Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Canlyniadau'r rhestr

Vaughan Roderick | 09:58, Dydd Iau, 10 Mai 2007

Mae nifer o bobol wedi gofyn a ydy canlyniadau rhestr etholaethau unigol ar gael ar y we. Yn anffodus dw i wedi methu dod o hyd iddyn nhw. Mae'r rhan fwyaf ohonynt gen i ond yn anffodus nid ar ffurf sy'n hawdd ei hatgynhyrchu. Os ddoi ar eu traws fe wnâi bostio dolen. neu safle yw'r bet gorau.

Yn y cyfamser dyma ychydig o bigion diddorol. Roedd y Torïaid ar frig y rhestr mewn pedair etholaeth lle'r oedd eu hymgeiswyr etholaethol yn aflwyddiannus sef Bro Morgannwg, Brycheiniog a Maesyfed, Dyffryn Clwyd a Maldwyn. Roedd y Democratiaid Rhyddfrydol yn fuddugol o safbwynt y bleidlais restr yng Ngorllewin Abertawe tra'n aflwyddiannus yn y frwydr etholaethol. Ym mhob sedd arall yr un blaid oedd yn fuddugol yn y ddwy ornest.

Os ydych chi'n ymddiddori mewn unrhyw etholaeth arbennig- gofynnwch a chwi a gewch!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 12:22 ar 10 Mai 2007, ysgrifennodd Bettsy:

    Diddorol gweld rhai Islwyn a Chaerffili i gael syniad o ble daeth pleidleisiau yr ymgeisydd annibynol oedd yn sefyll ac hefyd gweld pa mor agos oedd PC at Lafur yn y dwy etholaeth?

  • 2. Am 12:39 ar 10 Mai 2007, ysgrifennodd Rhys:

    Be am ?

  • 3. Am 13:34 ar 10 Mai 2007, ysgrifennodd Vaughan:

    Bettsy, Mae'n ymddangos bod y bleidlais annibynnol wedi gwasgaru yn y ddwy etholaeth. Dyma'r ffigyrau rhanbarthol; Caerffili Llaf 9707, PC 6287, Ceid 3148, Dem Rh. 1601, BNP 1380, UKIP 1201, Ann 1035. Islwyn Llaf 9925, PC 5049, Ceid 2283, Dem. Rh.1482, UKIP 1221, BNP 1213

  • 4. Am 16:52 ar 10 Mai 2007, ysgrifennodd Dewi:

    Canlyniadau Islwyn a Chaerffili roeddwin iar ol hefyd....Rhys - dim manylion fesul etholaeth.

  • 5. Am 13:57 ar 11 Mai 2007, ysgrifennodd Arfon Jones:

    Mi hoffwn i weld o ba wardiau daeth pleidleisiau y BNP a UKIP yn Wrecsam, De Clwyd, Glannau Dyfrdwy a Delyn, rhai traddodiadol Lafur neu draddodiadol Geidwadwyr.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.