Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Byddwch barod i wylltio

Vaughan Roderick | 16:41, Dydd Iau, 31 Mai 2007


Mae Matthew Parris yn .

"Oh, I know. Another grumpy Englishman grumbling about bilingualism. And I do realise the use of a language can be out of courtesy and respect, not mere practicality. But in my enforced wait at Newport I never heard a single passenger speak Welsh. Ears rang with a constant stream of announcements repeated in two languages, taking twice as long to convey. There were twice as many notices stuck on walls and steel posts: these too had to be in both languages – the clutter of signage confusing the eye. Network Rail was doubling the time, space, noise and visual nuisance of public announcements, and hampering access to information, for whose benefit? The largest group of non-English-speakers using Newport station are probably Poles."

Diolch i Andy yn Melbourne am dynnu fy sylw at hwn. Ond dyw'r e-fyd yn fach?

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 18:31 ar 31 Mai 2007, ysgrifennodd iestyn ap dafydd:

    Moment 'Spartacus' yma?

    "Wy'n defnyddio gorsaf Casnewydd...." (yn weddol aml fel mae'n digwydd)

  • 2. Am 20:00 ar 31 Mai 2007, ysgrifennodd Robert Humphries:

    Un o Gasnewydd ydw i'n wreiddiol, a phob tro fe ddychwelaf i'm dinas gartrefol, rwyf yn ymfalchio yn y ffaith ei bod yn edrych (ac yn swnio) yn fwy "Gymraeg." Mae 'na lawer mwy o'r iaith yn y ddinas heddiw nag y fu pan oeddwn i'n blentyn.

    Anffodus go iawn ydy sylwadau Parris, ac yn dangos ei anwybodaeth o dyfiant ein iaith ni a'i phwysigrwydd i ddinas newyddaf Cymru.

  • 3. Am 23:13 ar 31 Mai 2007, ysgrifennodd Linda:

    Mr.Grumpy yn wir!Ella fod o wedi cael diwrnod gwael. Ond wir , does ddim esgis am sylwadau mor blentynaidd:(

  • 4. Am 03:27 ar 1 Mehefin 2007, ysgrifennodd Carwyn Edwards:

    Dyma esiample arall pam ers i mi symud i UDA dwi ddim yn darllen papurau newydd Llundain. Mae nhw mor blwyfol a'r Arizona Republic dyddia yma. Ydi hi tymor "Bash the Welsh" dyma erthygl arall dilyn stori y Dolffins yn negyddol am yr iaith Gymraeg. Mae'n rhaid fod ni yn eu poeni nhw lawr yn Fleet Street!!

  • 5. Am 08:44 ar 1 Mehefin 2007, ysgrifennodd Dewi:

    Mae'n bosib ateb i'r twpsyn trwy ddilyn y ddolen.

  • 6. Am 11:49 ar 1 Mehefin 2007, ysgrifennodd Arfon Jones:

    Be fuasai y cwdyn yma'n ddeud os fasa fo'n sefyll yn y stesion yn Bilbao, San Sebastian neu Barcelona. Mae'n debyg y buasai'n rhy dwp i sylweddoli pa iaith mae'n nhw'n siarad, Basg, Catalan neu Spaeneg!!

  • 7. Am 12:39 ar 1 Mehefin 2007, ysgrifennodd Helen:

    Dyma brofi'r pwynt ynglyn â pham na ddylai PC glosio at y Torïaid - man a man ychwanegu enw'r rhech hwnnw at y rhestr (Wiggins a'i griw!).

  • 8. Am 13:00 ar 1 Mehefin 2007, ysgrifennodd ianjamesjohnson@hotmail.com:

    Roeddwn i'n hoff iawn o'r ymateb 'ma:

    "Presumably Mr Parris didn't hear any fellow passengers speaking Welsh because they all understood the announcement and got on the train.

    Nick Evans, London,"

    ;)

  • 9. Am 13:10 ar 1 Mehefin 2007, ysgrifennodd Brian Williams - Journey Latin America Cyf:

    Dw i'n adnabod Matthew Parris, ac yn sicr, nid dyn twp yw hwn. Mae ganddo brofiad eang o deithio ym Mheriw a Bolifia, ac yn ei lyfr 'Inka Cola' mae o'n dangos cydymdeimlad a pharch i'r diwylliant lleiafrifol y Quechua a'r Aymara.

    Mae ei sylwadau rhagfarnllyd yng Nghasnewydd yn fy siomi, ond os fydd 'na ymateb sylweddol i'w erthygl ar Times Online, tybiaf cawn ymddiheuriad gan y dyn ddiymhongar hwn.

  • 10. Am 16:29 ar 1 Mehefin 2007, ysgrifennodd Huw Waters:

    Gwirion iawn. Mae'n cymyd 'cheap shot' at y Gymraeg, am iddo bod mor ffol a fethu tren.

    Buasai synnwyr cyffredin yn dweud i roi eich pen trwy drws tren a gofyn i rywun arall a yw'r un yma'n stopio yn Y Gelli Gandryll.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.