Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Llunio'r llywodraeth

Vaughan Roderick | 14:21, Dydd Iau, 31 Mai 2007

Mae Rhodri Morgan newydd gyhoeddi ei gabinet gan ddewis bod yn geidwadol o safbwynt ei bobol ond yn radicalaidd wrth ddidoli'r gwaith. Does 'na ddim un aelod newydd yn y cabinet. Mae hynny'n syndod. Ydy Rhodri yn cadw dwy sedd yn wag yn sgil ymadwiad Alun Pugh a Sue Essex ar gyfer partneriaid clymblaid posib?

Y rhestr yn gyflawn;

Gweinidog Busnes a Chyllid; Jane Hutt. Hwn yw'r penodiad allweddol. Fe fydd Jane yn lysgennad i'r gwrthbleidiau gan ofalu am y meysydd lle mae mwyaf angen osgoi gwrthdaro - busnes y siambr a llunio cyllideb.

Addysg, Diwylliant a'r Iaith Gymraeg; Carwyn Jones. Penodiad clyfar arall. Fe fyddai "gweinidog plesio Plaid Cymru" yn ddisgrifiad teg o'r swydd yma.

Gweindog Cefn Gwlad a Chynaladwyaeth; Jane Davidson

Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Gwasanaethau Cyhoeddus; Andrew Davies

Economi a Thrafnidiaeth; Dr Brian Gibbons

Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol; Edwina Hart. A fydd aelod Gwyr yn fodlon cau adran niwroleg Abertawe?

Cyfrifoldebau Andrew Davies a Brian Gibbons yw'r syndod mwyaf. Mae gwireddu argymhellion adroddiad Beecham yn waith pwysig i Andrew ond go brin y bydd e'n blest i golli ei hen adran a gweld yr enw yn newid.

"The department of speed-dating" oedd llysenw gwatwarus yr adran Fenter, Arloesi a Rhwydweithiau. Bydd 'na ddim colled ar ol yr enw yna!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 06:52 ar 1 Mehefin 2007, ysgrifennodd ceredig:

    Fydd angen i JD brynu par o wellingtons a dysgu beth yw'r gwahaniaeth rhwng buwch ac tharw. Oes ganddi gymwysterau o gwbwl ar gyfer swydd cefn gwlad, heblaw efallai ei bod wedi bod yno unwaith neu ddwy?

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.