Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Y Blog BYW 10-11

Vaughan Roderick | 17:43, Dydd Iau, 3 Mai 2007

10.59 Y blaidlais bost yn Llanelli yn agos iawn. Plaid yn meddwl bod hynny'n ffafrio nhw

10.50; Ein panelwyr ni mewn hwyliau da heno ...dioch byth! Eleri Morgan yn darogan y bydd hi'n saith y bore cyn cyhoeddi canlyniadau Caerdydd

10.40 Richard Wyn yn awgrymmu y bydd canran y bleidlais Lafur yr is heno nac mewn unryw etholiad ers 1918

10.35 rhaglen S$C wedi cychwyn Aled Huw yn darogan bod Llanelli'n agos

10.30 Mwy o'r arolwg
Pwy ddylai fod a'r dylanwad mwyaf dros lywodraeth Cymru?
Y cynulliad 56%
San Steffan 19%

10.28; "Turnout" o hyd at drigain y cant mewn ardaloedd Ceidwadol yn Abertawe a Chaerdydd

10.25 Canlyniad arall o arolwg barn y Â鶹ԼÅÄ.
Os oedd na refferendwm i droi'r cynulliad yn senedd a'r hawl i ddeddfu a chodi trethi. Sut byswch chi'n pleidleisio?
Ie;47%
Na;43%
Ansicr 10%


10.20 Y Toriaid yn hyderus yng Ngorllewin Casnewydd. Llafur yn becso am ddwyrain y ddinas

10.00; Mae'n ddeg o'r gloch. Bant a ni felly. Dwy'n cyfrannu i raglen Radio Cymru ymhen ychydig funudau ac yn cychwyn ar S4C am 10.30. Gai bach o rybudd- peidiwch â disgwyl gormod o flogio yn yr oriau cynnar hesb a maddeuwch i mi am unrhyw "deipos" neu gam-sillafu. Fe fydd cyflymdra a chywirdeb ffeithiol yn bwysicach na chywirdeb teipio heno! Mae arolwg barn gan y Â鶹ԼÅÄ yn awgrymu y bydd 58% o'r etholwyr yn pleidleisio...mi fwytai het Richard Wyn Jones os ydy honna'n gywir. Mae'r arolwg hefyd yn awgrymu mae'r llywodraeth glymblaid rhwng Llafur a Phlaid yw hoff glymblaid bosib yr etholwyr gyda'r "enfys" yn ail. Y dewis lleiaf poblogaidd yw clymblaid rhwng Llafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 21:08 ar 3 Mai 2007, ysgrifennodd Gwilym Euros:

    Edrych mlaen i'r rhaglen heno Vaughan. Yn ol pob son, "turnout" siomedig yma yn Stiniog tua 30%. Sgen ti unrhyw sibrydon a shocks posib i ni Vaughan?

  • 2. Am 22:09 ar 3 Mai 2007, ysgrifennodd Gwen:

    edrych ymlaen yn fawr i ddilyn yr holl hanes - y blog dros yr wythnosau diwetha wedi bod yn gret. cadwa'r gwaith da i fynd tan y bore!

  • 3. Am 22:10 ar 3 Mai 2007, ysgrifennodd Gwilym Euros:

    58%turnout.....nefar in Ewrop good boy!

  • 4. Am 22:18 ar 3 Mai 2007, ysgrifennodd Aled Price:

    Ppaid poenj am r teipos Vaughan!
    Pob hwyl heno -beth am y posibilrwydd o glymblaid Llafur gyda'r annibyns tybed?

  • 5. Am 22:30 ar 3 Mai 2007, ysgrifennodd Gwen:

    oes gan eaglestone unrhyw siawns yn arfon?

  • 6. Am 22:34 ar 3 Mai 2007, ysgrifennodd gogynydesti:

    Diolch am y blog. mae wedi bod yn ddiddorol iawn, a dwi yn un sy'n edrych ymlaen am noson gyffrous.

  • 7. Am 22:56 ar 3 Mai 2007, ysgrifennodd Arfon Jones:

    Vaughan,

    Wedi mwynhau y blog yn fawr iawn - Diolch
    Nodyn - Turnout yn Wrecsam yn isel, dipyn gwell yn Ne Clwyd - tua 45% mewn ardaloedd gwledig fel Dyffryn Ceiriog, tipyn is mewn ardaloedd Llafur fel Cefn Mawr.

  • 8. Am 23:02 ar 3 Mai 2007, ysgrifennodd Hedd Gwynfor:

    Gobeithio fod y sibrydion am Llanelli yn gywir, ond bydd hi'n agos iawn. Roedd Llafur wedi sicrhau fod bownsars mawr yn gwisgo crysau t coch llachar wrth ddrysau yr holl orsafoedd pleidleisio er mwyn rhoi pwysau ar yr etholwyr i bleidleisio Llafur, Tad Catherine ei hunan oedd un o'r bownsars ym Mhontyberem! Turnout ym Mhontyberem yn tua 48% am 7yh.

  • 9. Am 23:07 ar 3 Mai 2007, ysgrifennodd Gwen:

    ty'd nol ar radio cymru - pethau'n dechrau mynd braidd yn ddiflas - angen pundit go iawn! sut mae pethau yng ngorllewin clwyd? unrhyw siawns y bydd pugh yn llwyddo ennill ar draul erchylldra'r ymgeisydd ceidwadol?

  • 10. Am 23:10 ar 3 Mai 2007, ysgrifennodd Bedd Gelert:

    'Bownsars' Roeddwn yn meddwl nad oedd hawl gwisgo crysau lliwgar mor agos i'r orsafoedd bleidleisio...

  • 11. Am 23:35 ar 3 Mai 2007, ysgrifennodd Gwen:

    unrhyw syniad beth yw'r turnout eto, Vaughan?

  • 12. Am 00:39 ar 4 Mai 2007, ysgrifennodd Huw Morgan Jones:

    Iow! Cieran, ti'n iawn?!

    Neis gweld ti ar y teledu, yn edrych yn smart! Ges i sioc gweld ti'n y car gyna!

    Unryw prospect am Ynys Mon?? Gyna i deimlad reit dda y bydd Plaid Cymru yn dod ar y brig.

    Dal ati.
    Huw.XX

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.