Rhywle β¦draw dros yr enfysβ¦
Yn ddigon rhesymol maeβr holl sylw yn y senedd ar hyn o bryd ar ymdrechion Rhodri Morgan i ffurfio llywodraeth ar sail clymblaid neu gytundeb daβr Democratiaid Rhyddfrydol neu Blaid Cymru. Does fawr o son am yr opsiwn arall β y llywodraeth ddi-Lafur a adwaenir fel yr βenfysβ.
Dyw hynny ddim yn golygu nad ywβr opsiwn honno yn bosibiliad go iawn. Mae ffynonellau o fewn y Democratiaid Rhyddfrydol yn awgrymu bod gan Rhodri Morgan tan y penwythnos yma iβw hargyhoeddi mai cytundeb rhwng y ddwy blaid ywβr ffordd orau ymlaen. Yn y cyfamser maent yn pwysleisio eu bod yn parhau i drafod Γ’ Phlaid Cymru hefyd.
Mae ffynonellau o fewn Plaid Cymru yn cadarnhau hynny. Mae 'na awgrym y bod y blaid yn fodlon aros tan ddydd Mercher nesaf i weld sut hwyl mae Rhodriβn ei gael. Os nad yw Llafur yn agos at gyrraedd cytundeb erbyn hynny fe fydd trafodaethau go iawn yn cychwyn rhwng y gwrthbleidiau.
Fy nealltwriaeth i yw bod Plaid Cymru aβr Democratiaid Rhyddfrydol yn ystyried clymblaid ffurfiol rhwng y ddwy blaid i ffurfio llywodraeth. Fe fyddaiβr llywodraeth honno yn dibynnu ar gytundeb gydaβr Ceidwadwyr i sicrhΓ’u mwyafrif ond heb aelodau Ceidwadol wrth fwrdd y cabinet. A fyddai hynnyβn ddigon iβr TorΓ―aid? Maeβn anodd gwybod.
SylwadauAnfon sylw
Wedi clywed yr un stori, gan Geidwadwr oedd yn chwerthin wrth adrodd hi.
Gan bod y Cynulliad wedi colli'r record am aelodau benywaidd, ydy nhw nawr am sefydlu un arall - sef llywodraeth gyda'r canran isa yn y byd o aelodau'r senedd yn perthyn iddi? Jest dros 1 ym mhob 3 os dim ond y Lib Dems a Phlaid bydd yn rhan ohoni.
Ydy hynny'n ddigon o liwiau i gownto fel enfys?
Digon i'r TorΓ―aid? Mae gen i amheuaeth gref na fyddai hynny'n ddigon i Blaid Cymru, a allai deimlo rheidrwydd i lastwreiddio ei pholisΓ―au er mwyn creu undod Γ’ phlaid arall sydd mor wrthun iddi yn y bΓ΄n. Dwy ddim yn credu y byddai'r fath lywodraeth 'enfys' yn para'n hir cyn dangos rhaniadau sylfaenol.
Fy marn bersonol i yw y dylai Plaid Cymru a'r Blaid Lafur geisio dod i gytundeb i greu llywodraeth - wedi'r cwbl, mae ganddynt fwy o dir cyffredin o lawer nag a fu erioed rhwng Plaid Cymru a'r TorΓ―aid.
Y flaenoriaeth yw cael llywodraeth weddol unedig nad yw'n debygol o gwympo cyn diwedd ei thymor naturiol - y peth olaf sydd ei eisiau yw ail etholiad - wedi'r cwbl, llai na hanner y pleidleiswyr a drafferthodd i fwrw eu pleidlais ar 3 Mai, a byddai'r ffigur hwn lawer iawn is pe bai ail etholiad - mor isel, ofnaf, fel na fyddai mewn gwirionedd yn rhoi mandad i neb, beth bynnag fyddai'r canlyniad.