y Cynulliad yr hawl i basio mesurau yn hynod gyfyng ar hyn o bryd ond gyda'r holl frefi am yr angen am gael ragor o hawliau i ddeddfu oni ddylai'r aelodau fod yn fwy brwdfrydig i ddefnyddio'r rheiny sy'n bodoli eisoes?

Rwy'n caru merch o blwyf Llangynog...

Vaughan Roderick | 17:01, Dydd Mercher, 16 Ebrill 2008

Sylwadau (1)

Dwi'n cyffwrdd fy nghap i'ram dynnu sylw at y papur pleidleisio hyfryd fydd yn wynebu etholwyr Llangynog ym Mhowys.
Mae'n amlwg nad yw ymgeiswyr yn yr ardal honno yn deall mae enw plaid neu rywbeth tebyg sydd yn cael ei nodi yn y golofn ddisgrifiad gan amlaf. Yn lle hynny yn Llangynog fe fydd etholwyr yn cael pleidleisio dros Islwyn Davies ( 44 year old Welsh speaking farmer),Ray Guthrie (Dry Stone Waller), Tommy Harries (Building Contractor-Developer), John Jones (Pensiynwr), Gwynoro Roberts (Ffermwr), Hugh Williams (Ffermwr) ac Olive Mary Warne (Female, Slim Build, 5.2 tall).
Mae'n arian i ar Ms Warne.

Colli Crick

Vaughan Roderick | 14:15, Dydd Mercher, 16 Ebrill 2008

Sylwadau (0)

Yfory fe fydd y cynulliad yn agor ei ail siambr. Na, nid cartref i gyn-wleidyddion a'r bobol fawr yw hon ond siambr i bobol ifanc ddadlau a dysgu am ein cyfundrefn lywodraethol. Dyw' siambr ei hun ddim yn gyfan gwbwl newydd chwaeth. Yr ystafell hon yn Nhŷ Crughywel oedd cartref y cynulliad am ei chwe blynedd gyntaf cyn agor adeilad y Senedd. Twll o le oedd hi mewn gwirionedd gyda newyddiadurwyr o Lundain yn hallt eu beirniadaeth yn ôl yn 1999 pan agorwyd y cynulliad. "All the amibience of a multi-storey car park" oedd un disgrifiad ohoni "not unlike the canteen on a cross-channel ferry" oedd un arall.

Ta beth mae pwy bynnag wnaeth ail-gynllunio'r lle ar gyfer disgyblion a myfyrwyr wedi gwneud gwell job ohoni na'r cynllunydd gwreiddiol a heb os fe fydd yn ychwanegiad at fywyd y cynulliad ac addysg y rhai sy'n mynychu'r cyrsiau a gynhelir yno.

"Siambr Hywel" yw enw newydd y lle. Hywel Dda oedd yr ysbrydoliaeth mae'n debyg. Efallai nad yw'n gyd-ddigwyddiad mai cyfreithiau Hywel oedd testun ymchwil Llywydd y Cynulliad yn ei ddyddiau prifysgol. Mae enw'r adeilad lle mae'r siambr hefyd yn newid o "TÅ· Crughywel/Crickhowell House" i "TÅ· Hywel".

Roedd hi braidd yn eironig bod cartref cyntaf y cynulliad mewn adeilad wedi ei enwi ar ôl Nicholas Edwards ac mae'n hawdd deal y cymhellion dros ei newid. Ar y llaw arall mae 'n un o'r adeiladau mwyaf hyll a greoedd dyn erioed. Mantais fawr gweithio y tu fewn i'r "palas" yma yw eich bod chi'n un o'r ychydig bobol yn yr ardal sy ddim yn gallu gweld y ploryn brics trwy'ch ffenest. Ai'r adeilad yma yw'r gofeb orau i Hywel Dda...neu ydy hi mewn gwirionedd yn gofeb berffaith i'r hen Swyddfa Gymreig a gwasanaethau cyhoeddus siabi'r wythdegau?

Ceiniogau prin....

Vaughan Roderick | 14:13, Dydd Mawrth, 15 Ebrill 2008

Sylwadau (1)

Pam fod 'na fwy o bobol wedi eu cofrestru â meddygon teulu Cymru na chyfanswm poblogaeth y wlad? Dyna yw'r cwestiwn sy'n poeni'r Ceidwadwyr ar hyn o bryd. Yn ôl ffigyrau swyddogol roedd 'na 2,965,995 o bobol yn byw yng Nghymru yn 2006 ond 3,093,843 wedi eu cofrestri a'n meddygon teulu.
Yr esboniad yn ôl y Ceidwadwyr yw bod pobol o Loegr yn cofrestru â meddygon yng Nghymru er mwyn osgoi talu taliadau presgripsiwn a heddiw fe ryddhaodd y Blaid raff o ystadegau i geisio profi'r pwynt.
Yn anffodus i'r Ceidwadwyr mae'r ystadegau hynny'n amwys. Mae'n wir bod y nifer sydd wedi eu cofrestru wedi cynyddu'n gynt na'r twf yn y boblogaeth ers i daliadau presgripsiwn gael eu dileu. Y broblem yw bod yr un patrwm i weld ym mhob rhan o'r wlad, hynny yw, mae'r cynnydd gymaint yn Rhondda Cynon Taf ac yw hi yn Sir Fynwy a ffigwr Ceredigion yn ddigon tebyg i'r un yn Wrecsam. Pe bai dadansoddiad y Ceidwadwyr yn gywir oni fyddai'r cynnydd llawer yn fwy yn siroedd y ffin?
Mae honiad y llywodraeth bod y gwahaniaeth yn deillio o ffactorau megis myfyrwyr sy'n cofrestru ddwywaith a phobol sydd ar ddwy restr am gyfnod ar ôl symud tŷ yn cynnig cystal esboniad ac un y Ceidwadwyr.
Heb os mae 'na le i ddadlau dros ymchwilio ymhellach i'r posibilrwydd bod pobol o Loegr yn cymryd mantais o'r gyfundrefn feddygol yng Nghymru ond dyw'r Torïaid ddim wedi profi eu hachos hyd yma.

Podlediad

Vaughan Roderick | 13:21, Dydd Gwener, 11 Ebrill 2008

Sylwadau (0)

Mae 'na bodlediad newydd ar gael trwy wasgu'r botwm ar y dde. Y ogystal â chyfle i glywed rhifyn yr wythnos o Dau o'r Bae cewch wrando ar Guto Thomas yn traethu ynghylch yr etholiadau lleol.

Enwau da

Vaughan Roderick | 15:50, Dydd Iau, 10 Ebrill 2008

Sylwadau (0)

Ydy South Park wedi cyrraedd Blaenau Gwent? Ymhlith yr ymgeiswyr i'r cyngor hwnnw mae Bob "The Chef" Mason. Nid fe yw'r unig un ac enw digon diddorol i sefyll etholiad y tro hwn. Hefyd ym Mlaenau Gwent cewch fwrw pleidlais dros Rocky Rocke tra bod na Ddafydd Ddu ar y papur pleidleisio yng Ngwynedd. Mae ymgeiswyr Merthyr yn cael dewis rhwng Neil "Jock" Greer ac Allan "Salty" Jones a does dim angen gofyn dros ba blaid David Berkerolles Tuberville Deer yn sefyll ym Mhen-y-bont.

Gwaed newydd

Vaughan Roderick | 14:17, Dydd Iau, 10 Ebrill 2008

Sylwadau (0)

Roedd 'na dipyn o ffwdan yr wythnos 'ma pan awgrymodd arolwg gan Â鶹ԼÅÄ Cymru bod yr ymdrechion i ddenu rhagor o bobol ifanc i eistedd ar gynghorau wedi methu.

Does dim angen poeni. Yn ôl y ymhlith ymgeiswyr y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghasnewydd mae Winifred Lee (89) a Megan Rees (83). Mae'r Blaid yn cyfaddef mai chwifio'r faner mae'r ddwy mewn wardiau nad oes gobaith eu hennill. Does dim gwirionedd yn y si eu bod wedi gwahodd y glaslanc Menzies Campbell i ymgyrchu ar eu rhan!

Mae gwrthwynebydd Ceidwadol Mrs. Lee Peter Davies wedi ymateb mew modd digon bonheddig. "I consider she will be a most charming opponent." meddai. Hefyd yn sefyll i'r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghasnewydd mae mab a merch yng nghyfraith arweinydd grŵp y blaid ar y cyngor. Go brin y bydd Peter Davies yn gweld hynny fel nepotistiaeth. Wedi'r cyfan mae'n dad i David Davies, aelod seneddol Trefynwy.


Wps!

Vaughan Roderick | 10:57, Dydd Iau, 10 Ebrill 2008

Sylwadau (1)

Mae cytundebau bach ar y slei rhwng pleidiau’n gallu bod yn bethau defnyddiol ond maen nhw'n bethau peryg hefyd! Yn enwedig mewn etholiadau lleol dyw e hi ddim yn anarferol i bleidiau neu grwpiau gyrraedd cytundebau ynglŷn â phwy sy'n sefyll yn ble neu ba wardiau sy'n cael eu targedi gan bwy ond mae angen gofal wrth wneud hynny. Gall cynllun clyfar droi'n llanast yn ddigon hawdd.

Mae'n amlwg bod rhywbeth o'r fath wedi digwydd yng Nghastell Nedd Port Talbot lle mae Llafur yn amddiffyn mwyafrif bregus. Yn yr ardal honno does ond angen cael cipolwg ar yri synhwyro bod Plaid Cymru, y Trethdalwyr ,rhai ymgeiswyr annibynnol a'r SDP (ydyn, maen nhw dal i fynd ym Mhort Talbot) wedi cydlynu eu hymdrechion.

Eisoes mae'r cynllun yn cwympo'n ddarnau. Yng nghadarnle'r Trethdalwyr, Baglan, ymunodd dau o ymgeiswyr y garfan honno a'r Blaid Lafur ar y slei gan newid y disgrifiad ar eu papurau enwebu ar y funud olaf. Y canlyniad- dwy sedd ddiwrthwynebiad i Lafur mewn ward a ddylai fod yn ddiogel i'r gwrthbleidiau.

Mae Llafur wrth eu boddau, wrth reswm ac yn lled awgrymu y gallai aelodau eraill o'r gwrthbleidiau groesi'r llawr ar ôl yr etholiad. Mae Llafur yn fwyfwy hyderus ynglŷn â chanlyniadau Mai'r 1af yn y rhan yma o Gymru. Yn ôl Llafur mae methiant Plaid Cymru i enwebu ymgeiswyr mewn wardiau fel Brynaman Isaf a Chwmllynfell yn arwydd o'r ffordd y mae'r gwynt yn chwythu.

Anoracia

Vaughan Roderick | 20:28, Dydd Mercher, 9 Ebrill 2008

Sylwadau (3)

Rhag ofn eich bod eisiau gwybod... os ydy mathemateg Guto Thomas yn gywir mae 'na 3266 o ymgeiswyr yn sefyll etholiad ym Mis Mai ar gyfer y cynghorau sir. Yn eu plith mae 877 o ymgeiswyr Llafur, 519 o ymgeiswyr Plaid Cymru, 516 Ceidwadwr a 439 Democrat Rhyddfrydol. Mae 'na 718 o ymgeiswyr annibynnol. Ymhlith y grwpiau a phleidiau llai mae 28 ymgeisydd gan y BNP (gyda'r nifer fwyaf yng Nghonwy) 29 gan Lais y Bobol (20 ym Mlaenau Gwent a 9 yn Nhorfaen) a 28 gan Lais Gwynedd.

Mae gan Lafur, Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol o leiaf un ymgeisydd ym mhob ardal cyngor. Mae'r Toriad wedi llwyddo ym mhob man ac eithrio Merthyr. Llafur sydd a'r nifer fwyaf o ymgeiswyr ym Mlaenau Gwent, Pen-y-bont, Caerffili, Sir Fflint, Merthyr, Castell Nedd Port Talbot Rhondda Cynon Taf, Torfaen a Wrecsam. Mae'r ymgeiswyr annibynnol ar y blaen yng Nghaerfyrddin, Powys, Sir Ddinbych, Sir Benfro ac Ynys Môn. Plaid Cymru sydd a'r nifer fwyaf o ymgeiswyr yng Ngwynedd a Cheredigion ac Mae'r Torïaid ar y blaen yn Abertawe, Bro Morgannwg, Sir Fynwy a Chonwy. Yng Nghaerdydd mae'r Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn ymladd pob sedd. Mae Llafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn gydradd yng Nghasnewydd.

Ie wel.....

Vaughan Roderick | 20:18, Dydd Mercher, 9 Ebrill 2008

Sylwadau (3)

Bant a ni eto. "Diwrnod hanesyddol yn y cynulliad". Dyna mae pawb yn dweud o leiaf. Heddiw fe arwyddodd y frenhines yr LCO gyntaf ac roedd Rhodri wrth ei fodd yn y siambr ac yn ei ddatganiad newyddion. Dyma oedd ganddo i ddweud "Am y tro cyntaf mewn pum can mlynedd mae gan bobol Cymru'r hawl i wneud deddfau i wella eu bywydau bod dydd."

Arhoswch eiliad. Hwn y'r LCO gyntaf...cywir. Ond, ac mae'n ond go bwysig, dyw'r hawl i ddeddfu y mae'r gorchymyn hwnnw'n trosglwyddo yn ddim gwahanol i'r hawliau a drosglwyddwyd eisoes yng nghrombil Mesur Llywodraeth Cymru. Mae'r pwerau hynny eisoes yn cael eu defnyddio i gyflwyno'r "mesur bwyta'n iach" a'r "mesur gwneud yn iawn am gamweddau'r gwasanaeth iechyd" sy'n ymlwybro'u fordd trwy'r cynulliad. Ehangu gallu'r cynulliad i ddeddfu mae'r LCO. Dim mwy. Dim llai.

I mewn i'r gôl

Vaughan Roderick | 15:09, Dydd Mawrth, 8 Ebrill 2008

Sylwadau (1)

Doedd hi ddim yn syndod bod Rhodri Morgan ac Ieuan Wyn Jones wedi cychwyn cynhadledd newyddion heddiw trwy longyfarch Dinas Caerdydd ar gyrraedd rownd derfynol cwpan yr FA. Dw i'n sicr bod y llongyfarchiadau hynny'n ddiffuant, ar y llaw arall mae pob gwleidydd yn hoffi cysylltu ei hun â llwyddiant. Ond beth am gysylltu'ch hun â methiant?
"A fyddai'r llywodraeth yn ymyrryd i ddiogelu dyfodol y Cae Ras pe bai Wrecsam yn colli ei lle yn y Cynghrair Pêl Droed?" Cwestiwn digon teg, dybiwn i. Dyna'r rheswm i mi ei ofyn. Dim ymateb gan y Prif Weinidog. Rydw i'n besimist yn ôl Rhodri. Does ond angen cyfres o gemau ac fe fydd Wrecsam yn ddiogel meddai. Iawn, ond os oedd y gwaethaf yn digwydd? Os ydy llwyddiant tîm Caerdydd yn hwb enfawr i'r Brifddinas a Chymru oni fyddai colli'r Dreigiau yn gythraul o ergyd...yn enwedig o gofio mai'r Cae Ras yw'r unig stadiwm chwaraeon proffesiynol yn y Gogledd?
Dipyn o synnwyr gan y dirprwy brif weinidog yn y diwedd. "Mae'r Cae Ras yn adnodd allweddol i'r Gogledd ac mae'n bwysig gwneud popeth posib i'w ddiogelu."

Cwffio'r Cynghorau

Vaughan Roderick | 14:37, Dydd Mawrth, 8 Ebrill 2008

Sylwadau (2)

Iawn , dyma ni yn ôl yn y Bae. Fe fydd pethau'n ddi-stop o nawr tan yr etholiadau lleol. Mae'r enwebiadau i rheiny wedi cau ac wrth bori trwy'r rhestri mae 'na ambell i stori ddifyr eisoes yn amlwg. Y gyntaf yw'r cynnydd sylweddol yn nifer yr ymgeiswyr Ceidwadol o 347 tro diwethaf i 515 y tro yma. Serch hynny fe fydd y Torïaid yn siomedig bod Plaid Cymru wedi eu curo o drwch blewyn gyda 518 ymgeisydd yn sefyll. Mae hi hefyd yn nodweddiadol bod Llafur wedi methu ac enwebu rhestr lawn o ymgeiswyr mewn ambell i gyngor pwysig megis Caerdydd ac Abertawe. Hwn yw'r tro cyntaf i hynny ddigwydd i mi gofio.

Lan yng Ngwynedd mae presenoldeb Llais Gwynedd a'r Ceidwadwyr yn golygu mai dim ond llond dwrn o etholiadau sy'n ddiwrthwynebiad y tro hwn. Serch hynny mae'n ymddangos bod gallu "Llais Gwynedd" i ddod o hyd i ymgeiswyr yn llai na'u gallu i greu stŵr ar Faes Caernarfon a'r tonfeddi radio. Problem wahanol sy'n wynebu "Llais y Bobol" ym Mlaenau Gwent. Mae'r grŵp hwnnw wedi enwebu llwyth o ymgeisiwyr ond mewn cyfres o wardiau maen nhw'n wynebu ymgeiswyr annibynnol yn ogystal ag ymgeiswyr Llafur. Mae ymddangos bod hi'n ras rhwng Llafur, Annibynwyr Swyddogol ac Annibynwyr Annibynnol ym Mlaenau Gwent. Gallai hynny fod yn achubiaeth i Lafur.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.