Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Pydredd wrth bleidleisio

Vaughan Roderick | 15:08, Dydd Mawrth, 29 Ebrill 2008

Mae 'na resymau da dros wneud hynny ond mae 'na duedd gynyddol i aelodau'r dosbarth gwleidyddol dreulio'i hamser yn poeni am ein system etholiadol.

Roedd 'na gyfnod lle'r oedd hanfodion y broses yn cael eu cymryd yn ganiataol. Ac eithrio hen a'r sâl roedd disgwyl i etholwyr fynd i'r ysgol leol neu'r neuadd bentref i fwrw eu pleidlais trwy ddefnyddio papur a phensil. Am ddegawdau roedd oddeutu tri chwarter ohonom yn gwneud hynny mewn etholiadau seneddol a thua hanner yn dilyn yr un ddefod mewn etholiadau lleol.

Erbyn hyn mae'r niferoedd hynny wedi gostwng yn sylweddol gan danseilio hygrededd y broses. Hyd yn hyn mae'r ymdrechion i wella'r sefyllfa ond wedi esgor ar broblemau newydd.

Doedd dim angen bod yn athrylith nac yn arbenigwr ar wleidyddiaeth na'r natur ddynol i wybod y byddai roi'r hawl i unrhyw un hawlio pleidlais bost yn agor y drws i bob math o lygredd a thwyll. Fe ddywedwyd hynny gan hen ddigon o bobol pan wyntyllwyd y newid. Ond fe anwybyddwyd gwleidyddion a'r newyddiadurwyr oedd yn amheus a'u cyhuddo o fod yn "hen ffasiwn". Pleidleisio post oedd y fordd ymlaen yn ôl y comisiwn etholiadol a'r llywodraeth ynghyd a phleidleisio ar y we, ffons symudol neu hyd yn oed botwm coch eich teledu digidol.

Pan ofynnais i un "arbenigwr" os oedd na beryg y byddai'r system bost newydd yn cael ei chamddefnyddio derbyniais yr ateb anhygoel na fyddai 'na broblem oherwydd (ac mae angen y Saesneg gwreiddiol yn fan hyn) "the evidence shows that the dodgy votes cancel each other out". Roedd y ddadl honno (ac mae ambell i un yn dal i'w defnyddio) yn un anhygoel. I bob pwrpas roedd hi'n wahoddiad i bobol dwyllo'r system. Y canran yn pleidleisio oedd yn cyfri. Doedd dim ots os oedd deg ... ugain ...cant o'r pleidleisiau hynny wedi eu bwrw gan un person.

Roedd y fath yna o safbwynt yn anwybyddu'r faith amlwg mai un o'r cymhellion dros bleidleisio yw gwybod bod eich pleidlais yn cyfri ac yn gydradd â phleidlais pawb arall. Beth yw'r pwynt i fi, neu unrhyw un arall, fentro trwy'r gwynt a'r glaw i fwrw fy un bleidlais os ydw i'n amau bod rhyw foi rownd y gornel wrthi'n fwrw ugain o bleidleisiau wrth fwrdd y gegin?

Ateb y comisiwn etholiadol i'r broblem yw cofrestru personol, hynny yw, yn lle disgwyl i'r penteulu gofrestri pawb mewn tÅ· fe fyddai unigolion yn cofrestru eu hun.

Yn sicr fe fyddai hynny'n gam ymlaen gan ei gwneud hi'n anoddach i restri enwau ffug. Fe fyddai'n gwneud dim byd, ar y llaw arall, i atal problemau eraill y system bresennol, gwyr yn gwylio'u gwragedd a'u plant yn pleidleisio, er enghraifft, neu bobol nad ydynt a'r hawl i bleidleisio ar y cofrestr.

Mae darllen yr adroddiad a gomisiynwyd gan Sefydliad Rowntree wedi rhoi ysgytwad i rai ond o farnu'r oddrychol o'r hyn mae dyn yn clywed gan wleidyddion mae'r sefyllfa hyd yn oed yn waeth nac mae'r adroddiad yn awgrymu. Mae angen gweithredu ar frys.

Efallai fy mod yn "hen ffasiwn" ond yn fy marn i sinigiaeth ynglŷn â'n gwleidyddiaeth a'n gwleidyddion sy'n benna gyfrifol am y gostyngiad yn y nifer sy'n pleidleisio yn hytrach nac unrhyw broblem a'r drefn o bleidleisio. Fe fyddai carthu system dreuliau San Steffan, er enghraifft, yn gwneud llawer mwy i ddenu pobol i bleidleisio nac unrhyw gimig gan y Comisiwn Etholiadol.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 10:57 ar 30 Ebrill 2008, ysgrifennodd Rhodri:

    Cytuno'n llwyr Vaughan. Rydym ni'n cymeryd hawl (a chyfrifoldeb) pleidleisio'n gyfrinachol yn llawer rhy ysgafn, gyda'r canlyniad fod canran isel yn pleidleisio, a fod yna gynigion am gimics fel hyn er mwyn gwirdroi y sefyllfa.

    Beth mae pobol sy'n crybwyll pleidleisio electronig yn anghofio yw fod y bleidlais ddim yn sicir fwyach o fod yn gwbl gyfrinachol. Mae hyn hefyd yn gwbl danseilio'r broses.

    Yn yr Eidal yn ystod yr etholiadau cyffredinol diweddar roedd yna engrheifftiau di ri o werthu pleidlaisiau (hynny yw cael taliad am bleidleisio rhyw ffordd neu'r llall), gyda'r pleidleisiwr yn defnyddio ei ffon symudol i dynnu llun o'r garden bleidlais er mwyn cadarnhau ei fod wedi pleidlesio fel y cytunwyd. Ynghanol y pleidleisio bu rhaid gwahardd ffonau symudol o fewn y swyddfeudd pleidleisio er mwyn atal hyn. Byddai pleidleisio electronig ond yn gwneud y fath yma o beth yn rhwyddach byth.

  • 2. Am 13:47 ar 30 Ebrill 2008, ysgrifennodd Dewi:

    Cytuno'n llwyr a ffolineb a pherygl pleidleisiau post. Mae na broblem amwr hefyd yng Nhymru boblog - Wardiau gyda thri neu bedwar o gynghorwyr wedi ethol "cyntaf heibio'r postyn" (neu'n ail, neu'n drydedd...). Dyma'r system gwaethaf o sicrhau cynrychiolaeth teg tu allan i Zimbabwe.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.