Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Y Blog Byw 11-12

Vaughan Roderick | 23:08, Dydd Iau, 3 Mai 2007

11. 13 Y BNP yn polio'n dda yn Wrecsam yn ol Richard. Rhagor o dystiolaeth o " turnout" isel mewn ardaloedd Llafur.

11.25. Eluned Morgan yn beio arian am arglwyddiaethau am "newid hinsawdd yr ymgyrch"

11.26 John Griffith wedi colli Dwyrain Canewydd i'r Dem Rhydd. yn ol y Ceidwadwyr.

11.37 Plaid wedi cipio Gorllewin Caerfyrddin yn ol y Dem. Rhyddfrydol. Son bod y bleidlais Lafur wedi colapsio ym Mlaenau Gwent.

11.47 sibrydion bod Plaid Cymru wedi ennill yn hawdd yn Arfon

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 23:24 ar 3 Mai 2007, ysgrifennodd Bedd Gelert:

    Hmm.. Beth yw 'turnout' isel ?

    Fyddai hanner cant [50%] yn isel yn etholiad cyffredinol, ond yn eitha' da [bydden ni yn meddwl] am etholiad y 'Senedd' ? Beth ydy'r gymhariaeth a'r etholiad ddiweddaf ?

  • 2. Am 23:33 ar 3 Mai 2007, ysgrifennodd Gwilym Euros:

    Vaughan,
    Dwi'n iawn yn meddwl os ydi'r stori yn Dwyrain Casnewydd os yn wir, yn golygu fydd Mike German mewn peryg o golli ei sedd?

  • 3. Am 23:33 ar 3 Mai 2007, ysgrifennodd Guto:

    Eaglestone wedi parcio fan goch wedi ei phlastro efo posteri Llafur reit tu allan i fwth pledleisho Maes G pnawn ma. Uchelseinydd yn bloeddio "VOTE LABOUR".

    Y Cyngor wedi cal "anonomous tip" ac (dwin cymeryd) wedi ei symyd nhw ymlaen!

  • 4. Am 23:37 ar 3 Mai 2007, ysgrifennodd gogynydesti:

    Bydd hi'n ddiddorol gweld faint o'r rhagolygon yma fydd yn wir.

  • 5. Am 23:55 ar 3 Mai 2007, ysgrifennodd Gwen:

    croesi bysedd am arfon. cywilydd ar bobl wrecsam os yw'r bnp yn gwneud yn dda. dyna pam ei fod mor bwysig i ni i gyd fynd allan i bleidleisio - yn ol nicky wire - lazy people get lazy politicians...

  • 6. Am 00:01 ar 4 Mai 2007, ysgrifennodd Helen Smith:

    Gartre dw i ar y funud, ac wedi cymryd seibiant o wylio'r teledu i ddod lan i'r stafell gyfrifiadur lan llofft .....

    Yng nghanol cyffro'r etholiadau presennol, ni allaf lai nag edrych yn ôl ... i'r union adeg yma ym 1979. Ie wir, 3 Mai 1979 ac, yn ôl fy nhyb i, trychineb sy'n dal wedi gadael ei hôl arnom hyd heddi - pan enillodd y blaid geidwadol yr etholiad a Magi'n dod yn brif weinidog. Mor wahanol oedd yr hinsawdd y pryd hynny - byth eto (gobeithiaf o waelod calon)!

    Yn wir, mae'n dipyn o ryfeddod mor bell rydym ni fel cenedl wedi cyrraedd oddi ar hynny, a'r newid cyfansoddiadol sydd wedi galluogi'r Cynulliad i ddod i fodolaeth - rydym wedi symud ymlaen gymaint fel y byddai'n hawdd iawn i bobl anghofio'n llwyr am gystudd a chyni'r 80au a dechrau'r 90au, am fod y cyfnod hwnnw fel pe bai mor bell yn ôl - mae fel pe bai cyfnod y diweithdra mawr a'r dadfeilio a brofwyd mewn cymunedau ar hyd a lled y wlad yn perthyn i ryw hunllef sydd bron yn afreal.

    Y gamp, yn yr oes sydd ohoni, yw peidio byth ag anghofio, rhag i ni lithro'n ôl .......

    A dyma fi'n gorffen fy mhwt ....

    Hwyl a nos da (mynd yn ôl at y teledu y byddaf - nid i 'ngwely - ddim ar unrhyw gyfri' - mae'n rhy gyffrous!)

  • 7. Am 00:02 ar 4 Mai 2007, ysgrifennodd Ronaldinhollew:

    Arwydd o gynydd bach i Blaid Cymru, er yn anffodus fe fydd Llafur dal i rheoli!

    Yng Nghastell Nedd ychydig yn defnyddio'u pleidleisiau i bleidleisio am BNP, eraill yn pleidleisio am Alun Llewelyn, ymgeisydd gwych o Blaid Cymru!

    Er roedd presenoldeb Gwenda Thomas (Llafur) ar y stadau cyngor gyda'i uchelseinydd wedi gyrru pobl allan. A yw'n bosib gwneud y teclynau swnllyd yn anghyfreithlon cyn yr etholiad nesaf?

  • 8. Am 00:02 ar 4 Mai 2007, ysgrifennodd gogynydesti:

    bydd hi'n ddiddorol gweld faint o rhain fyd dyn troi allan yn wir.

  • 9. Am 01:54 ar 4 Mai 2007, ysgrifennodd Bobi Bangor:

    Maes G ym Mangor = Maesgeirchen, Vaughan, nid Maes Garmon!! ;-)

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.