Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth

Archifau Awst 2009

Y sioe fach, fawr

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Hywel Gwynfryn | 11:02, Dydd Gwener, 21 Awst 2009

Sylwadau (0)

Fe sefydlwyd Sioe Dinbych a Fflint 147 o flynyddoedd yn ôl ac mae hi wedi tyfu a thyfu.

Yn wir mae popeth yn fawr yno - yn enwedig y tractorau.

Ac yng nghysgod John Deere, yr anghenfil gwyrdd a melyn, y ces i'r pleser o gyfarfod Mr Glyn Jones.

hywel_john_deere.jpg

Geraint Lloyd oedd wedi gofyn i mi fynd yno gan i fod o wedi gwirioni ar hen dractorau. Mae ganddo ddau ar hyn o bryd yn ei sied.

Ac o'r Hydref ymlaen fe fydd Geraint a finnau'n crwydro Cymru ac yn agor drysau siediau'r genedl i weld beth sy'n cuddio yn y corneli tywyll..

Os hoffech chi i ni ddwad draw acw cysylltwch efo fi drwy ebostio hywel@bbc.co.uk

Heb flewyn ar fy nafod...

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Hywel Gwynfryn | 10:57, Dydd Gwener, 21 Awst 2009

Sylwadau (0)

...ac heb hollti blew chwaith, mae Elaine yn gwybod sut i edrych ar ôl ei chwsmeriaid.

Bob Nos Fawrth mae 'na groeso i ddynion Llanrug ddŵad draw i'w siop trin gwallt am 'short, back and sides'.

Yn wir mae ei siop ar agor yn hwyr bob nos. Dyna i chi wasanaeth.

Chewch chi mo'ch trin fel'na yn y brifddinas. Ac roedd y brif ddynas, Elaine, a'i merch wrth law i ofalu am Meirion Jones, o Fand Deiniolen, a finna'.

hywel_trin_gwallt.jpg

Segur fydd y cyn a'r morthwyl mwy...

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Hywel Gwynfryn | 10:16, Dydd Gwener, 21 Awst 2009

Sylwadau (1)

Neu o leia' segur oedan nhw ddeugain mlynedd yn ôl pan gaewyd chwarel Dinorwig.

Ond ers sawl blwyddyn bellach mae , wedi bod yn denu ymwelwyr wrth y miloedd i'r safle sydd wedi ail greu bywyd yn y chwarel.

hywel_tren.jpg

'Does 'na neb yn gwybod mwy am fywyd y chwarel na Richard Jones. Fe aeth i weithio yno yn bymtheg oed. Ac fe roddodd bennill i mi yr oedd o wedi ei sgwennu am y chwarelwyr:

richard_jones.jpg

Pa ffodus ŵr a faidd roi sen
I'r gŵr sy'n gwisgo'r siaced wen
Yn fore, fore, gyda'r wawr
Fe'i gwelir ar ei glogwyn mawr
Yn sŵn trosolion gweithia'i ffordd
Teyrnasoedd deimlant bwys ei ordd
Mae'n caru ei wlad, mae'n Gymro pur
Wrth drin y graig efo'r ebill ddur.

Mynwent y morwyr

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Hywel Gwynfryn | 09:43, Dydd Gwener, 14 Awst 2009

Sylwadau (1)


john_meirion_jones.jpg

Ia! Dyna le 'roeddwn i ddydd Iau rhyw dair milltir o Langrannog ym mynwent capel y Wîg, ac yng nghwmni John Meirion Jones, cofiannydd swyddogol Bois y Cilie.

Fe fydd sgwrs John Meirion am y morwyr sydd wedi eu claddu yma i'w chlywed ar raglen Nia yr wythnos nesa'.

englyn_t_llew_jones.jpg

Ar hyn o bryd mae John wrthi'n paratoi llyfr am fywyd a bro , ac fe ddangosodd y bedd i mi gydag englyn Dic Jones yn coffau ei gyfraniad aruthrol i'n llenyddiaeth ni.


Y cowntes...

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Hywel Gwynfryn | 11:59, Dydd Mercher, 12 Awst 2009

Sylwadau (0)

eisteddfod_rhiannon_lewis.jpg

...neu i roi iddi ei theitl crand yn llawn - Rhiannon Lewis, Cowntes Cwmann.

Dyma oedd tîm eisteddfodol Radio Cymru yn Eisteddfod Y Bala eleni:

Dylan Ebenezer
yn crwydro'r maes ac yn gwenu ar Ferched y Wawr (ac unrhyw ferched eraill sy'n digwydd mynd heibio); Nia Lloyd Jones yn patro yn y Pafi pinc a'r Cowntes o Gwmann wrth fy ochor inna' yn y stiwdio.

Rhaid i mi gyfaddef mod i'n gwybod yr un faint am gerddoriaeth ac y mae Alwyn Humphreys am gysgu mewn byncabin. Dim llawer.

A dyna pam y mae Rhiannon yn angor cerddorol mewn unrhyw storm o anwybodaeth a ddaw i fy rhan.

Yn chwim ei meddwl, yn ffraeth ei thafod, ac yn hael ei bananas...a'i 'heccles cakes'!

Ond yn bwysicach na dim - bob amser yn cymryd ei gwaith o ddifri'!

eisteddfod_hywel_rhiannon.jpg

Mwy o luniau Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru o Steddfod y Bala.


Oriel luniau Eleri Sion a Daf Du o Gaffi Cyfnod.


Merched y Wawr - y stori yn fras!

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Hywel Gwynfryn | 13:45, Dydd Gwener, 7 Awst 2009

Sylwadau (0)

Ar ôl i amgylchynu'r Pafiliwn efo'i bras ganol yr wythnos, 'roedd 'na ddirgelwch ynglŷn â beth oedd wedi digwydd i fra Mair Penri, o'r Parc.

Mae'r dirgelwch wedi ei ddatrys...

pafiliwn_pinc.jpg

Gwyl Ffilmiau newydd i'r canolbarth

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Hywel Gwynfryn | 13:35, Dydd Gwener, 7 Awst 2009

Sylwadau (0)

can_office.jpg

Digwydd cyfarfod Emyr Williams, perchennog y Cann Offis yn Llangadfan ar y maes.

"Sgen ti funud?"

"Oes, tad."

"Dwi'n meddwl sefydlu Gŵyl Ffilmiau acw ym mis Tachwedd. Fyddet ti'n dod draw yn dy fan i neud sgwrs i Radio Cymru?"

"Wrth gwrs! Cysylltwch pan mae ganddoch chi fwy o fanylion."

"'Dwi 'di meddwl am enw iddi hi'n barod."

"O! Be' 'da chi am 'i galw hi?"

Beth arall ond Y Cann Ffilm Festival!

Felly os clywch chi fod Johnny Depp, Bradd Pitt, Angelina Jolie, a Rhys Ifans wedi cael eu gweld yn glanio mewn hofrenyddion preifat yn Llangadfan ym mis Tachwedd, fe fyddwch yn gwybod pam!

Ysgwyd llaw, 2009

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Hywel Gwynfryn | 11:04, Dydd Iau, 6 Awst 2009

Sylwadau (0)

O'r diwedd - y diwedd!

Fis yn ôl ar raglen Eleri a Dafydd ar Radio Cymru, cefais sialens i ysgwyd llaw efo 2,009 o bobol cyn diwedd y 'Steddfod.

Tynnwyd llun o fy llaw, efo gwybodaeth am wefan Radio Cymru arni. A bore 'ma, ar stryd y Bala am chwarter i naw fe ysgwyddais law 2,009.

Ac roedd y llaw honno yn perthyn i John, Dolben.

hywel_john_dolben.jpg

Cychwynnodd y llawdriniaeth ym Marchnad Llanelli, ac o'r fan honno i Sioe Bancffosfelen, ac wedyn y Sioe Fawr yn Llanelwedd.

Erbyn i mi gyrraedd y Steddfod wythnos yn ôl, 'roeddwn i wedi dal dwylo efo mil o bobol ac fe ddiflannodd y mil a naw oedd yn weddill yn weddol gyflym wrth grwydro'r maes, a phobol yn gweiddi:


"Ew, mae'n debyg i law!" neu "Faint gaf i am hon mewn siop ail-law?" neu "Sut yda chi, yr hen law?" neu "Lle 'da chi'n mynd ar wyliau - Cross Hands?"

Diolch i chi am fod yn barod i ysgwyd llaw efo mi, a pheidiwch â synnu, os bydd yr ymgyrch yn parhau, gyda llaw...

Y nofel fuddugol a fi

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Hywel Gwynfryn | 18:29, Dydd Mercher, 5 Awst 2009

Sylwadau (0)

Pnawn wrth fy modd yn sylwebu ar y seremoni yng nghwmni'r anghymharol Hywel Teifi Edwards.

sian_melangell.jpg

Ac ar ôl dod allan o'r stiwdio pwy welais i ond

"Gwenwch!" medda fi.

"Iawn," medda hi. "Gyda llaw, da chi yn y nofel!"

Wel, mi fydd rhaid i mi ei phrynu felly.

'Dwi eisoes wedi dechrau darllen cyfrol fuddugol Fflur Dafydd, ac yn ei mwynhau hi , er nad oes 'na ddim cyfeiriad ata i ynddi hi.

stifyn_parry.jpg

Ar wahân i Sian Melangell, fe lwyddais i dynnu llun Stifyn Parry, oedd yn edrych fel 'tae o wedi gwneud cynnig llwyddiannus i'r Steddfod i gynnal ei gynhyrchiad 'Stephen Parry meets Steven Sondheim' yn y Pafiliwn pinc.

Ac hefyd, un o'r beirniaid Manon Rhys, oedd ar frys i ddiflannu allan o'r llun.

manon_rhys.jpg


Gwr y goriad arian

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Hywel Gwynfryn | 14:55, Dydd Mercher, 5 Awst 2009

Sylwadau (0)

Unwaith eto'r prynhawn yma am hanner awr wedi pedwar fe fydd Robert Currie Mcbride, Ceidwad y Cledd, yn cario'r cleddyf mawr yn urddasol i'r llwyfan.

Swydd bwysig sydd angen dyn cyhyrog a chydnerth i'w chyflawni, gan fod y cleddyf yn pwyso rhyw ddeg pwys ar hugain.

Ond oeddech chi'n gwybod fod 'na geidwad arall ar faes, sydd wrth ei waith am wyth o'r gloch y bore?

Fo ydi Ceidwad yr Allwedd, Gwr y Goriad Arian.

eisteddfod_arthur.jpg

Yn 'Steddfod Yr Wyddgrug 2007 y derbyniodd o'r agoriad sy'n cloi holl ddrysau'r pafiliwn. A dyna ydi un o ddyletswyddau Arthur Evans am wyth o'r gloch bob bore.

Ar fy ffordd i gladdu brecwast eisteddfodol arall yr oeddwn i pan welais i Arthur wrth
ei waith, ac fe fuom ni'n rhannu atgofion am Eisteddfodau'r gorffennol.

'Roedd Arthur yn cofio mai ei Steddfod gynta' oedd Llanrwst ac fe gafodd o ei lun wedi ei dynnu efo Bob Roberts, Tai'r Felin - y canwr pop Cymraeg cyntaf, yn ôl Dafydd Iwan.

'Steddfod 1957 yn Llangefni oedd y Steddfod gynta' 'dwi'n ei chofio. Roeddwn i'n chwarae rhan Meffiboseth yn 'nrama gomisiwn yr Eisteddfod.

Ond gan fy mod yn anghofio fy ngeiriau drwy'r amser, 'roedd y cast wedi fy ail fedyddio yn Messobopeth!

Unwaith eto diolch i Arthur a'r llu stiwardiaid am y gwaith pwysig maen nhw'n ei wneud i sicrhau llwyddiant yr Eisteddfod.

Y dyn hapusaf ar y maes

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Hywel Gwynfryn | 19:29, Dydd Mawrth, 4 Awst 2009

Sylwadau (0)

iwan_llangain.jpg

Ei enw ydi Iwan. Mae o'n cael ei adnabod fel Iwan Llangain.

A fo oedd y dyn hapusa' ar y maes heddiw.

Nid yn unig oherwydd ei fod o wedi dŵad i'r Eisteddfod efo'i wraig ar eu mis mel, ond oherwydd ei fod o yn y pafiliwn heddiw i weld ei wraig Fflur Dafydd yn ennill Gwobr Goffa Daniel Owen.

fflur_dafydd.jpg

Mae hi wedi sgwennu nofel gyffrous, nofel ddirgelwch sydd hefyd yn nofel ddychanol wedi ei lleoli yn y Llyfrgell Genedlaethol yn y flwyddyn 2020.

Pwy a ŵyr erbyn hynny na fydd yr awdurdodau wedi penderfynu ail agor drysau Llyfrgell y genedl ar ddydd Sadwrn!

Dwylo dwy, ond dwylo pwy?

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Hywel Gwynfryn | 11:02, Dydd Mawrth, 4 Awst 2009

Sylwadau (0)

dwylo_01.jpgdwylo_02.jpg

Yda chi'n adnabod y dwylo yma?

Mae un yn gantores a'r llall yn ferch i ŵr sy'n hoffi lluchio'i bwysa - a'i wrthwynebwyr - yn y sgwâr reslo.

Tair wythnos yn ol fe ges i sialens gan Eleri a Daf i ysgwyd llaw efo 2009 o bobol cyn ddiwedd yr Eisteddfod.

Bore ma' dwi di cyrraedd rhif 1967 - sef blwyddyn y Steddfod ddiwetha' yn y Bala.

Felly 'fory fe fyddai'n siwr o gyrraedd y nod. 'Sgwn i pwy fydd rhif 2,009?

Gyda llaw, dyma berchnogion y dwylo - Elin Fflur a Tara Bethan.

elin_fflur.jpgtara_bethan.jpg

My Guy!

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Hywel Gwynfryn | 19:27, Dydd Llun, 3 Awst 2009

Sylwadau (0)

rhiannon_lewis.jpg

Fe alwodd Alun Guy i mewn am sgwrs yn y stiwdio. 'Roedd o'n canmol canu'r gynulleidfa yn y Gymanfa i'r cymylau.

Pobol y Bala yn gwybod sut i ganu'n deimladwy ac yn medru dehongli'r emynau yn sensitif, medda' fo wrth Rhiannon Lewis.

Ac arweinyddion Cymanfaoedd Canu hefyd yn gwybod beth i'w ddweud er mwyn cael gwahoddiad eto!

Gwrandwch ar Gymanfa'r Eisteddfod> ar iPlayer

Ymddiddan a'r Brawd Llwyd

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Hywel Gwynfryn | 19:20, Dydd Llun, 3 Awst 2009

Sylwadau (1)

eisteddfod_hywel_iwanllwyd.jpg

Cefais gwmni'r Prifardd Iwan Llwyd yn ystod seremoni coroni'r Prifardd Ceri Wyn. Enillodd Iwan y goron yn Eisteddfod Cwm Rhymni yn 1990, ac yn yr Eisteddfod honno hefyd y cyfansoddwyd yr englyn yma i blant y ddawns flodau:

Eiddil ynt yng ngŵydd y wlad-yn eu plyg
Dim ond plant am eiliad
Ar grinder ein hir barhad
Yn rhoi ias i'n goroesiad.

Tra 'roedd y merched yn dawnsio fe gawsom ni gyfle i son am gyfrol newydd o gerddi Iwan, sydd wedi'u cyhoeddi dan y teitl 'Sonedau Pnawn Sul'.

A dyma i chi damaid i aros pryd o gerdd Ceri Wyn Jones, nes cewch chi gopi o'r Cyfansoddiadau ddiwedd yr wythnos:

Mae'r afon yn diogi am awr fendigaid
a'r aber ei hun yn harbwr enaid,
a'r haul hwyrol o euraid yn y twr
fel nef y lleygwr o flaen fy llygaid.

Sarah yw'r seren

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Hywel Gwynfryn | 19:00, Dydd Llun, 3 Awst 2009

Sylwadau (1)

Saith oed ydi Sarah Louise Davies o Synod Inn. Ond fe ges i fy synnu gan ei hagwedd broffesiynol.

Dyna le 'roedd hi'n sefyll ar ganol y llwyfan enfawr yn barod i adrodd. Yn wir 'roedd hi wedi dechra' pan glywodd hi sŵn o 'r ochr. Oedodd gan edrych i gyfeiriad y sŵn, cystal â dweud: "Fy moment fawr i ydi hon, 'newch chi fod yn ddistaw."

Yna heb frys na braw ail gychwynnodd a chwblhau'r darn heb faglu. Efallai iddi gael y drydedd wobr am adrodd ond roedd hi'n haeddu'r wobr gyntaf am ddewrder.

Da iawn Sarah.

Haul-iliwlia!

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Hywel Gwynfryn | 10:54, Dydd Sul, 2 Awst 2009

Sylwadau (0)

pafiliwn_haul_02.jpg

Bore Sul cynta'r 'Steddfod, a dim ond yr haul a fi oedd wedi codi. A'r adnod a daeth i fy meddwl wrth grwydro'r maes oedd hon: 'Eraill a lafuriasant, ninnau a aethom i mewn i'w llafur hwynt.'

Ond pwy ydi'r 'eraill' sy'n gweithio mor galed yn y winllan ddiwyllianol i sicrhau llwyddiant yr Wyl, flwyddyn ar ol blwyddyn?

Fe ges i sgwrs efo un neu ddau ohonyn nhw bore 'ma.

eifion_parry.jpg

Mae'r Prif Arolygydd Eifion Parry o Abergele wedi ymddeol bellach ac yn gofalu am y meysydd parcio, gan wneud yn siwr fod y traffic yn llifo mor esmwyth a gwydraid o wisgi Frongoch.

akison_nicola.jpg

Y ddwy chwaer Alison Seaman o Dreffynon a Nicola Dunn o'r Fflint sy'n gweithio i gwmni diogelwch ar y Maes. Mae nhw'n mynd o steddfod i steddfod ac o sioe i sioe.

A lle mae nhw'n mynd nesa?

"Adra' gobeithio," oedd ateb Alison, efo gwen fawr ar ei hwyneb.

robin_a_david.jpg

Robin Griffiths o Borthmadog a David Charles, sydd yn y coleg yn Salford.

Swyddogion ail-gylchu i Gyngor Sir Gwynedd ydi'r ddau, ond fe fu Robin am gyfnod yn geidwad y goleudy - mwy nag un a deud y gwir, gan gynnwys Ynys Enlli a'r Skerries.

delwyn_evans.jpg

Y newyddion gwych i Gymru ydi fod dirprwy faer Dolgellau yn ddigon hapus i wisgo siaced felen y stiwardiaid.

'Roedd Delwyn Evans yn gweithio fel nyrs gymunedol yng NghaerlÅ·r cyn iddo fo ymddeol.

Ond pam oedd o am fod yn stiward?

"Yn syml iawn," medda fo "Isio rhoi rhwbith yn ôl."

A dyna nhw. Y gweithwyr a'r gwirfoddolwyr - pobol bwysig y 'Steddfod.

Batala Bermo

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Hywel Gwynfryn | 13:05, Dydd Sadwrn, 1 Awst 2009

Sylwadau (0)

Pa mor drwm ydi'r rhein, sgwn?


hywel_drwms.jpg


Helen Iles sy'n gwybod yr ateb. Athrawes ydi Helen yn Ysgol Y Traeth, Bermo, ac 'roedd hi a grwp drymiau yn gneud digon o swn bore 'ma i ddefro Iolo Morgannwg o'i fedd.

hywel_helen.jpg

Mae nhw wedi perfformio yn Brazil, Carnifal Notting Hill, a charnifal Abersoch.

Ac os 'di'r bobol yn y garafan drws nesa'n cadw sŵn ac yn eich cadw chi'n effro, dwi'n siwr y basa Batala Bermo'n fodlon, am bris rhesymol, i roi cur pen parahaol iddyn nhw am bedwar o'r gloch unrhyw fore.

Y ffynci byncbed

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Hywel Gwynfryn | 12:48, Dydd Sadwrn, 1 Awst 2009

Sylwadau (0)

"Sut 'basa chdi'n hoffi gwesty i chdi dy hun o fewn canllath i'r Pafiliwn," gofynodd y cynhyrchydd, efo gwen ddieflig ar ei wyneb.

"O, plis, plis, Mr Cynhyrchydd caredig," medda fi, gan neidio i fynny ag i lawr gyda llawenydd mawr.

Ac wele isod fy 'stafell am yr wythnos ar y maes.

hywel_bync.jpg

Gwely cyfforddus, cawod boeth, ac ar y chwith gwely sbar.

Yr hyn sydd ddim i'w weld yn y llun ydi'r stafell snwcer a'r bar coctêl i'r dde o'r gwely, a'r sinema preifat tu ôl i'r stafell gawod.

Mwy o’r blog hwn…

Pynciau dan sylw

    °ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

    Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

    Cyfranwyr diweddaraf

    Â鶹ԼÅÄ iD

    Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

    Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

    Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.