Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth

Archifau Ionawr 2012

Dau Fedd, A Hedd Bleddyn

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Hywel Gwynfryn | 13:56, Dydd Llun, 30 Ionawr 2012

Sylwadau (0)

Dwi'n falch o gyhoeddi, nad bedd Hedd, oedd y naill fedd na'r llall, ond yn hytrach beddau dau gymeriad o ardal Llanbrynmair lle bum yn crwydro megis pererin yn ddiweddar.

Marian Rees aeth a fi i fynwent fechan y Llan, tua dwy filltir tu allan i Lanbrynmair, a phwy'n well i siarad am y ddau oedd wedi eu claddu nac awdur llyfr swmpus ar hanes Llanbrynmair. Mae o'n lyfr mor swmpus ei faint ( a'i gynnwys hefyd, wrth gwrs) petae o wedi disgyn ar fy nhroed i, mi fasa ymweliad a'r ysbyty agosa' wedi bod yn angenrheidiol.

Llyfr bach teneuach o lawer oedd yn nwylo crefftus Hedd Bleddyn, y saer cerrig-beddau a saerniwr limrigau poblogaidd y Talwrn.

Cymeriadau Maldwyn oedd y llyfr, ac un o'r cymeriadau oedd dyn efo'r enw Beiblaidd Demetrius, y daeth Paul ar ei draws. Ond yn wahanol i'r Demetrius Beiblaidd nid gof arian oedd Demetrius, Hedd Bleddyn, ond yn hytrach cerfiwr coed, ac mae ei hanes o yn ddiddorol iawn fel y cewch chli glywed ar raglen Nia yn fuan.

Erbyn bore dydd Gwener, roeddwn i wedi cyrraedd Gwersyll yr Urdd, Llangrannog, i ymuno ym mharti dathlu penblwydd yr Urdd yn 90 oed.

Ym 1922 fe luniodd Ifan ab Owen Edwards lythyr yn galw ar bobol ifanc Cymru i ymuno gyda mudiad newydd i achub diwilliant Cymru.

Mae Cymru mewn cymaint o berygl heddiw ag y bu erioed. Mae cymaint o ddieithriaid o'n cwmpas fel y mae hyd yn oed ein hiaith, mewn perygl o ddiflannu oddi ar fryniau ac o ddolydd ein hannwyl wlad.

Cri o'r galon. Ac fe'i hatebwyd gan 720 o bobol ifanc Cymru. Dyna oedd aelodaeth yr Urdd ar ddiwedd y flwyddyn.

Naw deg mlynedd yn ddiweddarach mae'r aelodaeth o gwmpas 50,000. Mae'n debyg mae'r ddau berson pwysica' yn y parti oedd Gwenda Owen a'i chaneuon bywiog a Carwyn Jones, y Prifweinidog, a'i gyllell finiog, i dorri'r deisen penblwydd.

Roedd mab y sylfaenydd, Prys Edwards a'i deulu yno hefyd. Penderfynnodd Prys ymddeol o fod yn un o ymddiriedolwyr y Mudiad, ond mae'n parhau yn Lywydd am Oes, ac felly yn rhan o'r cynlluniau i ddatblygu'r Urdd ymhellach, a chynyddu'r aelodaeth yn ystod y deng mlynedd nesa.

I gloi, 'dwi am ddychwelyd i Lanbrynmair, oherwydd cyn i mi adael, fe ges i limrig yn boeth o ffwrn yr awen gan Hedd, yn amddiffyn Llanbrynmair.

Gyfeillion wrth fynd mewn cerbyda
O'r gogledd i'r de ar eich siwrna
Yn wir ar fy ngair
Mae mwy'n Llanbrynmair
Na lle hwylus i ddefnyddio toiled

Cofiwch gysylltu, os oes na stori dda yn eich ardal chi , stori i Gymru gyfan ei mwynhau. Y cyfeiriad hywel@bbc.co.uk

Cyfraniad Mawr y Pentre Bach

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý,Ìý

Hywel Gwynfryn | 16:32, Dydd Gwener, 13 Ionawr 2012

Sylwadau (0)

Pentre bychan ydi Treuddyn rhwng yr Wyddgrug a Chaergwrle yn Sir y Fflint. Bychan o ran maint efallai, ond mae 'na le amlwg i'r Treuddyn yn ein hanes ni oherwydd yma y sefydlwyd adran gynta'r Urdd naw deg mlynedd yn union yn ôl.

Tad Ceinwen Parry oedd un o'r aelodau cyntaf, ac ar ôl cael sgwrs efo hi, 'roedd hi'n awyddus i mi weld baner yr aelwyd gyntaf honno.

Baner Treuddyn

Gyda llaw, fe fydd hanes sefydlu yr Aelwyd gyntaf honno, ar y rhaglen Cofio ar Radio Cymru, fore Sadwrn Ionawr 28ain. a deuddydd cyn hynny fe fydda i wedi bod draw i wersyll yr Urdd yn Llangrannog i ddathlu sefydlu'r Urdd yn 1922- 90 mlynedd yn ôl.

Yno fe fydda i yn sgwrsio efo'r aelodau a'r swyddogion presennol ar raglen Nia.

Ym mil naw pump tri yr es i i wersyll Llangrannog am y tro cyntaf, yn hogyn bach unarddeg oed mewn trwsus byr. 'Roedd y bechgyn yn cysgu mewn pebyll , a'r merched mewn cabanau, led cae oddiwrtha ni.

Dwi'n cofio'n glir fod 'na giang ohonan ni, un noson, wedi penderfynu cropian yn y tywyllwch o'n pebyll i fyny i'r cabanau, i ddweud 'Hylo', wrth y genod!

Hanner ffordd i fyny'r cae, dyma lais yn gweiddi "A lle i chi'n meddwl 'chi'n mynd."

Ifan Issac, un o'r prif swyddogion, mewn shorts khaki byr, a mwstash bach yn crynnu dan ei drwyn yng ngolau'r lamp, oedd wedi'n dal ni.

Fe lwyddais i, i redeg yn ôl i'r pebyll, ac erbyn i Ifan Issac gyrraedd, roeddwn i yn fy ngwely yn smalio cysgu mewn par o byjamas- a phar o wellingtons.

Desmond Healy

Desmond Healy

Roedd yr ymweliad â Threuddyn yn rhan o daith i'r Gogledd Ddwyrain ac i ardal Llanelwy, y Rhyl a Rhuddlan-pentref genedigol Phillip Jones Griffiths, un o ffotograffwyr pwysicaf yr ugeinfed ganrif. Fe ges i ei hanes o a hanes y pentref hefyd gan Desmond Healy, cyn brifathro Ysgol Glanclwyd .

y ddwy garreg bedd

Diolch i chi am ymtaeb mor gadaranhaol i'r sgyrsiau ar raglen Nia am feddau a mynwentydd diddorol Cymru. Wyddech chi fod na ddwy garreg fedd ym mynwent y Rhyl i un gŵr, efo tri enw. Pwy oedd o? Gwrand'wch ar rageln Nia yn ystod yr wythnos nesa ac fe gewch yr ateb, gan, Hywel Jones.

Ac os wyddoch chi am feddau a mynwentydd diddorol cysylltwch efo mi hywel@bbc.co.uk.

Blwyddyn Newydd Dda!

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Hywel Gwynfryn | 13:29, Dydd Mawrth, 3 Ionawr 2012

Sylwadau (0)

Eleni fe fydd Radio Cymru yn darlledu nifer o raglenni fydd yn rhoi sylw i daith yr Iaith Gymraeg, oherwydd mai ym mil naw chwech dau, hanner can mlynedd yn ôl, y traddododd Saunders Lewis ei ddarlith radio enwog - Tynged yr Iaith, ac fel ymateb i her y ddarlith honno yn yr un flwyddyn, fe sefydlwyd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Beth arall ddigwyddodd hanner can mlynedd yn ôl?

Fe sefydlwyd y gwasanaeth hofrenfad cyntaf ym Mhrydain rhwng y Rhyl a Wallasey - lle ganwyd Saunders Lewis fel mae'n digwydd.

'Sgwn i brynodd eich tad y Ford Cortina cyntaf erioed welodd olau dydd ym 1962? Roedd o'n costio £573.

Fe drechwyd un o dimau pêl-droed gorau'r Eidal, sef AC Napoli, mewn cystadleuaeth Ewropeaidd a hynny ar gae Farrar Road, Bangor - yr hen gae erbyn hyn wrth gwrs - ac efallai bod 'na un neu ddau yn y dorf yn bwyta creision blas caws a nionod ac yn mwynhau'r profiad am y tro cyntaf diolch i gwmni'r Rhyfeddod Euraidd!

Ymhen hanner can mlynedd a fydd na rywun yn edrych yn ôl ar y Gymru gyfoes 'sgwn i ac yn dweud: 'Ew, roedd 2012 yn flwyddyn ddiddorol'.

Yn bersonol 'dwi'n gobeithio y daw'r cyfle i mi gyfarfod llwyth o bobol siaradus wrth i mi grwydro Cymru yn holi hwn a'r llall, ac yn wir rydw i ar fy ffordd y funud yma drwy'r gwynt a'r glaw i Grymych i sgwrsio efo Cwmni Drama'r Mochyn Du sy'n dathlu ei ben-blwydd yn ugain oed, ac yn gwneud hynny yn Theatr Mwldan ddiwedd yr wythnos, ac fe gewch chi'r hanes i gyd ar raglen Geraint Lloyd pnawn fory rhwng 2 a 5 ar Radio Cymru.

Cofiwch gysylltu os 'da chi am i mi roi sylw cenedlaethol i ddigwyddiadau lleol yn eich ardal chi.

Y cyfeiriad e-bost? hywel@bbc.co.uk

Blwyddyn Newydd Dda!

Mwy o’r blog hwn…

Pynciau dan sylw

    °ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

    Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

    Cyfranwyr diweddaraf

    Â鶹ԼÅÄ iD

    Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

    Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

    Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.